Athro Cysylltiadau Rhyngwladol yn cael ei phenodi’n athro gwadd yn Stockholm
8 Tachwedd 2024
Mae Athro o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi cael ei phenodi’n athro gwadd mewn sefydliad mawreddog yn Sweden.
Mae’r Athro Victoria Basham, sy’n ddarlithydd mewn Cysylltiadau Rhyngwladol, wedi cael ei phenodi’n Athro Gwadd Kerstin Hesslgren ym Mhrifysgol Amddiffyn Sweden yn Stockholm ar gyfer 2026.
Mae Prifysgol Amddiffyn Sweden yn brifysgol o fri rhyngwladol ym meysydd amddiffyn, rheoli argyfyngau a diogelwch. Mae’r swydd Athro Gwadd Kerstin Hesselgren yn cael ei hariannu a'i dyfarnu gan Gyngor Ymchwil Sweden, y corff cyllido ymchwil llywodraethol mwyaf yn Sweden, ac mae’n cael ei dyfarnu i ymchwilwyr benywaidd blaenllaw a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes y gwyddorau cymdeithasol, y dyniaethau, diwinyddiaeth neu wyddor y gyfraith.
Mae'r Athro Basham yn chwarae rhan weithredol ym maes rhyngddisgyblaethol astudiaethau critigol milwrol. Mae hi wedi gweithio ar flaen y gad yn y maes ers dros 20 mlynedd, gan ymchwilio i sut mae rhyfel a pharodrwydd milwrol yn siapio bywydau bob dydd pobl a sut y gall bywyd bob dydd, yn ei dro, effeithio ar ryfeloedd a chanlyniadau geowleidyddol eraill. Mae gan yr Athro Basham ddiddordeb hefyd yn y ffordd y mae rhyw, hil, ethnigrwydd, rhywioldeb a dosbarth cymdeithasol yn llywio’r ffordd y mae grym milwrol yn cael ei flaenoriaethu, ei ddefnyddio a’i gyflawni.
Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Amddiffyn Sweden, bydd yr Athro Basham yn ymchwilio i sut mae ehangu NATO, gan gynnwys aelodaeth Sweden, yn effeithio ar barodrwydd ar gyfer rhyfel a'r hyn y mae'n ei olygu i gymdeithasau. Bydd hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr a myfyrwyr ledled Sweden i ddatblygu eu cryfderau ymhellach ym maes astudiaethau critigol milwrol.
Wrth siarad am swydd yr athro gwadd, dywedodd yr Athro Basham, “Mae’n fraint fawr i mi gael fy mhenodi’n Athro Gwadd Kerstin Hesselgren. Hesselgren oedd y fenyw gyntaf i eistedd yn Senedd Sweden ac yn ddiwygiwr cymdeithasol arloesol. Yn ystod fy amser yn Sweden rwy’n gobeithio adeiladu ar ei hymrwymiadau i rymuso menywod a gweithio’n frwd tuag at gyflawni heddwch ac amddiffyn pobl rhag niwed.”