Ewch i’r prif gynnwys

School of Music staff in China

22 Hydref 2024

Ken Hamilton performing in China

Ar ôl cyhoeddi fersiwn iaith Mandarin o'i lyfr After the Golden Age: Romantic Pianism and Modern Performance (黄金时代之后) mae'r Athro Kenneth Hamilton wedi ymgymryd â dwy daith o amgylch Tsieina.

Wedi’u trefnu gan Shanghai Music Publishing House ar y cyd ag Ysgol Gerddoriaeth Shanghai Ym mis Mai ymwelodd ag Ysgol Gerddoriaeth Shanghai, Ysgol Gerddoriaeth Zhejiang a Phrifysgol Suzhou i berfformio cyngherddau, rhoi darlithoedd a dosbarthiadau meistr a llofnodi llyfrau.

Ym mis Medi gwnaeth yr un peth yng Nghanolfan Biano Ryngwladol newydd Sefydliad Technoleg Xiamen (lle rhoddwyd gwobr “Artist Nodedig” iddo), yng Ngholeg Tan Kah Kee yn Xiamen, ym Mhrifysgol Normal Minnan yn Zhangzhou, ym Mhrifysgol Normal De Tsieina a Neuadd Steinway yn Guangzhou, ym Mhrifysgol Normal Dwyrain Tsieina yn Shanghai, ym Mhrifysgol Peking a'r Ysgol Gerddoriaeth Ganolog yn Beijing, ac yn Ysgol Gerddoriaeth Xi'an.

Ym mis Hydref bu hefyd yn Brif Gyflwynydd mewn Symposiwm Ymchwil Perfformio Cerddoriaeth deuddydd ym Mhrifysgol UCSI ym Malaysia.

Mae’r Athro Monika Hennemann wedi ymwneud ag ystod o ddigwyddiadau yn Tsieina dros yr haf, gan gynnwys darlithio ar Magic Flute gan Mozart, cerddoriaeth piano Mendelssohn, ac ar Gyfeiliant Byrfyfyr wrth Berfformio Caneuon y 19eg Ganrif ym Mhrifysgol Peking, Ysgol Gerddoriaeth Ganolog yn Beijing, Prifysgol Normal Beijing, Prifysgol Normal De Tsieina, Prifysgol Normal Dwyrain Tsieina, Ysgol Gerddoriaeth Xi'an a Phrifysgol Xiamen.

Rhoddodd ddarlithoedd gwadd yn seremoni agoriadol Ganolfan Biano Ryngwladol Sefydliad Technoleg Xiamen, lle rhoddwyd gwobr “Ysgolhaig Nodedig” iddi, ac ym Mhrifysgol Sunway ym Malaysia.

Ac yntau’n Cyd-gyfarwyddwr Ymgysylltu Rhyngwladol yr Ysgol, mae Dr Jerry Zhuo wedi cyflawni ystod o ymrwymiadau yn Tsieina, gan hyrwyddo'r Ysgol Cerddoriaeth yn helaeth a chyflwyno ei ymchwil ddiwylliannol a chyfansoddiadol ei hun ym Mhrifysgol Xiamen, Prifysgol Normal Beijing, Prifysgol Normal De Tsieina a Phrifysgol Normal Minnan.

Roedd hefyd yn gyfieithydd arbenigol ar gyfer yr Athro Hennemann a’r Athro Hamilton yn Ysgol Gerddoriaeth Ganolog Tsieina, Prifysgol Normal Beijing, Prifysgol Xiamen, Sefydliad Technoleg Xiamen, Prifysgol Normal Minnan, a Choleg Tan Kah Kee.

Monica Hennemann lecturing in China

Dr Jerry Zhuo has also undertaken a series of engagements in China as the School's Co-Director of International Engagement, extensively promoting the School of Music and presenting his own cultural and compositional research at Xiamen University, Beijing Normal University, South China Normal University and Minnan Normal University.

Dr Zhou also acted as an expert translator for Professors Hennemann and Hamilton at the China Central Conservatory, Beijing Normal University, Xiamen University, Xiamen Institute of Technology, Minnan Normal University, and Tan Kah Kee College.

Jerry Zhou lecturing in China

Rhannu’r stori hon