Ewch i’r prif gynnwys

Dyn o Gaint yn rhwyfo ar draws yr Iwerydd er cof am ei wraig

22 Hydref 2024

Darren Smith and his wife Jenny

Bydd Darren Smith, yn ceisio rhwyfo 3,200 o filltiroedd ar draws yr Iwerydd ar gyfer elusen ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf gyda Pete Ross, Neil Glover a Nick Southwood.

Er nad oedden nhw erioed wedi rhwyfo o'r blaen, bydd Darren o Chatham, yn Nghaint, ynghyd â'i dîm yn rhoi cynnig ar yr 'Atlantic Dash' o Lanzarote i Antigua, sy’n cymryd tua 8 wythnos. Bydd yr her flinderus hon yn golygu y byddan nhw’n rhwyfo am 24 awr y dydd, yn wynebu tonnau 20 troedfedd, yn ogystal â salwch môr, diffyg cwsg a briwiau.

Penderfynodd Darren, sy'n rheoli cwmni adeiladu, ymgymryd â'r her er cof am ei wraig Jenny. Hoffai godi £50,000 i gefnogi gwaith Canolfan Ymchwil Coma ac Anhwylderau Ymwybyddiaeth (CDoC) Prifysgol Caerdydd. Mae'r Ganolfan CDoC yn cynnal ymchwil i agweddau moesegol a chyfreithiol gwneud penderfyniadau a gofal i bobl sydd mewn anhwylderau ymwybyddiaeth ers amser maith, yn ogystal â rhoi cymorth a chyngor amhrisiadwy i deuluoedd.

Yn 2019, ymgwympodd gwraig Darren, Jenny. Cafodd ei rhuthro i'r ysbyty ac fe ddangosodd sgan diwmor ar yr ymennydd. Cafodd lawdriniaeth 10 awr i dynnu'r tiwmor, ond dioddefodd anaf difrifol i'w hymennydd a’i rhoddodd hi mewn coma na fyddai hi fyth yn deffro ohono.

Am 18 mis, cafodd Jenny ofal yn yr ysbyty, gyda Darren a'i theulu wrth ei hochr. Ar ôl llawer o brofion ac asesiadau clinigol, daeth yn amlwg na fyddai ganddi hi fywyd y byddai hi wedi ei werthfawrogi eto.

Dywed Darren "Roedd ei gwylio hi’n gaeth yn y cyflwr hwn yn brofiad trawmatig iawn. Roedd hi'n ddall ac yn fyddar, ac yn cael ei chadw'n fyw gan beiriannau. O adnabod Jenny, dyma fyddai ei hunllef waethaf. Roedd hi'n ymddangos fel pe na bai ganddi ffordd allan."

Yna, darganfyddodd fod prosesau cyfreithiol a moesegol a allai helpu i arwain penderfyniadau cadarn ynghylch triniaeth feddygol, gan sicrhau y byddai dymuniadau Jenny ei hun yn cael eu parchu.

"Ar ôl i'r tîm meddygol adolygu cyflwr clinigol Jenny, a thrafod pethau'n gyda ni’n llawn, penderfynwyd canolbwyntio ar ofal lliniarol a gofal diwedd oes. Cafodd ymyriadau sy’n cynnal bywyd eu tynnu'n ôl, ac fe fu Jenny farw yn heddychlon. Rwy'n ddiolchgar iawn bod hyn wedi bod yn opsiwn iddi.

"Roedd yr hyn a ddigwyddodd yn annioddefol, ond rwy wir eisiau helpu teuluoedd eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg i wybod bod help ar gael, felly does dim rhaid iddyn nhw brofi'r hyn wnaethon ni. Mae'r Ganolfan CDoC wedi helpu i newid dulliau timau clinigol a’r gyfraith o wneud penderfyniadau i gleifion sydd ag anafiadau trychinebus i'r ymennydd, ac yn rhoi cefnogaeth i deuluoedd yn ystod yr adegau gwaethaf. Rydw i mor falch o gefnogi eu gwaith er cof am fy ngwraig."

Dywedodd yr Athro Jenny Kitzinger, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan CDoC: "Rydyn ni’n ddiolchgar iawn bod Darren wedi penderfynu ymgymryd â'r her hon i godi ymwybyddiaeth am y mater hwn ac i gefnogi ein gwaith. Bydd rhoddion yn ein helpu ni i barhau i wneud ymchwil yn y maes cymhleth hwn, yn helpu i wella polisi ac arfer, a cheisio sicrhau bod teuluoedd yn cael yr wybodaeth a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw wrth wneud penderfyniadau torcalonnus am ofal eu hanwyliaid. Rwy'n dymuno pob lwc i Darren gyda'r rhwyfo ac ni alla i aros i'w annog ef a'r tîm wrth iddyn nhw groesi’r llinell derfyn."

Ynghyd â'i ffrind gorau, Pete, a'i dîm, Neil a Nick, mae Darren yn paratoi ar gyfer yr her epig sydd o'u blaenau. Yn ddiweddar, fe gawson nhw gwch rhwyfo môr Rannoch R45 ac maen nhw wedi bod yn ymarfer trwy rwyfo o amgylch Burnham-on-Crouch.


Dywedodd Darren, a ddysgodd rwyfo yn ddiweddar: "Rwy'n mynd i mewn i'r her hon gyda'r nerth i wybod ein bod yn mynd i'w chyflawni. Ar ôl popeth yr es i drwyddo gyda Jenny, rwy'n gwybod bod gen i'r gallu i oddef a gwthio fy hun yn feddyliol."

Nod Darren yw codi £50,000 ac mae eisoes wedi cael rhoddion gan ffrindiau, teulu a dieithriaid sydd wedi clywed stori ei deulu. "Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi rhannu a rhoi hyd yma. Rwy wedi cael fy syfrdanu gan haelioni pawb ac rwy’n ddiolchgar iawn i glywed gan deuluoedd eraill sydd wedi bod trwy brofiadau tebyg."

Bydd Darren a’i dîm yn cychwyn yr her Atlantic Dash ar 23 Ionawr 2025 o Lanzarote. Gallwch chi gefnogi Darren i godi arian drwy ei dudalen JustGiving.

Rhannu’r stori hon

Beth am godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd trwy redeg Hanner Marathon Caerdydd, gyda lle rhad ac am ddim ar dîm #TeamCardiff?