Cynhadledd yn arddangos prosiectau arloesol sy'n mynd i'r afael â heriau cymdeithasol byd-eang
23 Hydref 2024
Yng nghynhadledd Cymrodoriaeth Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd ar 9 Hydref 2024, arddangoswyd prosiectau ysbrydoledig sy'n mynd i'r afael ag ystyriaethau mwyaf dybryd cymdeithas.
Cyflwynodd staff o bob rhan o'r ysgol eu gwaith, gyda phob un yn canolbwyntio ar gyflawni effaith wirioneddol yn unol ag ethos gwerth cyhoeddus yr ysgol o ddefnyddio busnes er budd cymdeithas.
Trwy’r rhaglen Cymrodoriaeth Ymgysylltu Gwerth Cyhoeddus, cynigir cyfle i staff neilltuo amser ac adnoddau i gyflawni prosiectau ymchwil sy'n creu gwerth yn lleol ac yn fyd-eang. Trwy fanteisio ar eu harbenigedd ac ymgysylltu â phartneriaid amrywiol, mae cymrodyr yn gweithio ar brosiectau sy'n ymestyn ymhell y tu hwnt i'r brifysgol, gan ysgogi newid ystyrlon mewn cymunedau.
O ddadansoddeg gofal cymdeithasol i gydraddoldeb rhywedd a grymuso cymunedau gwledig, mae'r prosiectau a gafodd sylw yn y digwyddiad yn dangos y ffyrdd amrywiol y mae Ysgol Busnes Caerdydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn creu gwerth cyhoeddus.
Meddai'r Athro Peter Wells, Rhag Ddeon Gwerth Cyhoeddus Ysgol Busnes Caerdydd:
Ychwanegodd: "Roedd themâu clir yn uno'r prosiectau: adeiladu ar rwydweithiau cydweithio presennol, ysgogi cefnogaeth gan Ysgol Busnes Caerdydd, sicrhau buddion mesuradwy i bobl mewn angen, gyda brwdfrydedd, egni, sgiliau ac ymrwymiad personol dwfn yn ysgogiad."
Dyma'r prosiectau arloesol:
Gwella gofal cymdeithasol gyda dadansoddeg data – Dr Seongsoo (Simon) Jang
Roedd prosiect Dr Simon Jang yn ystyried sut y gall dadansoddeg data wella ansawdd gwasanaethau a chynhwysiant mewn gofal cymdeithasol. Gan gydweithio â phartneriaid rhyngwladol, roedd yr ymchwil yn edrych ar sut mae derbynwyr gwasanaeth yn gwerthuso gofal, gyda'r nod o ail-lunio'r ffordd y darperir gofal cymdeithasol. Mae'r gwaith yn gobeithio dylanwadu ar systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn y tymor hir, gan ganolbwyntio ar y bobl sydd ei angen fwyaf.
Hyrwyddo menywod mewn economeg – Yr Athro Melanie Jones
Roedd prosiect yr Athro Melanie Jones yn canolbwyntio ar hyrwyddo menywod mewn economeg ledled Cymru. Trwy ennyn diddordeb disgyblion ysgol, myfyrwyr prifysgol ac economegwyr proffesiynol, y nod oedd amrywio'r maes ac annog mwy o fenywod i ddilyn gyrfaoedd mewn economeg. Trwy ddigwyddiadau a phartneriaethau lleol, mae'r gwaith yn chwalu rhwystrau ac yn grymuso'r genhedlaeth nesaf o economegwyr benywaidd yng Nghymru. Mae'r dull hwn o weithredu wedi ei rannu fel arfer gorau gan Rwydwaith Menywod mewn Economeg y DU.
Cymdogaethau Sero Net yn Ne Cymru – Dr Qian Li
Roedd prosiect Dr Qian Li yn canolbwyntio ar oresgyn rhwystrau at fabwysiadu datrysiadau sero net mewn cymunedau lleol yn Ne Cymru. Gan gynnwys myfyrwyr ôl-raddedig a PhD, roedd y prosiect yn cyfuno gweithdai ac ymchwil sylfaenol, a chydweithio gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Mae'r fenter wedi gosod sail ar gyfer ymdrechion yn y dyfodol i greu cymdogaethau cynaliadwy, carbon-niwtral.
Sut y gall technoleg chwyldroi arferion bwyd môr cynaliadwy – Dr Maryam Lotfi
Roedd prosiect Dr Maryam Lotfi yn ymdrin â materion cymdeithasol mewn cadwyni cyflenwi byd-eang, gan ganolbwyntio'n benodol ar ffermio berdys yn Bangladesh. Roedd yr ymchwil yn edrych ar botensial technoleg ddigidol i fynd i'r afael â heriau fel caethwasiaeth fodern a hawliau gweithwyr yn ddwfn yn y cadwyni cyflenwi. Amlygodd ei chanfyddiadau gymhlethdodau creu systemau bwyd sy'n gymdeithasol gynaliadwy a phwysigrwydd ymchwil maes wrth lunio arferion moesegol.
Optimeiddio systemau bwyd dan arweiniad y gymuned yng Nghymru – Yr Athro Jane Lynch
Roedd gwaith yr Athro Jane Lynch yn canolbwyntio ar optimeiddio systemau bwyd dan arweiniad y gymuned yng Nghymru, a chefnogi microfusnesau lleol gyda chaffael cynaliadwy. Helpodd gynhyrchwyr bwyd bach i gysylltu â chyfleoedd yn y sector cyhoeddus a gosod y sail ar gyfer datblygu caffael gwerth cyhoeddus yn y dyfodol.
Technoleg ddemocrataidd ar gyfer cwmnïau cydweithredol - Dr Genevieve Shanahan
Roedd prosiect Genevive Shanahan yn ystyried sut y gall offer digidol hybu cyfranogiad a phenderfyniadau mewn cydweithredfeydd. Y nod oedd creu gwefan yn cynnig arweiniad ar y technolegau gorau ar gyfer ymgysylltu ag aelodau a rheoli, a bu'n gweithio mewn partneriaeth gydag amrywiol sefydliadau, gan gyfuno theori ag astudiaethau achos ymarferol. Er bod yr effaith lawn yn dal i ddod i'r amlwg, mae'r fenter eisoes yn cyfeirio cwmnïau cydweithredol at ddyfodol mwy democrataidd a theg.
Grymuso menywod yn Nepal – Helen Whitfield
Aeth prosiect Helen Whitfield i'r afael â thlodi mislif yng nghefn gwlad Nepal trwy ddarparu cynhyrchion hylendid i fenywod a merched, ochr yn ochr â chymorth ar gyfer gwisg ysgol ac anghenion sylfaenol eraill. Bu'r prosiect, a seiliwyd ar flynyddoedd o waith elusennol personol, yn helpu i ymdrin â thlodi mislif a darparu cefnogaeth hanfodol i gymuned anghysbell. Sicrhaodd ymroddiad ac ymdrechion Helen i godi arian bod ei phrosiect yn gwneud gwahaniaeth diamau, gan sicrhau cefnogaeth barhaol i fenywod mewn angen.
Am fwy o straeon gwerth cyhoeddus gan Ysgol Busnes Caerdydd, gwrandewch ar gyfres ddiweddaraf ein podlediad, Pŵer Gwerth Cyhoeddus. Mewnosod dolen i'r podlediad