Ymchwilwyr yn mynd i gynhadledd ddata ryngwladol ac yn rhannu’r hyn a ddysgwyd a fydd yn effeithio ar eu gwaith yn y dyfodol
6 Tachwedd 2024
Aeth ymchwilwyr o brosiect Ymchwil Gydweithredol Amlafiachedd a Hyd Oes (LINC) i gynhadledd ryngwladol a oedd yn canolbwyntio ar ddata am y boblogaeth.
Cynhaliwyd cynhadledd y Rhwydwaith Rhyngwladol Cysylltu Data Poblogaeth (IPDLN) yn Chicago ym mis Medi 2024, a'i nod oedd ysgogi trafodaethau ynghylch cysylltu data. Cynhelir y gynhadledd hon bob dwy flynedd.
Roedd y gynhadledd yn gyfle hefyd i alluogi ymchwilwyr ac ymarferwyr i rannu eu datblygiadau ymchwil diweddaraf a'u harferion gorau ar gyfer cysylltu setiau data ar lefel poblogaeth.
Cyflwynodd Dr Megan Wood a Lauren Benger, ymchwilwyr LINC ym Mhrifysgol Leeds a Phrifysgol Caerdydd, eu gwaith yn y gynhadledd eleni, ac maent wedi rhannu eu profiadau a’r hyn y gwnaethant ei ddysgu yn y digwyddiad.
Mae Lauren Benger yn fyfyriwr PhD gyda thîm LINC ar hyn o bryd.
"Anrhydedd oedd bod yn siaradwr yng nghynhadledd IPDLN eleni. Cyflwyniadau yn ymwneud ag afiachedd a chyflyrau tymor hir wnaeth fy nenu yn bennaf, ac roeddwn yn falch o weld amlafiachedd, yn benodol, yn cael cryn sylw yn y trafodaethau.
“Nododd eraill y grwpiau demograffig mewn cymdeithas a allai fod yn agored i amlafiachedd. Mae’r rhain yn cynnwys menywod beichiog, unigolion o statws economaidd-gymdeithasol isel neu sy'n wynebu anghydraddoldebau oherwydd eu hethnigrwydd. Nododd un siaradwr bod yn rhaid cydnabod effeithiau ehangach amlafiachedd, megis yr effaith ar aelodau o deulu yr unigolion ag amlafiachedd.
"Roedd yn wych gweld cyflwyniadau gan gynrychiolwyr Prifysgol Abertawe sydd, fel LINC, yn defnyddio dull sy’n edrych ar oes gyfan wrth fynd i'r afael ag amlafiachedd. Maen nhw’n gwneud hyn drwy ystyried sawl penderfynydd ar ddechrau bywydau a defnyddio dull lleihaol o nodi parthau sy'n arbennig o berthnasol i’r hyn sy’n arwain at amlafiachedd.
"Roedd hi'n wych i Megan a minnau fod yno a chyflwyno mewn cynhadledd sy'n dod ag arbenigwyr o bob math o bynciau ynghyd ac sy'n rhannu cymaint o frwdfrydedd dros yrru ymchwil ymlaen."
Mae Dr Megan Wood yn gymrawd ymchwil ôl-ddoethurol gyda thîm LINC.
"Yn ogystal â'r gynhadledd a gynhaliwyd dros gyfnod o dridiau, cefais y cyfle i fynd i sawl gweithdy i ddatblygu fy sgiliau a'm dealltwriaeth ymhellach. Roedd y sesiwn a ganolbwyntiodd ar bwysigrwydd cynnwys y cyhoedd a chleifion (PPIE) a chydweithio â nhw yn arbennig o werthfawr yn fy marn i. Dyma elfen allweddol o ymchwil sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr yn LINC.
"Mae angen i ni, fel ymchwilwyr, wneud yn siŵr bod ein gwaith ar gael i'r cyhoedd ac i lunwyr polisïau er mwyn creu effaith. Roedd y syniad o greu "stori ymchwil" wrth gyfleu canfyddiadau yn rhywbeth a oedd yn arbennig o ddiddorol i mi. Mae hyn yn golygu gosod y cyd-destun a nodi'r broblem, esbonio'r newid y bydd yr ymchwil yn ei greu, a disgrifio'r goblygiadau i gymdeithas. Gyda chymaint o waith sy’n cael effaith yn digwydd yn rhan o LINC, rwy'n edrych ymlaen at gymhwyso’r hyn rydw i wedi’i ddysgu i’r ffordd yr ydw i’n rhannu fy nghanfyddiadau fy hun.
"Rhoddwyd sylw hefyd i gydweithio rhyngwladol effeithiol, a sut i ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn yr heriau sy’n gysylltiedig â chael gwahanol systemau a'r mathau o ddata a gesglir. Roedd yn ddiddorol clywed cymaint oedd yn debyg i'm gwaith fy hun ond hefyd pa mor arferol a chyffredin yw rhannu a chysylltu data mewn rhai gwledydd, yn enwedig yn Sgandinafia. Mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni weithio'n galed iawn i'w wneud yn y DU!
"Ar ddiwrnod olaf y gynhadledd, fe wnes i gymryd rhan mewn gweithdy diwrnod o hyd ar ddelweddu data. Hon oedd fy hoff sesiwn yn y gynhadledd yn ôl pob tebyg gan ei bod yn hynod ymarferol ac yn llawn awgrymiadau a gwybodaeth. Fe wnaethom ddysgu am y gwahanol elfennau o ddelweddu data i'w hystyried wrth gynhyrchu graffeg, megis theori lliw, ac fe gawsom ein cyfeirio hefyd at ystod eang o adnoddau sydd ar gael, fel llyfrau a gwefannau.
"Yn un o'r ymarferion, y nod oedd ceisio cynhyrchu cymaint o ddelweddau â phosib i gynrychioli dau rif, cyn adrodd yn ôl i'r grŵp. Ar ôl cael trafferth meddwl am unrhyw beth am ychydig funudau, doedd dim atal y llif o syniadau a gynigiwyd wrth inni feddwl mewn ffyrdd creadigol a thra gwahanol! Bydd y theori a’r awgrymiadau ymarferol a ddysgwyd yn ystod y gweithdy hwn yn ddefnyddiol wrth rannu canfyddiadau mewn erthyglau mewn cyfnodolion a phosteri, yn ogystal ag yn fy ngwaith PPIE hefyd.
Ychwanegodd Megan wrth grynhoi: "Yn gyffredinol, roedd y gynhadledd yn un gwerth chweil ac fe wnes i elwa’n fawr o fynd iddi. Rhoddodd y cyfle i mi ddatblygu sgiliau, gwella fy nealltwriaeth, a chael y cyfle i rwydweithio gyda chydweithwyr a chysylltiadau newydd. Rwy'n edrych ymlaen yn barod at y digwyddiad nesaf yn Rotterdam 2026!"
Rhagor o wybodaeth am dîm Ymchwil Gydweithredol Amlafiachedd a Hyd Oes (LINC).