Sut rydych chi'n dweud hynny felly?
31 Hydref 2024
Mae arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ymchwilio i’r ffordd y mae'r Saesneg yn cael ei defnyddio ym mywyd beunyddiol Cymru.
Prosiect a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau ar Sgoteg ym Mhrifysgol Glasgow oedd Speak for Yersel. Cymerodd mwy na 7,000 o bobl ran yn yr arolygon ar-lein am y geiriau, y seiniau a’r brawddegau Sgoteg y maen nhw’n eu defnyddio yn eu bywyd beunyddiol. Gwelir y data cyfrannu torfol hwn ar fapiau rhyngweithiol sy'n dangos sut y siaredir Sgoteg yn yr Alban yn yr 21ain ganrif.
Bellach, mae’r prosiect yn cael ei ehangu i gynnwys Cymru, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon. Yr Athro Mercedes Durham a Dr Jonathan Morris ym Mhrifysgol Caerdydd sy'n arwain estyniad Cymru o'r prosiect.
Dyma a ddywedodd yr Athro Durham, sy’n gweithio yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol: “Pan fyddwch chi'n siarad â grŵp o bobl, a fyddech chi'n dweud you, you guys neu you lot? Fyddech chi byth yn dweud I’m tamping? Ac a ydych chi’n ynganu ear yr un ffordd â year?
Mae pobl yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn tri arolwg a fydd yn rhan o adnodd ar-lein fydd yn mapio sut mae iaith yn cael ei defnyddio ledled Cymru - o Sir Benfro i Sir y Fflint, o Fro Morgannwg i Ynys Môn ac ym mhob man arall yn y wlad.
Caiff y sawl sy’n cymryd rhan ddisgrifio'r geiriau, y seiniau a'r brawddegau hynod y byddan nhw’n eu defnyddio - megis mitching, taid, lush - ac a yw eu lleferydd yr un fath neu'n wahanol i bobl eraill ledled Cymru. Ar ôl pob cwestiwn, caiff yr ateb ei ychwanegu'n syth at fap y wlad fel y caiff defnyddwyr weld sut mae eu hatebion yn cymharu ag atebion pobl eraill.
Bydd Speak for Yersel Cymru yn rhoi’r cyfle i astudio iaith yn yr ystafell ddosbarth mewn ffordd ddifyr a hwyliog. Mae’r arolygon a’r mapiau’n cynnwys nifer o fannau cychwyn trafodaeth a fydd yn peri i ddisgyblion feddwl am sut maen nhw ac eraill yn swnio.
Dyma a ddywedodd Dr Morris yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd: “Lluniwyd y prosiect mewn ffordd a fydd yn ein galluogi i ymchwilio i gyfraniad y Gymraeg yn Saesneg Cymru: ble mae geiriau sy’n deillio o’r Gymraeg yn cael eu defnyddio? Er enghraifft, mae’r canlyniadau cychwynnol yn awgrymu bod geiriau sy’n deillio o’r Gymraeg, megis twp, dwt a cwtch, yn cael eu defnyddio’n amlach yn ne Cymru nag yn y Saesneg a siaredir mewn ardaloedd gogleddol.
“Gofynnwn hefyd i bobl ddweud wrthon ni am eu gwybodaeth o'r Gymraeg. Mae hyn yn hynod o bwysig gan y bydd yn ein helpu i wybod a yw pobl sy’n siarad Cymraeg yn defnyddio Saesneg mewn ffordd wahanol.”
I lenwi’r arolygon neu weld y canlyniadau, ewch i: https://speakforyersel.ac.uk/wales/