Lansio prawf sillafu Cymraeg safonedig am ddim i fonitro cynnydd sillafu plant
4 Tachwedd 2024
Lansiwyd prawf sillafu Cymraeg safonedig yn ddiweddar gan academyddion o Brifysgol Caerdydd.
Mae’r prawf yn adnodd a fydd yn helpu athrawon i asesu datblygiad cywirdeb sillafu disgyblion a monitro eu cynnydd dros amser.
Mae’r adnodd ar gyfer disgyblion rhwng oedrannau 7 a 14 mlwydd oed mewn addysg Gymraeg ac mae’n cynnwys 2 brawf gyda phob prawf yn cynnwys 45 o eiriau. Comisiynwyd y prawf gan Gonsortiwm Addysg Canolbarth y De.
Y gobaith yw bydd athrawon yn defnyddio’r adnodd ar wahanol adegau o’r flwyddyn er mwyn medru monitro cynnydd sillafu eu disgyblion yn ogystal â chymharu sgorau’r disgyblion â’r sgorau safonedig. Cymerodd 1920 o ddisgyblion o 9 ysgol cyfrwng Cymraeg ran yn y broses o safoni’r prawf, a gynhaliwyd rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2023, gyda’r disgyblion i gyd rhwng blynyddoedd 3 i 9.
Dechreuwyd y prosiect, a lansiwyd ar 16 Hydref 2024, nôl ym mis Tachwedd 2022 ac mae’n dilyn prosiect tebyg a lansiwyd yn 2022 i fonitro cynnydd darllen plant ysgol rhwng blynyddoedd 1 i 11.
Bu 4 o ymchwilwyr o 3 o ysgolion Prifysgol Caerdydd yn rhan o’r prosiect sef Dr Jonathan Morris a Dr Dylan Foster Evans o Ysgol y Gymraeg, Dr Rosanna Stenner o’r Ysgol Seicoleg a Dr Geraint Palmer o’r Ysgol Mathemateg.
Dywedodd Dr Jonathan Morris: “Ceir cysylltiad rhwng sgiliau sillafu, darllen, ac ysgrifennu felly bydd y prawf hwn yn bwysig i athrawon fel adnodd ar gyfer adnabod plant all elwa o fwy o gymorth neu ymyrraeth benodol i wella eu sgiliau llythrennedd.”
Dywedodd Dr Rosanna Stenner: “Gan fod 2 brawf gwahanol, mae modd cynnal y prawf nes ymlaen yn y flwyddyn academaidd er mwyn tracio cynnydd. Mae’r 2 brawf hefyd yn caniatáu profi sgiliau sillafu disgyblion cyn, ac ar ôl, ymyrraeth sy’n elfen hollbwysig.
Ychwanegodd: “Mae’r prosiect wedi rhoi’r cyfle inni gyfrannu at yr adnoddau sydd ar gael mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ac rydym yn ddiolchgar i Gonsortiwm Addysg Canolbarth y De am yr holl gydweithio. Mae’n dda gennyf ddweud bod y prawf ar gael am ddim hefyd, er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cael ei ddefnyddio gan ysgolion heb oblygiadau ariannol.”
Gyda’r adnodd bellach ar gael i ysgolion ar draws Cymru, mae’r ymchwilwyr yn gobeithio ehangu’r 2 brawf fel bod mwy o ysgolion ledled Cymru yn cymryd rhan yn y safoni yn ogystal â chasglu adborth am sut y defnyddir y prawf mewn ysgolion.