Ewch i’r prif gynnwys

Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Wolfson yn siarad ar bodlediad Science Café y BBC, gan dynnu sylw at ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru

22 Hydref 2024

Prof Frances Rice smiling with a blue background showing the BBC Science Cafe logo

Cafodd yr Athro Frances Rice, cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, ei gwahodd yn ddiweddar i drafod ymchwil iechyd meddwl ar bodlediad gan y BBC.

Cyfrannodd yr Athro Rice at bennod arbennig o bodlediad Science Café y BBC a ganolbwyntiodd ar ymchwil iechyd meddwl yng Nghymru. Roedd y bennod, a gafodd ei chyflwyno gan Adam Watson, yn trin a thrafod iselder, sef cyflwr iechyd meddwl cymhleth sy’n gallu effeithio ar unrhyw un, ar unrhyw adeg o’i fywyd.

Mae iselder yn amlygu ei hun mewn ffyrdd amrywiol, gan arwain yn aml at gamddealltwriaeth a stigma. Mae ymchwilwyr ledled Cymru yn gweithio i ddatgelu effaith y cyflwr ar unigolion a chymunedau, gan geisio gwella ein dealltwriaeth a'r triniaethau sydd ar gael.

Yn ystod y bennod, bu'r Athro Rice yn trafod nifer o bynciau pwysig sy’n ymwneud ag iechyd meddwl pobl ifanc. Rhoddodd sylw i’r ffaith nad yw ymchwil ar iselder ymysg oedolion bob amser yn berthnasol i blant, gan bwysleisio'r angen am astudiaethau sy’n canolbwyntio ar blant yn benodol. Hefyd, eglurodd fod y rhan fwyaf o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder, yn dechrau yn ystod plentyndod, sy’n gwneud ymchwil ac ymyrraeth gynnar yn hollbwysig.

Dyma a ddywedodd yr Athro Rice: “Roeddwn i’n falch o allu cymryd rhan ym mhodlediad Science Café y BBC. Yn ystod y drafodaeth, es i i’r afael â phwysigrwydd ystyried cyflyrau iechyd meddwl, megis iselder a gorbryder, yn anhwylderau sbectrwm gyda symptomau sy’n gallu amrywio o ran eu difrifoldeb.  

“Hefyd, bues i’n trafod y prif arwyddion y dylai rhieni fod yn effro iddyn nhw wrth wahaniaethu rhwng hwyliau isel arferol ac iselder clinigol ymysg plant, a’r cysylltiad rhwng niwroamrywiaeth a risg uwch o iselder, gan danlinellu’r angen am gymorth wedi’i deilwra ar gyfer unigolion niwroamrywiol. 

“Gwnaethon ni hefyd drafod y galw cynyddol am wasanaethau iechyd meddwl, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc, a’r angen dybryd am fynediad ehangach at ofal.”

Mae Canolfan Wolfson yn canolbwyntio ar wella’r canlyniadau hyn drwy ymchwilio i ymyriadau cynnar a thriniaethau ar gyfer pobl ifanc drwy astudiaeth Sgiliau ar gyfer Lles Pobl Ifanc (SWELL).  

Ar hyn o bryd, mae astudiaeth SWELL yn ystyried a all therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein mewn grŵp, ar gyfer pobl ifanc yn bennaf, leddfu symptomau iselder a gorbryder a gwella lles ymysg y rhai mewn trallod emosiynol.

I gloi, dywedodd yr Athro Rice: “Roeddwn i wrth fy modd yn siarad ar y podlediad, ac yn falch o gael y cyfle i drafod ein treial clinigol, astudiaeth SWELL, sy'n cynrychioli cam pwysig wrth ddatblygu cymorth wedi'i dargedu’n fwy ar gyfer pobl ifanc. Roedd yn gyfle gwych i dynnu sylw at yr ymchwil iechyd meddwl hollbwysig sy’n digwydd yng Nghymru, ac rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r gwaith pwysig hwn yng Nghanolfan Wolfson.”

Roeddwn i wrth fy modd yn siarad ar y podlediad, ac yn falch o gael y cyfle i drafod ein treial clinigol, astudiaeth SWELL, sy'n cynrychioli cam pwysig wrth ddatblygu cymorth wedi'i dargedu’n fwy ar gyfer pobl ifanc. Roedd yn gyfle gwych i dynnu sylw at yr ymchwil iechyd meddwl hollbwysig sy’n digwydd yng Nghymru, ac rydyn ni’n falch o fod yn rhan o’r gwaith pwysig hwn yng Nghanolfan Wolfson.
Yr Athro Frances Rice Senior Lecturer, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Gwrandewch ar y podlediad llawn ar BBC Sounds i gael gwybod rhagor am sut mae gwyddonwyr megis yr Athro Rice yn gwneud gwahaniaeth ym maes ymchwil iechyd meddwl ac yn helpu i greu dyfodol mwy disglair i bobl ifanc.

Darllenwch ragor am sut i gymryd rhan yn astudiaeth SWELL.

Rhannu’r stori hon