Ewch i’r prif gynnwys

Cynnal digwyddiad cyntaf Deialogau Kapila Hingorani

29 Hydref 2024

Pushpa Kapila Hingorani

Bydd myfyriwr graddedig nodedig o Dde Asia yn cael ei hanrhydeddu mewn cyfres ddarlithoedd flynyddol newydd a fydd yn coffáu ei gyrfa gyfreithiol arloesol.

Mae Deialogau Kapila Hingorani yn dathlu cyflawniadau un o gyn-fyfyrwyr y Brifysgol, Pushpa Kapila Hingorani (BA 1951, Anrh 1998).

Wedi ei geni yn Nairobi, Kenya, Pushpa oedd y fenyw gyntaf o Dde Asia i raddio o Goleg Prifysgol Caerdydd ym 1951. Astudiodd Saesneg, Economeg a Hanes, cyn cychwyn ar yrfa gyfreithiol nodedig yn India lle daeth yn adnabyddus yn 'fam ymgyfreitha er budd y cyhoedd'.

Un o'i chyflawniadau amlwg oedd achos nodedig Hussainara Khatoon. Yn 1979, datgelodd erthygl papur newydd yr amodau annynol yr oedd carcharorion, gan gynnwys chwech o fenywod, yn eu dioddef mewn carchardai wrth aros am eu gwrandawiad. Cyn ymyrraeth Pushpa, roedd cyfraith India yn nodi mai dim ond y dioddefwr neu berthynas iddyn nhw a allai herio’r math hwnnw o garchariad. Yn lle hynny, dadleuodd Pushpa yr achos yn llwyddiannus gerbron Goruchaf Lys India, gan arwain at ryddhau'r holl ddioddefwyr, ac yn y pen draw at ryddhau tua 40,000 o garcharorion ledled y wlad.

Yn 2017, Puspha oedd y gyfreithwraig gyntaf i gael ei phortread ar waliau llyfrgell Goruchaf Lys India.

Bydd y digwyddiad deialogau newydd yn cael ei gynnal yn flynyddol, gan ddenu siaradwyr enwog i drafod materion ynghylch y gyfraith a chyfiawnder a oedd o gymaint o bwysigrwydd i waith Pushpa ac sy'n parhau i fod o bwysigrwydd sylweddol i Dde’r Byd.

Bydd y ddeialog gyntaf ar 13 Tachwedd 2024 yn canolbwyntio ar systemau cyfiawnder amgen. Yn arwain y drafodaeth fydd mab Pushpa, Aman Hingorani, sydd ei hun yn eiriolwr ymarferol Goruchaf Lys India, ac Athro Gwadd Leverhulme Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, yr Athro Cyfiawnder Joel Ngugi.

Dywedodd yr Athro Ambreena Manji, Deon Rhyngwladol dros Affrica y Brifysgol: “Rwyf wedi meddwl ers tro y dylen ni nodi cysylltiad Pushpa Kapila Hingorani â Chaerdydd o'r lle cychwynnodd ar ei gyrfa nodedig yn y gyfraith.

“Gyda dyfarniad o fri Athro Gwadd Leverhulme i'r Athro Cyfiawnder Joel Ngugi o Lys Apêl Kenya, daeth cyfle gwych i gynnal Deialog Kapila Hingorani agoriadol y Brifysgol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu mab Pushpa, Dr Aman Hingorani, ar gyfer y sgwrs gyda'n Hathro Leverhulme ar yr arbenigedd sydd gan y ddau ym maes mynediad at gyfiawnder yn Ne’r Byd.

“Rydyn ni hefyd yn estyn croeso cynnes i’r digwyddiad i deulu ehangach Pushpa ynghyd ag ymwelwyr nodedig eraill o Kenya, India a'r Deyrnas Unedig.”

Yn rhan o'i ymweliad, bydd yr Athro Ngugi hefyd yn traddodi darlith nodedig GW4 Leverhulme ar 'Mynediad at Gyfiawnder a Chyfansoddiad Trawsnewidiol Kenya' wedi’i chynnal gan Brifysgol Bryste ar 1 Tachwedd. Bydd hefyd yn siarad gerbron y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Fynediad at Gyfiawnder yn San Steffan, ac mae wedi cael gwahoddiad i siarad yng Nghyfres Safbwyntiau Byd-eang yr Academi Brydeinig, y ddau ym mis Rhagfyr.

Mae digwyddiad Deialog Kapila Hingorani ar 13 Tachwedd yn dechrau am 18.00. Gallwch chi gadw eich lle yma.

Rhannu’r stori hon

Am ragor o wybodaeth ewch i dudalennau gwe yr Ysgol.