Ewch i’r prif gynnwys

Cyfathrebu heb ffiniau

21 Hydref 2024

Sut aeth Japan ar drywydd iaith gyffredin ryngwladol newydd yn y ganrif o wrthdaro byd-eang

Mae’r hanesydd Dr Ian Rapley wedi bod yn mynd ar drywydd Esperanto yn Japan hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ac yn ei lyfr cyntaf mae’n amlygu lle Esperanto yn Nwyrain Asia a phroblem ieithoedd ryngwladol.

Mae’n olrhain sut y denwyd ystod eang o boblogaeth Japan i ystyried defnyddio Esperanto, gan ddatgelu sut yr oedd y rhai a fabwysiadodd yr iaith yn weithgar ledled y wlad, ac yn arwyddocaol yng Nghynghrair y Cenhedloedd ac yn yr Undeb Sofietaidd hefyd.

Wrth i Japan foderneiddio, cafwyd cyswllt cynyddol â'r byd ehangach, gyda rhyngweithiadau trawswladol cymhleth, gan gynnwys masnach, diplomyddiaeth a llif deallusol - a phob un ohonyn nhw angen iaith gyffredin ar gyfer cyfathrebu. Teithiodd Esperantyddion Japaneaidd yn rhyngwladol, gan greu cyfeillgarwch, dysgu dosbarthiadau, darlledu ar y radio.

Gellid ystyried bod Esperanto, dyfais Ewropeaidd, [Zamenhof, 1887] yn ddewis annhebygol i'r Japaneaid, ond fe’i croesawyd yn frwd gan ei fod yn cynnig ateb posibl i’r broblem iaith ryngwladol – sut i gyfathrebu’n effeithiol ar draws ffiniau ieithyddol a chenedlaethol.

Mae gan Esperanto system seml o ffurfio geiriau a gramadeg - mae’n adnabyddus am ei Seren Werdd sy’n symbol o 5 cyfandir a heddwch - fe'i cynlluniwyd i fod yn hawdd i'w ddysgu, ac i osgoi'r anghysondebau y mae ieithoedd cenedlaethol neu ranbarthol yn datblygu dros amser.

Mae'r hanesydd Japanoffeil, wedi bod yn ymchwilio sut y denwyd llawer o Japaneaid i feistroli ail iaith gyffredinol yn hytrach na dysgu iaith dramor, yn eu hymgais i fod yn fodern.

Mae ‘Green Star Japan’ yn cynnig dull newydd o ddeall moderniaeth fyd-eang Japan ac mae’n trin a thrafod yr ymdrechion i ledaenu iaith a luniwyd i ddod â phobloedd y byd ynghyd.

Mae Dr Ian Rapley, Hanesydd Japan fodern, yn arbenigo mewn cyfuniad o hanes cymdeithasol, diwylliannol a deallusol ar ddechrau'r 20fed ganrif.

Mae Green Star Japan: Esperanto and the international language question yn cael ei gyhoeddi’r mis hwn gan Wasg Prifysgol Hawai'i.

Rhannu’r stori hon