Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn dathlu Dyfarniad Cynhwysiant Ffiseg newydd ar y cyd â ffisegwyr blaenllaw yn y DU

13 Tachwedd 2024

Mynychwyd y digwyddiad gan aelodau allweddol o'r IOP, IOP Cymru, ac adrannau ffiseg prifysgolion Cymru a Lloegr. Credyd llun: Katka Photography

Dyfarniad wedi’i ddatblygu gan y Sefydliad Ffiseg law yn llaw â grŵp amrywiol o ffisegwyr mewn prifysgolion, gan gynnwys Tîm Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth.

Gwobr a ddatblygwyd gan y Sefydliad Ffiseg ochr yn ochr â grŵp amrywiol o ffisegwyr prifysgol, gan gynnwys yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Mae aelodau o’r gymuned ffiseg yn y DU ac Iwerddon wedi ymgynnull ym Mhrifysgol Caerdydd i nodi lansio’r Dyfarniad Cynhwysiant Ffiseg newydd wrth i'r cam cyntaf o geisiadau agor.

Mae'r dyfarniad yn cefnogi adrannau ffiseg mewn prifysgolion i fod yn groesawgar ac yn gynhwysol i unigolion o bob cefndir, ac mae'n olynu dyfarniad cynhwysiant rhywedd uchel ei barch y Sefydliad Ffiseg, sef Prosiect Juno.

Mae ffiseg yn faes sy’n brin iawn o hyd o unigolion o bob rhan o gymdeithas – grwpiau nad ydyn nhw’n ymuno â’r maes, neu’n aros yn y maes, neu’n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw yn y maes. Ymhlith y staff academaidd ym maes ffiseg, dim ond chwarter ohonyn nhw sy’n fenywod, ac mae llai nag un y cant ohonyn nhw’n ddu.

Mae’r dyfarniad, sydd wedi’i ddatblygu gan y gymuned ffiseg ar y cyd â’r Sefydliad Ffiseg, yn cynnig cyfarwyddyd, adnoddau a chymorth i helpu adrannau i ddenu, cadw a chefnogi'r doniau a'r syniadau amrywiol sy'n gwneud ffiseg yn wych – a thanio dyfodol gwell i bob un ohonon ni.

Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd oedd un o’r 11 adran ffiseg yn y DU ac Iwerddon a gafodd ei dewis i gymryd rhan yn y cynllun peilot, gan weithio mewn partneriaeth â'r Sefydliad Ffiseg i gyd-greu'r dyfarniad.

Rydyn ni wrth ein boddau â’r Dyfarniad Cynhwysiant Ffiseg newydd, gan nad rhywedd yn unig sy’n bwysig – mae cymaint o nodweddion sydd heb eu cynrychioli ym maes ffiseg. Dim ond drwy fod â thîm amrywiol iawn y byddwn ni’n gallu creu datrysiadau mawr i’r problemau yn y byd sydd ohoni.

Wendy Sadler, yn aelod o banel cynllun peilot y dyfarniad

Y digwyddiad hwn oedd diweddglo sioe deithiol Dyfarniad Cynhwysiant Ffiseg y Sefydliad Ffiseg ledled y DU ac Iwerddon, a chafodd ei gynnal ddydd Llun 11 Tachwedd.

Yn bresennol yn y digwyddiad roedd Llywydd y Sefydliad Ffiseg, Syr Keith Burnett, a’r Prif Swyddog Gweithredol, Tom Grinyer, gan gynnwys grŵp llywio’r Dyfarniad Cynhwysiant Ffiseg, sy’n cynnwys ffisegwyr o bob cwr o’r ddwy wlad, a chynrychiolwyr o brifysgolion a wnaeth dreialu’r dyfarniad.

Caiff adrannau ffiseg mewn prifysgolion eu gwahodd i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb yn y dyfarniad i’r Sefydliad Ffiseg, fel y cam cyntaf wrth ymgeisio am y wobr.

Rhannu’r stori hon