Dod â’r economi gylchol yn fyw i oedolion ag anableddau dysgu
18 Hydref 2024
Yn ddiweddar, gwnaeth grŵp o oedolion ag anableddau dysgu o Ymddiriedaeth Innovate gymryd rhan mewn gweithdy rhyngweithiol yn RemakerSpace, gan drin a thrafod dylunio, argraffu a thrwsio 3D.
Roedd y gweithdy’n rhan o brosiect Un Blaned Ymddiriedolaeth Innovate, sy’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu i weithredu dros newid hinsawdd, gan arwain at newid ymddygiadol cadarnhaol yn y tymor hir. Yn aml, mae pobl ag anableddau dysgu yn tueddu i gael eu heithrio o fentrau sy’n ymwneud â chymryd camau er budd yr hinsawdd.
Dan arweiniad Dr Franck Lacan, Rheolwr Technegol yn RemakerSpace, gwnaeth y sesiwn ymarferol hon gynnig y cyfle i’r rhai a fu’n bresennol i ennill sgiliau a gwybodaeth werthfawr mewn technoleg 3D a thrwsio 3D.
Bu i Mared Hughes o Ymddiriedaeth Innovate fynegi ei brwdfrydedd, gan ddweud: “Roedd y gweithgaredd yn un o fewn cyrraedd pawb, ac wedi’i deilwra i ganiatáu i’r rhai a fuodd yno i ymgysylltu â phwnc pwysig, sef yr economi gylchol mewn modd a oedd yn ystyrlon iddyn nhw. Roedd yn ddiwrnod bendigedig.”
Gwnaeth y rhai a fu’n rhan o’r gweithgaredd rannu eu profiadau cadarnhaol hefyd. Dywedodd Morgan, un o'r unigolion a gymerodd ran yn y digwyddiad: “Roeddwn i wedi mwynhau pob dim yn y digwyddiad heddiw. Byddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i fynd i fwy o gyrsiau.” Yn ôl Bobby, un arall a gymerodd ran: “Dyma ichi brofiad gwych. Roedd y cyfan mor newydd a chyffrous, ac rwy’n gobeithio y galla’ i ddefnyddio rhywfaint o’r hyn a ddysgais i ddatblygu’r sgiliau a fydd eu hangen arna’ i gyfarwyddo fy ffilm fy hun.”
Dyma a ddywedodd Rebecca Travers, Rheolwr Canolfan RemakerSpace: “Pleser oedd gallu croesawu grŵp mor frwd ac awyddus. Rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r unigolion hyn yn ôl am fwy o sesiynau sy’n canolbwyntio ar yr economi gylchol.”
Menter nid-er-elw sy’n canolbwyntio ar ymgysylltu â’r gymuned ac addysg yw RemakerSpace, ac a gefnogir gan gyllid gan Lywodraeth Cymru ac Ysgol Busnes Caerdydd. Ei nod yw hyrwyddo a chefnogi ymestyn cyfnodau bywyd cynhyrchion a'r economi gylchol.
I gael rhagor o fanylion am y modd y mae RemakerSpace yn cynorthwyo grwpiau cymunedol, sefydliadau addysgol a busnesau, cysylltwch â Rebecca Travers, Rheolwr y Ganolfan RemakerSpace.