Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilydd o Ganolfan Wolfson wedi mynd i gyfarfod Cymdeithas Frenhinol y DU a Ffiniau Gwyddoniaeth De Affrica yn Johannesburg

1 Tachwedd 2024

Yn ddiweddar, gwnaeth Dr Jessica Armitage, ymchwilydd o Ganolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, fynd i gyfarfod Cymdeithas Frenhinol y DU a Ffiniau Gwyddoniaeth De Affrica, a drefnwyd ar y cyd ag Academi Gwyddoniaeth De Affrica.

Roedd y digwyddiad eleni, a gafodd ei gynnal yn Johannesburg rhwng 25 a 27 Medi 2024, wedi dwyn ynghyd 60 o ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa (ECRs) o Botswana, Teyrnas Eswatini, Lesotho, Malawi, Zimbabwe, y Deyrnas Unedig, a De Affrica. Fe wnaeth thema’r cyfarfod eleni, sef “Iechyd Amgylcheddol a’i Oblygiadau i Iechyd Dynol”, hwyluso deialog unigryw a rhyngddisgyblaethol ar iechyd ledled rhanbarthau amrywiol.

Yn y cyfarfod, aed i’r afael â phum prif thema ymchwil, pob un yn ei thro, a hynny drwy sesiynau rhyngweithiol a barhaodd ddwy awr, trafodaethau panel, a sesiwn posteri. Cyfrannodd Dr Armitage at y thema “Medical/Neuroscience: Adolescent Mental Helath”, gan gynrychioli Canolfan Wolfson.

"Bu’r sesiwn yn gyfle gwych i rwydweithio a dysgu am iechyd meddwl pobl ifanc yn y DU a De Affrica, gan fynd i'r afael â’r heriau a’r datblygiadau arloesol sy’n gyffredin rhwng y ddau ranbarth."
Jessica Armitage Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Yn ogystal â'r sesiynau thematig, cafwyd hefyd drafodaethau ar gydweithio a pholisi yn y digwyddiad. Mewn sesiwn drafod, fe wnaeth Dr Armitage a'i chyd-ymchwilwyr nodi prif heriau a phennu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol, a fydd yn cael eu llunio a'u rhannu â rhanddeiliaid perthnasol i lywio ymdrechion ym maes gwyddoniaeth sy’n mynd rhagddynt.

Yn dilyn y cyfarfod, mae Dr Armitage wedi bod ynghlwm â sefydlu rhwydwaith iechyd meddwl y DU a De Affrica, gyda'r nod o adeiladu ar y cysylltiadau a'r cydweithio a wnaed yn y digwyddiad. Disgwylir y bydd y rhwydwaith hwn yn gosod y sylfaen ar gyfer partneriaethau ymchwil a chyfnewid gwybodaeth ym maes iechyd meddwl pobl ifanc yn y dyfodol.

Gorffennodd Dr Armitage trwy ddweud: “Peth gwych oedd gallu mynd i’r digwyddiad rhyngwladol hwn a chynrychioli Canolfan Wolfson. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gyd-weithio â chydweithwyr yn y DU a De Affrica ar y rhwydwaith iechyd meddwl, a meithrin cysylltiadau pellach ym maes ymchwil iechyd meddwl pobl ifanc."

Ewch i dudalen digwyddiadau'r Gymdeithas Frenhinol i gael rhagor o wybodaeth am gyfarfodydd Cymdeithas Frenhinol y DU-Ffiniau Gwyddoniaeth De Affrica, a'u hamcanion o ran hyrwyddo ymchwil drawsddisgyblaethol.

Rhannu’r stori hon