Mae technolegwyr gwleidyddol Rwsia - sy’n arbenigwyr mewn “rhyfela gwybodaeth” - yn paratoi ar gyfer yr etholiad yn yr Unol Daleithiau
24 Hydref 2024
Y llynedd, roedd technolegwyr gwleidyddol Rwsia yn cynllunio ar gyfer gweithrediadau dylanwadu, gyda’r bwriad o effeithio ar yr etholiad sydd ar ddod yn yr Unol Daleithiau. Eu bwriad yw manteisio ar bryderon pobl ynghylch mewnfudo, gwleidyddiaeth sy’n ymwneud â hunaniaeth a phynciau cynhennus am ddiwylliant.
Mae’r dadansoddiad gan Brifysgol Caerdydd yn dangos eu bod hefyd wedi llunio proffiliau manwl o unigolion amlwg yng ngwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau roedden nhw’n rhagweld y byddan nhw’n chwarae rhan flaenllaw yn y ras arlywyddol.
Cyflwynir tystiolaeth newydd hefyd am waith yr Asiantaeth Dylunio Cymdeithasol (Social Design Agency), a oedd yn rhan ganolog o affidafid cyfreithiol a gyhoeddwyd gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau ar ddechrau mis Medi 2024. Mae’r canfyddiadau’n datgelu sut mae eu gweithrediadau gwybodaeth yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ac yn digwydd ar y gêm Minecraft.
Mae un technolegydd gwleidyddol a ddaeth i Lundain i ymchwilio i brosesau etholiadol Prydain yn ystod pleidlais Brexit yn 2016 wedi bod yn cyflwyno hyfforddiant ar ddulliau twyllwybodaeth cyn yr etholiad yn yr Unol Daleithiau.
Mae cyhoeddiad Yevgeny Minchenko, “How elections are won in the USA, Great Britain and the European Union: analysis of political technologies,” yn cynnwys deunyddiau arolwg a gafodd gan wleidyddion, staff ymgyrchu, ymgynghorwyr gwleidyddol, a newyddiadurwyr o’r DU.
Mae’r dadansoddiad o ddata ffynhonnell agored yn dangos bod Minchenko ym Mayfair yn “arsylwi ar bobl oedd yn cymryd rhan” ar ddiwrnod y bleidlais Brexit hanesyddol yn 2016. Bu’n rhannu lluniau o orsafoedd pleidleisio gyda’i ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn Rwsia.
Yn ôl y canfyddiadau, mae'n un o 500 o dechnolegwyr gwleidyddol sy'n cyflawni amrywiaeth o rolau yn Rwsia ac yn rhyngwladol, gyda rhai ohonyn nhw’n cael eu cyfarwyddo gan swyddogion y wladwriaeth ac asiantaethau cudd-wybodaeth. Mae adroddiad yn disgrifio’r “haen ganol” hon o weithwyr proffesiynol sy’n bodoli rhwng strategaeth y Kremlin a’r gwaith o weithredu yn seiliedig ar dwyllwybodaeth.
Dywedodd yr Athro Martin Innes, Cyfarwyddwr Sefydliad Arloesi Diogelwch, Troseddu a Chudd-wybodaeth y Brifysgol, a gynhaliodd y dadansoddiad annibynnol gyda chyllid gan Lywodraeth y DU: “Mae technoleg wleidyddol yn ddiwydiant proffesiynol cynyddol bwysig yn Rwsia. Yn yr ymchwil hon, rydyn ni’n disgrifio ac yn asesu rhai o'r dulliau a'r technegau allweddol ym maes technoleg wleidyddol sy'n cael eu defnyddio i greu twyllwybodaeth a phropaganda yn systematig, gyda’r bwriad o ddylanwadu ar farn y cyhoedd a’r broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol yn y Gorllewin.
“Wrth gyhoeddi'r ymchwil hon, ein nod yw cynnig asesiad technegol proffesiynol o rai o ddulliau modern Rwsia o gamgyhoeddi gwybodaeth a chreu phropaganda. Ers nifer o flynyddoedd, mae ein sgyrsiau am y materion hyn wedi canolbwyntio ar ddod o hyd i gyfrifon ffug ar y cyfryngau cymdeithasol, a'r naratifau a’r delweddau twyllodrus maen nhw’n eu lledaenu. Mae'r dystiolaeth rydyn ni’n ei hadrodd bellach yn dechrau symud canolbwynt ein hymdrech tuag at y rheini sy'n gyfrifol am greu a defnyddio'r ymgyrchoedd hyn.
“Yn ystod y broses hon, mae canolbwyntio ar weithgareddau gweithgareddau Yevgeny Minchenko yn y DU wedi codi cwestiynau anghyfforddus: Yn gyntaf, sut llwyddodd i gael mynediad at uwch swyddogion o'r fath yn y DU, a meithrin cysylltiadau helaeth â nhw? Yn ail, pa weithgareddau eraill oedd e’n ymwneud â nhw yn ystod ei gyfnod o 'arsylwi ar y rheini oedd yn cymryd rhan' cyn y bleidlais ar Brexit?
Ychwanegodd yr Athro Innes: “Mae defnyddio data ffynhonnell agored sydd ar gael yn gyhoeddus a chymharu gwledydd â’i gilydd yn rhoi ambell gip pwysig ar gysyniadau gweithredol ac ar dulliau o ddefnyddio technoleg wleidyddol. Mewn sawl ffordd, maen nhw’n adlewyrchu'r technegau a'r dulliau a ddefnyddir gan ddadansoddwyr 'deallusrwydd ffynhonnell agored' y Gorllewin, er eu bod yn cael eu gweld o safbwynt Rwsiaidd.
“Caiff eu ddefnyddio yn offeryn ym mholisi tramor Rwsia, ac mae technolegwyr gwleidyddol yn casglu gwybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd, fel y cyfryngau a data pleidleisio, ac yn ei chyfuno ag ymchwil a gwaith dehongli gwreiddiol. Defnyddir y deunyddiau sy’n codi i allosod llwybrau datblygu allweddol a sut y gallan nhw gael eu llunio a'u dylanwadu gan weithrediadau gwybodaeth agored neu gudd.
“Mae lefel yr adnoddau a’r hyfforddiant rydyn ni’n gweld Rwsia yn ei thaflu i’r maes hwn yn arwydd o’r pwyslais cynyddol maen nhw’n ei roi ar dechnoleg wleidyddol strategol fel arf geowleidyddol.”