Mae cefndir economaidd-gymdeithasol ac amddifadedd yn ffactorau allweddol sy’n effeithio ar gyfranogiad mewn addysg drydyddol yng Nghymru
24 Hydref 2024
Mae astudiaeth wedi datgelu mai amddifadedd aelwydydd a chefndir economaidd-gymdeithasolyw’r ffactorau mwyaf arwyddocaol sy’n effeithio ar ba lwybrau ôl-16 sy’n cael eu dilyn gan ddysgwyr yng Nghymru.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi comisiynu’r adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd. Y nod oedd cefnogi Medr, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd, sy’n gyfrifol am yr holl addysg drydyddol yng Nghymru, gan gynnwys cylch gwaith i gynyddu mynediad cyfartal.
Ar ben yr anghydraddoldebau yn sector addysg drydyddol Cymru, mae llai yn cymryd rhan mewn addysg uwch yng Nghymru nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU, ac mae gennym nifer uwch o bobl ifanc 16–18 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Dywedodd Cydymaith Ymchwil Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Dr Jack Price: “Mae dadansoddi’r data wedi dangos graddfa a natur aml-ddimensiwn nifer o wahaniaethau amlwg o ran pwy sy’n dilyn addysg drydyddol yng Nghymru – a pha lwybrau ôl-16 maen nhw’n eu dilyn. Mae nodweddion personol ac aelwydydd, yn enwedig amddifadedd a chefndir economaidd-gymdeithasol, yn dal yn dylanwadu’n drwm ar a yw pobl yn dilyn addysg drydyddol ac, os ydynt, a ydynt yn dilyn llwybrau mwy ‘academaidd’ neu ‘alwedigaethol’.
Mae'r dadansoddiad data, a gynhyrchwyd gan ADR Cymru ar ran Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, yn datgelu rhwystrau sylweddol sy'n atal mynediad cyfartal at addysg drydyddol yng Nghymru, yn enwedig amddifadedd a chefndir economaidd.
Mae’r canfyddiadau’n dangos:
- Mae dysgwyr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn llai na hanner mor debygol o symud ymlaen i addysg uwch (19%) na’r rhai nad ydynt yn gymwys (43%) a thua 50% yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg drydyddol o gwbl.
- Mae 50% o’r myfyrwyr y mae eu rhieni’n meddu ar gymhwyster gradd neu gymhwyster cyfatebol yn dewis Chweched Dosbarth o’i gymharu â 19% o’r rhai nad oes gan eu rhieni gymwysterau.
- Mae pobl anabl yn llawer llai tebygol o gymryd rhan mewn addysg drydyddol, gydag un rhan o bump o’r disgyblion mwyaf anabl ddim mewn chweched dosbarth nac addysg bellach.
- Mae 18% o’r dysgwyr sy’n cael eu cyfyngu lawer gan anabledd yn symud ymlaen i addysg uwch, o’i gymharu â 27% sy’n cael eu cyfyngu ychydig a 42% nad oeddent yn cael eu cyfyngu.
- Roedd y dadansoddiad o’r data yn dangos bod siaradwyr Cymraeg rhugl yn fwy tebygol o fod ar lwybrau academaidd na’r rhai sydd â llai o allu Cymraeg neu ddim.
Roedd Scott Jenkinson wedi ailddarganfod addysg drydyddol yn ddiweddarach yn ei fywyd. Ers hynny mae wedi sefydlu Youth Shedz, elusen lle mae pobl ifanc yn cefnogi pobl ifanc eraill ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd: “Rwy’n grediniol bod addysg drydyddol wedi trawsnewid fy mywyd ar ôl cyfnodau o gaethiwed a charchar. Fodd bynnag, oni bai fod yr hanfodion gennych chi, fel cartref cynnes sy'n addas i astudio, bwyd a thrafnidiaeth hanfodol, bydd addysg drydyddol yn parhau i fod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl. Oni bai ein bod yn cefnogi pobl i ddiwallu eu hanghenion sylfaenol, fyddan nhw ddim hyd yn oed yn gallu dechrau cael mynediad at addysg drydyddol, heb sôn am ffynnu pan fyddant yn cyrraedd yno.”
Dywedodd Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch Llywodraeth Cymru: “Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu cyfranogiad ym mhob math o addysg drydyddol, gan gynnwys i’r rhai o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.
“Mae’r gwaith hwn gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn gam pwysig i ddarparu gwybodaeth o ansawdd uchel i Medr am gyfranogiad mewn addysg drydyddol yng Nghymru, gan gynnwys y ffactorau sy’n cyfrannu at rwystrau rhag cael mynediad at addysg drydyddol a llwyddo ynddi. Bydd hyn yn helpu Medr i ddatblygu cynllun i gyflawni un o’i ddyletswyddau strategol – mynd i’r afael ag anghydraddoldebau cyfranogiad mewn addysg drydyddol.”