Negeseuon testun atgoffa yn helpu pobl ifanc yn eu harddegau i frwsio eu dannedd
31 Hydref 2024
Gall negeseuon testun atgoffa wella arferion brwsio dannedd ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig y rhai o deuluoedd incwm isel.
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, ar y cyd â Phrifysgol Sheffield, Leeds, Efrog a Dundee, wedi gwneud gwaith ymchwil i effeithiolrwydd rhaglen newydd wedi’i chynllunio i annog arferion brwsio dannedd gwell a lleihau pydredd dannedd ymhlith disgyblion mewn ysgolion uwchradd.
Archwiliodd treial BRIGHT effaith negeseuon testun atgoffa ddwywaith y dydd ar gyfer brwsio dannedd ar 4,680 o fyfyrwyr rhwng 11 a 13 oed, mewn 42 o ysgolion ledled Cymru, Lloegr a’r Alban. Fe wnaeth yr ymchwilwyr olrhain effaith y treial dros ddwy flynedd a hanner.
Dywedodd yr Athro Zoe Marshman, o Ysgol Deintyddiaeth Glinigol Prifysgol Sheffield, a chyd-arweinydd treial BRIGHT: “Mae pydredd dannedd a’i holl ganlyniadau negyddol fel y ddannodd, colli cwsg a phroblemau bwyta yn gyffredin iawn ymhlith plant oed ysgol uwchradd. Er bod mentrau mewn ysgolion ar gyfer plant rhwng 4-11 oed wedi cael eu darparu ers degawdau, ychydig iawn sydd ar gyfer ysgolion uwchradd.
“Fodd bynnag, mae hwn yn gam hollbwysig i arferion brwsio dannedd ddod yn ymddygiad rheolaidd wrth droi’n oedolyn. Dyna pam ei bod yn hanfodol helpu pobl ifanc i wella eu dealltwriaeth o bwysigrwydd brwsio dannedd a sgiliau i atal pydredd dannedd.”
Dangosodd yr astudiaeth fod negeseuon testun atgoffa wedi cael effaith gadarnhaol ar arferion brwsio chwe mis yn ddiweddarach, gan ddangos budd arbennig i fyfyrwyr o deuluoedd incwm isel - gan fod y dadansoddiad wedi canfod rhywfaint o dystiolaeth o atal pydredd dannedd i'r myfyrwyr hyn.
“Dangosodd hyn y gallai ymyriad syml gael effaith gadarnhaol ar arferion brwsio pobl ifanc yn eu harddegau yn y DU, sy’n arbennig o bwysig i fyfyrwyr mewn cartrefi incwm isel," meddai'r Athro Innes.
Bydd angen ymchwil pellach i ddeall yn well y ffactorau sy'n dylanwadu ar arferion iechyd y geg ymhlith pobl ifanc yn eu harddegau, yn enwedig bwyta bwydydd sy’n cynnwys siwgr. Bydd yr ymchwilwyr nawr yn defnyddio'r canlyniadau hyn i ddod o hyd i ffyrdd gwell o helpu disgyblion ysgol uwchradd i gadw eu dannedd yn iach.
Mae’r ymchwil, Behaviour change intervention (education and text) to prevent dental caries in secondary school pupils: BRIGHT RCT, process and economic evaluation wedi’i hariannu gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) a'i chyhoeddi yn y cyfnodolyn Health Technology Assessment.