Plant ysgol yn goleuo strydoedd y ddinas â gosodiadau’r Nadolig
12 Tachwedd 2024
Bydd goleuadau Nadolig wyth o blant ysgol gynradd yn goleuo strydoedd Caerdydd yn rhan o brosiect cyntaf Goleuadau’r Nadolig Plant Caerdydd y gaeaf hwn.
Yr ardal leol sy’n ysbrydoli’r arddangosfa o ddyluniadau disgyblion Ysgol Gynradd St Cuthbert yn Nhrebiwt a bydd y cyfan i’w weld pan gaiff y goleuadau eu troi ymlaen mewn achlysur arbennig ddydd Iau 14 Tachwedd yn Ardal y Gamlas ar ei newydd wedd yn y brifddinas.
Mae creadigaethau’r plant yn ein hatgoffa bod gan blant ran i’w chwarae yn gyfranwyr i’r ddinas yn y dyfodol, medd y cyd-grewyr Antonio Capelao a Dr Melina Guirnaldos Diaz o Brifysgol Caerdydd.
Prosiect Soho Kids Xmas Lights, a gafodd ei sefydlu yn Soho, Llundain gan Antonio Capelao yn 2021 a’i lywio gan arbenigedd ymchwil Dr Guirnaldos Diaz ar dreftadaeth ôl-ddiwydiannol sy’n ysbrydoli prosiect Goleuadau’r Nadolig Plant Caerdydd a gynhyrchwyd ar y cyd gan dîm o Ysgol Pensaernïaeth Cymru a Chyngor Caerdydd.
Mae’r ddau brosiect yn olrhain yr ysbrydoliaeth wreiddiol i waith creadigol disgyblion ysgol gynradd yn Newburgh, yr Alban.
Dyma a ddywedodd Mr Capelao, tiwtor dylunio yn yr Ysgol a sylfaenydd Architecture for Kids CIC: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gyflwyno prosiect Goleuadau’r Nadolig i Gaerdydd o’r diwedd eleni.”
Mewn cyfres o weithdai dylunio dan arweiniad cyd-gynhyrchwyr y prosiect Mr Capelao a Dr Guirnaldos Diaz, bu’r plant yn ymchwilio i ardal Trebiwt lle mae eu hysgol ac Ardal y Gamlas lle bydd goleuadau’r Nadolig yn cael eu harddangos.
Cyflwynwyd y disgyblion i ystyr yr amgylchedd adeiledig ar ymweliad maes â hen gamlas gyflenwi dociau’r ddinas ac Ardal newydd y Gamlas, lle buon nhw’n dysgu am hanes diwydiannol Caerdydd a rôl mudo wrth lunio natur a gwead y ddinas.
Ychwanegodd Dr Guirnaldos Diaz, Darlithydd yn yr Ysgol: “Mae’r prosiect yn tynnu sylw at arwyddocâd treftadaeth adeiledig Caerdydd a sut mae’n berthnasol i bobl o wreiddiau a diwylliannau gwahanol.”
Defnyddiodd mwy na 120 o ddisgyblion ysgol eu hymchwiliadau i ddatblygu dyluniadau a oedd yn ymwneud â themâu goleuo, hunaniaeth lle a mudo, gan dynnu ar agweddau ar eu hunaniaeth leol a phersonol.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arbennig at greu adnoddau ar y cyd am hanes pensaernïaeth yn nociau Caerdydd, gan sicrhau bod y prosiect hwn yn cael effaith barhaol ar holl blant Caerdydd a thu hwnt.”
Cafodd cynlluniau’r plant eu barnu gan bwyllgor o benseiri, academyddion, arbenigwyr goleuo, aelodau o Gyngor Caerdydd a Chyngor Ieuenctid Caerdydd, yn ogystal a Phennaeth Ysgol Gynradd St Cuthbert.
Mae’r wyth cynllun buddugol bellach wedi’u trawsnewid yn baneli goleuadau stryd y Nadolig gan Floodlighting & Electrical Ltd a bydd y rhain i’w gweld yn Ardal y Gamlas o ddydd Iau 14 Tachwedd tan ddydd Sul 5 Ionawr.
Noddir prosiect Goleuadau’r Nadolig Plant Caerdydd gan Floodlighting & Electrical Ltd a Chaerdydd sy’n Dda i Blant, gyda chefnogaeth Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Architecture for Kids CIC, Atkins Realis, Ysgol Gynradd St Cuthbert, Coleg Prifysgol Llundain, Addewid Caerdydd, Cwricwlwm Caerdydd, Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru, Design Circle, For Cardiff a Chroeso Caerdydd.
Ychwanegodd Mr Capelao: “Fyddai’r prosiect ddim yn bosibl heb haelioni ein partneriaid a’n cefnogwyr, felly mae Melina a minnau eisiau diolch yn fawr iawn iddyn nhw. Ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld pob un ohonyn nhw yn nigwyddiad mawreddog troi’r goleuadau ymlaen ym mis Tachwedd pan fydd gweledigaethau’r plant yn dod yn fyw ar strydoedd Caerdydd.”
Dyma ragor o wybodaeth am brosiect Goleuadau’r Nadolig Plant Caerdydd.