Ewch i’r prif gynnwys

Clinig cyngor cyfraith sy’n rhad ac am ddim yn agor i’r cyhoedd

7 Tachwedd 2024

Stock image of a table with documentation on it

Mae aelodau o’r cyhoedd sydd angen cymorth gyda materion cyfreithiol bellach yn gallu cael cyngor rhad ac am ddim o ganlyniad i gynllun pro bono newydd sy’n cael ei gynnig gan Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth.

O fis Tachwedd 2024, bydd myfyrwyr y gyfraith yn gwirfoddoli yng Nghlinig y Gyfraith Prifysgol Caerdydd yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil a Theulu Caerdydd, gan gynnig cyngor am ddim i aelodau'r cyhoedd sydd angen cymorth ar achosion tai a chyfraith teulu. Bydd cyngor yn cael ei roi yn dilyn apwyntiad wyneb yn wyneb gyda myfyrwyr y gyfraith a fydd yn cael eu goruchwylio gan Krista Robinson, cyfreithiwr sy’n meddu ar dros 20 mlynedd o brofiad ym maes cyfraith ac ymarfer tai.

Esboniodd Krista, “Gall y gost o gyfarwyddo cyfreithiwr fod yn ddrud iawn gan nad yw cymorth cyfreithiol wedi bod ar gael i raddau helaeth ers 2012. Mae hyn yn golygu bod nifer y bobl heb gynrychiolaeth yn y system llysoedd wedi cynyddu'n sylweddol. Mae pobl yn aml yn teimlo'n unig, wedi'u gorlethu ac ar eu gwanaf. Nod Clinig y Gyfraith yw gwella mynediad at gyfiawnder drwy gynnig y cyfle iddyn nhw siarad â’n cynghorwyr myfyrwyr.”

“Rydyn ni’n gobeithio bydd y gwasanaeth hwn yn arbed amser a chostau i’r unigolyn a’r llysoedd ac yn mynd i’r afael â phroblemau cyn iddyn nhw waethygu. Ar ôl cael eu cynghori, bydd cleientiaid mewn gwell sefyllfa i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn â’u hachosion.”

Bydd cleientiaid yn cael eu cyfeirio at y clinig gan Cymorth Trwy’r Llys, elusen cymorth cyfreithiol sy'n gweithredu o'r Ganolfan Cyfiawnder Teulu a Sifil ac sy'n cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i bobl sy'n wynebu'r llys ar eu pennau ei hunain. Fel arfer, bydd cyngor ysgrifenedig yn cael ei roi ymhen pythefnos i'r apwyntiad gyda Chlinig y Gyfraith. Ni all Cymorth Trwy’r Llys na Chlinig y Gyfraith gynrychioli cleientiaid yn y llys.

Bydd clinig y gyfraith yn rhoi cyfleoedd i’n myfyrwyr ymarfer cyfweld, ymchwilio, ysgrifennu cyfreithiol ac ysgrifennu llythyrau cyngor mewn iaith glir a hygyrch. Bydd myfyrwyr hefyd yn dysgu sgiliau allweddol megis sefydlu perthynas, sut i ofyn cwestiynau, gwrando gweithredol a chynnal cofnodion cywir. Mae angen y sgiliau hyn yn rheolaidd gan gyfreithiwr a byddan nhw’n rhoi sylfaen dda i'n myfyrwyr pe baen nhw’n penderfynu dilyn gyrfa ym maes y gyfraith.

Rhannu’r stori hon