Cyrsiau DPP Sero Net newydd i hybu sgiliau gwyrdd
29 Hydref 2024
Mae’r Sefydliad Arloesi Sero Net wedi lansio cyfres o gyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) newydd i hybu sgiliau gwyrdd yng Nghymru.
Yn y cyrsiau, fydd yn cael eu lansio yn gynnar yn 2025, caiff gweithwyr proffesiynol ym myd diwydiant a'r sector cyhoeddus astudio ar y cyd â myfyrwyr ôl-raddedig eraill tra eu bod hefyd yn uwchsgilio mewn meysydd fel systemau ynni, yr amgylchedd adeiledig carbon isel a chynllunio a pholisïau cynaliadwy. Y gobaith yw y bydd dilyn DPP o safon yn dechrau mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau a pharatoi sectorau allweddol i bontio i sero net.
Mae'r Sefydliad Arloesi Sero Net yn llunio ein dyfodol cynaliadwy drwy ddod â'r meddyliau ymchwil mwyaf talentog, blaengar ac amlddisgyblaethol ynghyd. Mae eu hymchwil yn seiliedig ar dri maes allweddol – deall yr adnoddau y gallwn ni eu defnyddio i fodloni gofynion sero net; gofyn a oes modd lliniaru ar yr effeithiau ar yr hinsawdd drwy ddefnyddio gwyddoniaeth a pheirianneg; a chefnogi'r broses bontio hirdymor i economi wyrddach.
Cewch rhestr lawn o gyrsiau gan y tîm Datblygiad Proffesiynol Parhaus, a chewch wneud cais iddyn nhw hefyd wedyn.