Ewch i’r prif gynnwys

“Eich cwestiwn cychwynnol gwerth deg pwynt”: Prifysgol Caerdydd drwodd i ail rownd University Challenge

30 Hydref 2024

Aelodau tîm Prifysgol Caerdydd, Kyle Gilbert, Rosalie Tarsala, Conor Boyling, a Henrik Holm gyda chyflwynydd Her y Brifysgol, Amol Rajan

Hawliodd y tîm fuddugoliaeth yn un o’r twrnameintiau cwis tîm mwyaf anodd ar y teledu, gan drechu St Andrews yn rhwydd.

Gyda sgôr o 200 o bwyntiau, fe wnaeth tîm Prifysgol Caerdydd guro St Andrews, a sgoriodd 145 o bwyntiau, yn rownd gyntaf wefreiddiol y gystadleuaeth gwis i dimau ar BBC Two.

Gyda Conor Boyling, myfyriwr Blwyddyn 3 sy’n astudio BA (Anrh) Hanes ac Economeg, yn gapten ar y tîm, aelodau eraill y tîm oedd Kyle Gilbert, myfyriwr Blwyddyn 2 sy’n astudio BA Hanes, Rosalie Tarsala, sy’n astudio’r MSc Data a Dadansoddeg, a Henrik Holm, myfyriwr Blwyddyn 3 sy’n astudio MPhys Ffiseg.

Profiad bythgofiadwy oedd gallu cystadlu ar University Challenge, ac rwy’n hynod falch o allu cynrychioli Prifysgol Caerdydd a’r Adran SHARE. Gan obeithio ein bod wedi gwneud y bennod yn un gyffrous!
Conor Boyling Myfyriwr BA (Anrh) Hanes ac Economeg Blwyddyn 3

Mae Tîm Prifysgol Caerdydd eisoes wedi cael hyfforddiant dwys ar gwisiau, er mwyn gallu bod yn gymwys i fod ymhlith y 28 tîm arall i gystadlu yn y rownd gyntaf. Ar hyn o bryd, maen nhw’n paratoi ar gyfer yr ail rownd.

Y rhan orau o'r profiad i gyd oedd cwrdd â'r timoedd eraill. Roedd pawb yn hynod gyfeillgar, ac yn gwybod cymaint am amrywiaeth eang o bynciau. Ni fyddwn i wedi gallu gwneud hyn heb weddill aelodau Tîm Prifysgol Caerdydd. Pleser o’r mwyaf oedd gallu rhannu fy angerdd am gwisiau a trivia gydag aelodau eraill y tîm.
Rosalie Tarsala Myfyriwr MSc Data a Dadansoddeg

Dechreuodd University Challenge ym 1962. Bydd llwyddo yn yr ail rownd a chyrraedd y rownd gogynderfynol yn golygu y bydd y tîm eleni yn gyfartal â safle uchaf erioed y brifysgol yn y gystadleuaeth (2014).

Gwyliwch y rownd gyntaf, a gafodd ei darlledu ar Hydref 21 2024, ar BBC iPlayer.

Rhannu’r stori hon