Gwyddonwyr Caerdydd yn rhan o'r tîm sy'n cystadlu am gael bod yn rhan o daith ofod NASA gwerth $1bn
22 Hydref 2024
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn cymryd rhan allweddol mewn taith ofod gwerth $1bn sy'n cael ei hystyried gan NASA i ymchwilio i gyfrinachau'r bydysawd.
Bydd y PRobe far-Infrared Mission for Astrophysics (PRIMA) yn datgelu mwy am y nwy, y rhew a'r llwch sy’n bodoli o amgylch sêr newydd-anedig, sy'n cyddwyso i ffurfio planedau, ac am y modd mae meysydd magnetig rhyngserol yn dylanwadu ar y broses o ffurfio sêr fel yr Haul.
Bydd hefyd yn mesur golau o alaethau pell, gan ddatgelu sut y ffurfiodd ac y datblygodd galaethau fel y Llwybr Llaethog i’r hyn a welwn ni heddiw.
Mae PRIMA yn un o ddwy daith bosibl a ddewiswyd gan NASA i’w hystyried i gael eu hastudio ymhellach. Bydd pob tîm sy’n cynnig prosiect yn cynnal cyfnod dwys 12 mis o hyd i astudio’r cysyniad cyn y bydd NASA yn dewis un i'w lansio yn 2032.
Bydd PRIMA yn manteisio ar arbenigedd o Ganolfan Caerdydd ar gyfer Ymchwil a Thechnoleg Astroffiseg (CHART), ynghyd â chydweithwyr o Brifysgol Sussex, Coleg Imperial Llundain, Prifysgol Rhydychen, Prifysgol Caerlŷr a Choleg Prifysgol Llundain, gyda chefnogaeth Asiantaeth Ofod y DU (UKSA).
Meddai’r Athro Carole Tucker, sy’n arwain tîm Caerdydd: “Mae’n newyddion gwych bod NASA wedi dewis cysyniad taith isgoch pell ar gyfer astudiaeth Cam A. Mae’r tîm o Gaerdydd, ynghyd â’n cydweithwyr yn y DU a’r UKSA, wedi bod yn cydweithio dros nifer o flynyddoedd â thîm PRIMA yr Unol Daleithiau a’n cydweithwyr Ewropeaidd, i helpu i ddod â’r cynnig cysyniadol i’r cam hwn.”
Bwriad PRIMA yw canfod ac astudio golau ar donfeddi isgoch pell, sydd ychydig gannoedd o weithiau'n hirach na thonfeddi golau gweladwy. Rhaid i hyn ddigwydd yn y gofod gan fod atmosffer y Ddaear yn ddi-draidd o ran gwelededd isgoch pell.
Bydd y grŵp o Gaerdydd yn rhan o’r tîm sy’n cynllunio dau offeryn gwyddonol yr arsyllfa. Os dewisir taith PRIMA, bydd Caerdydd yn darparu hidlwyr optegol, sy'n hanfodol wrth ddiffinio'r tonfeddi golau a welir gan synwyryddion PRIMA, a hynny ar gyfer y ddau offeryn.
Y daith a ddewisir yn 2026 fydd y gyntaf mewn cyfres newydd o fentrau ym maes astroffiseg yn rhaglen hirsefydlog Explorers NASA.
Dywed NASA y bydd y gyfres nesaf o deithiau, Probe Explorers, yn 'llenwi'r bwlch rhwng teithiau sylweddol a rhai ar raddfa lai, wrth ymchwilio i gyfrinachau'r bydysawd.'
Ychwanegodd Dr Nicola Fox, sy’n weinyddwr cyswllt Cyfarwyddiaeth Cenhadaeth Wyddonol ym Mhencadlys NASA yn Washington: “Mae Rhaglen Explorers NASA yn sbarduno syniadau arbennig o greadigol ar gyfer teithiau sy’n ein helpu i ddatgelu dirgelion ein bydysawd. Mae sefydlu’r gyfres newydd hon o deithiau – y fwyaf y mae ein rhaglen Astroffiseg erioed wedi’i rhoi ar waith – wedi mynd â’r creadigrwydd hwnnw i diroedd newydd.”