Digwyddiad ar-lein yn archwilio’r cyfryngau cymdeithasol yn dangos esiampl o ran cydweithio â phobl ifanc
28 Hydref 2024
Ddydd Iau 19 Medi cynhaliodd Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc weminar arbennig i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid, mewn partneriaeth â phobl ifanc.
Mae'r diwrnod ymwybyddiaeth, sy’n cael ei drefnu gan stem4, yn cael ei gynnal bob mis Medi, a'r thema eleni oedd #RheoliEichSgrolio.
Cynhaliodd Canolfan Wolfson ddigwyddiad ar-lein bywiog a ddenodd lawer o gyfranogwyr o dan y teitl Lleisiau ieuenctid ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd y weminar yn cynnwys trafodaethau diddorol dan arweiniad ymchwilwyr dynodedig Canolfan Wolfson ac aelodau o Grŵp Cynghori Ieuenctid (YAG) y Ganolfan.
Dechreuodd y sesiwn gyda chyflwyniad byr i waith y Ganolfan, ac yna cafwyd cyflwyniad gan yr ymchwilwyr Dr Rebecca Anthony a Dr Jessica Armitage. Gwnaethant rannu'r canfyddiadau diweddaraf ar sut y gall y cyfryngau cymdeithasol effeithio ar iechyd meddwl, gan archwilio'r manteision a'r heriau posibl y mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn y gofod digidol.
Dywedodd Dr Jessica Armitage, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Wolfson: “Roedd yn wych cael bod yn rhan o weminar gyntaf Wolfson ar bwnc mor bwysig. Mae un o bob pum person ifanc ar blatfform cyfryngau cymdeithasol bron yn barhaus. Mae cryn ansicrwydd o hyd ynghylch sut mae defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles.”
Ychwanegodd Dr Rebecca Anthony, Cydymaith Ymchwil yng Nghanolfan Wolfson a DECIPHer (y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd): “Roedd cael gweithio'n agos gyda chynghorwyr ieuenctid anhygoel y Ganolfan eto yn y digwyddiad hwn yn hynod werth chweil. Rhoddodd y bobl ifanc gyngor amhrisiadwy i Jessica a fi pan gyflwynon ni i'r grŵp yn y gorffennol ar brosiectau ymchwil, felly roedd hi'n hyfryd cael cydweithio eto.”
Un o uchafbwyntiau allweddol y digwyddiad oedd y drafodaeth grŵp ryngweithiol gydag ymchwilwyr ac aelodau YAG a atebodd gwestiynau gan y gynulleidfa. Cyd-hwyluswyd y drafodaeth hefyd gan Nathan, un o gynghorwyr ieuenctid y Ganolfan, a Margarida Maximo, swyddog cyfathrebu'r Ganolfan.
Roedd y pynciau'n amrywio o'u harferion cyfryngau cymdeithasol eu hunain a sut maen nhw'n rheoli eu sgrolio i ba newidiadau y bydden nhw’n eu gwneud pe baen nhw’n cael rhedeg platfformau cyfryngau cymdeithasol am ddiwrnod. Trafodwyd hefyd a ddylai ffonau symudol gael eu gwahardd o ysgolion.
Dywedodd Nathan: “Roedd hi’n wych cael bod yn rhan o'r sesiwn ’ma! Roedd gan bawb lawer i'w gynnig ac roedd hi’n wych gallu cysylltu ymchwil o ansawdd uchel â phrofiadau a safbwyntiau byw mewn amser real.”
Daeth Emma Meilak, arweinydd cynnwys y cyhoedd yng Nghanolfan Wolfson, i’r casgliad: “Gwnaeth y digwyddiad hwn gynnig gwybodaeth werthfawr i bobl ifanc, rhieni, addysgwyr a gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol, gan daflu goleuni ar y dirwedd ddigidol sy'n esblygu a'i dylanwad ar iechyd meddwl pobl ifanc.
“Roedd yn bleser croesawu ein Cynghorwyr Ieuenctid a gweithio gyda nhw ar weminar gyntaf Wolfson - y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau cydweithredol i ddod gobeithio! Diolch eto i'n holl bobl ifanc ysbrydoledig am eu cyfraniadau.”
Mae recordiad llawn y weminar bellach ar gael ar sianel YouTube Canolfan Wolfson. Gwyliwch y recordiad.