Blog: A supervisor's experience
30 Ebrill 2024
Cafodd yr Academi Gwyddor Data (DSA) ei lansio ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2019, gyda’r nod o feithrin graddedigion medrus iawn mewn meysydd megis gwyddor data, deallusrwydd artiffisial, a seiberddiogelwch.
Mae'r DSA yn cysylltu myfyrwyr â phartneriaid yn y diwydiant ac ysgolion yn y Brifysgol i weithio ar brosiectau yn y byd go iawn, sydd yn aml yn cyd-fynd â gofynion traethawd hir MSc.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae nifer y prosiectau wedi cynyddu'n sylweddol. Yn ystod blwyddyn academaidd 2022/23, dangosodd un prosiect, wedi’i arwain gan Dr. Andrea Folia o'r Ysgol Cemeg, y cydweithio effeithiol sydd ar waith rhwng myfyrwyr y DSA a’r byd ymchwil academaidd.
Cefndir y Prosiect
Hanfod prosiect Dr. Folia oedd gwella deunyddiau cynhyrchu hydrogen o ddŵr, ffynhonnell ynni amgen wyrddach sy'n hanfodol ar gyfer cyrraedd y targedau allyriadau carbon sero-net. Er bod yna ddegawdau o waith ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn y maes, mae amrywiadau yng nghynlluniau’r astudiaethau yn ei gwneud hi'n anodd cymharu deunyddiau'n uniongyrchol.
I fynd i'r afael â hyn, gofynnodd Dr. Folia am gymorth gan faes gwyddor data i ddatblygu algorithm sy'n gallu dadansoddi 40 mlynedd o ddata ymchwil, nodi tueddiadau, ac ysgogi’r broses o ddatblygu deunyddiau hydrogen gwyrdd.
Ar y dechrau, roedd Dr. Folia yn ansicr a allai myfyriwr Gwyddor Data gyfrannu'n effeithiol at brosiect yn seiliedig ar gemeg. Fodd bynnag, ar ôl gweithio ar y cyd â'r DSA a chynnal myfyriwr MSc Gwyddor Data a Dadansoddeg (DASA) hynod o ymrwymedig, nid oedd yn poeni mwyach. Daeth y myfyrwyr yn gyfarwydd yn gyflym â'r cysyniadau cemeg, gan ganiatáu i'r prosiect symud ymlaen yn ddiffwdan.
Roedd y model goruchwylio yn cynnwys cyfarfodydd rheolaidd, gyda’r myfyrwyr yn ymrwymo i ddeall agweddau cemeg cymhleth y prosiect. Pwysleisiodd Dr Folia fod mentergarwch y myfyrwyr wrth geisio cefnogaeth gan gyd-fyfyrwyr a gweithio ar y cyd â'u cyfoedion academaidd wedi helpu i oresgyn unrhyw heriau a gododd yn ystod y prosiect.
Canlyniadau a Deilliannau
Cafodd y prosiect ei rhannu’n ddau gam. Dechreuodd y myfyriwr cyntaf ar ei waith ym mis Mehefin 2022, ac yna barhaodd ail fyfyriwr â'r prosiect ym mis Medi. Gyda'i gilydd, datblygon nhw algorithm a oedd yn gallu dadansoddi degawdau o ymchwil i ddod o hyd i ddeunyddiau addawol ar gyfer cynhyrchu hydrogen gwyrdd. Mae'r canlyniad hwn wedi arwain at gynnydd sylweddol yn y maes, ac mae gan Dr. Folia gronfa ddata o ddeunyddiau wedi’u cefnogi gan ymchwil i lywio arbrofion yn y dyfodol.
Yn ogystal, ar hyn o bryd, mae myfyriwr PhD o dan oruchwyliaeth Dr Folia yn syntheseiddio rhai o'r deunyddiau a gafodd eu hadnabod gan yr algorithm, gan ysgogi ymhellach yr ymchwil i gynhyrchu hydrogen gwyrdd.
Dywedodd Dr Folia fod ei brofiad yn goruchwylio myfyrwyr DSA wedi bod yn un buddiol iawn. Roedd yn gwerthfawrogi ymroddiad y myfyrwyr ac wedi dysgu bod cyfathrebu rheolaidd a phrosiect wedi'i strwythuro'n dda gyda set ddata glir yn allweddol i lwyddiant y prosiect. Mae'n credu bod gan brosiectau DSA y potensial i fod o fudd i ystod eang o ddisgyblaethau, gan annog rhagor o academyddion i gymryd rhan ynddyn nhw.
Gan edrych tua’r dyfodol, mae Dr. Folia yn bwriadu cyflwyno cynnig prosiect arall, y tro hwn yn cynnwys nifer o fyfyrwyr, ac mae'n edrych ymlaen at gydweithio’n barhaus gyda'r DSA. Mae hefyd yn bwriadu cyflwyno canlyniadau'r prosiect i'r Sefydliad Arloesedd Sero Net, gan ehangu ymhellach effaith y cydweithio hwn.
I gael rhagor o wybodaeth am yr Academi Gwyddor Data neu gyflwyno cynigion prosiect, cysylltwch â thîm y DSA drwy e-bostio dsa@caerdydd.ac.uk.