Myfyriwr PhD graddedig yn ennill cymrodoriaeth ôl-ddoethurol o fri
18 Hydref 2024
Yn ddiweddar, mae myfyriwr PhD graddedig o Ysgol y Gymraeg wedi ennill cymrodoriaeth ôl-ddoethurol gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Ym mis Medi 2024, ar ôl cwblhau ei gradd PhD flwyddyn ynghynt, llwyddodd Dr Kaisa Pankakoski i gael cymrodoriaeth ôl-ddoethurol gan yr ESRC, sef cyfle ariannu cystadleuol ar gyfer graddedigion PhD diweddar, sy’n eu galluogi i barhau i ddatblygu eu rhwydweithiau, eu gwaith ymchwil a’u sgiliau proffesiynol.
Dyma a ddywedodd Dr Pankakoski: “Y gymrodoriaeth hon oedd y cam nesaf naturiol yn fy ngyrfa. Ro’n i wedi bod yn paratoi at gyrraedd y pwynt hwn; dyma oedd fy mhrif ddyhead ers tro byd. Mae llwyddo i gyllid am 2 flynedd lawn yn beth gwych. Rwy'n llawn cyffro i gael cychwyn ar fy rôl newydd! Mae cael y gymrodoriaeth ôl-ddoethurol hon yn bennaf o ganlyniad i’r mentoriaid a'r goruchwylwyr mwyaf gwych. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi ar y daith hon.”
Yn ystod ei chyfnod yn Ysgol y Gymraeg, bu i Dr Pankakoski gael ei chefnogi gan 2 oruchwylydd, sef Dr Jonathan Morris a’r Athro Diarmait Mac Giolla Chríost. Wrth siarad am gyraeddiadau Dr Pankakoski, dyma a ddywedodd yr Athro Mac Giolla Chríost: “Rydyn ni wrth ein bodd bod un o’n graddedigion PhD wedi ennill y wobr hynod glodfawr hon. Mae’r cynllun yn un cystadleuol tu hwnt; mae’n cael nifer fawr o geisiadau rhagorol, a dim ond hyn a hyn o ddyfarniadau sy’n cael eu rhoi. Dyma gyfle gwych i Kaisa allu dod â’i hymchwil hynod ddiddorol i gynulleidfa ehangach.”
Bydd y cyllid a gaiff Dr Pankakoski drwy’r gymrodoriaeth ôl-ddoethurol yn caniatáu iddi barhau â'i hymchwil sosioieithyddol ar deuluoedd trawswladol. Ynghlwm wrth hyn y bydd ysgrifennu llyfr, o’r enw Multilingual Family Language Policy and Wellbeing: Language Ideologies, Strategies and Experiences, sy'n adeiladu ar yr ymchwil a wnaeth yn ystod ei chyfnod yn Ysgol y Gymraeg.
Un o'r themâu a ymdrinnir â hi yn y llyfr yw lles mewn cyd-destunau teuluol amlieithog. Dyma a ddywedodd Dr Pankakoski: “Pan nad yw plant yn gwireddu disgwyliadau penodol eu rhieni o ran datblygu iaith, gall hyn gael effaith negyddol ar les y teulu ac arwain at newid yn yr iaith a ddefnyddir. Mae’r llyfr yn trafod y syniadau heriol hyn am brofiadau teuluoedd amlieithog wrth iddyn nhw reoli sawl iaith, ac mae’n mynd i wraidd atebion a all hwyluso’r broses o drosglwyddo iaith.”
Bydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi yn 2026 yn y gyfres Bilingual Education and Bilingualism gan Multilingual Matters.
Mae ennill cymrodoriaeth ôl-ddoethurol yn nodi diwedd cyfnod Dr Pankakoski yn Ysgol y Gymraeg. Cychwynnodd Dr Pankakoski ei PhD yn yr Ysgol ym mis Hydref 2015, gan wneud ei thraethawd ymchwil, o’r enw ‘A Study of Multilingual Families in Helsinki and Cardiff: Parental Language Ideologies, Family Language Policy, Intergenerational Language Transmission Experiences, and Children's Perspectives’, lle buodd hi’n cynnal sawl astudiaeth achos ar 14 o deuluoedd amlieithog sy’n byw mewn 2 ddinas a fu’n gartref iddi: Caerdydd a Helsinki.
Bydd Dr Pankakoski yn parhau i ddatblygu’r ymchwil hon drwy gychwyn ar ei rôl newydd fel cydymaith ymchwil yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd. Bydd hi’n dechrau’r rôl hon ym mis Hydref 2024.