Dengys astudiaeth newydd y ceir achosion o wahaniaethu ymysg cyflogwyr sy’n recriwtio yn y DU rhwng ymgeiswyr anabl a’r rheiny sydd ddim.
21 Hydref 2024
Dengys astudiaeth newydd y ceir achosion o wahaniaethu ymysg cyflogwyr sy’n recriwtio yn y DU rhwng ymgeiswyr anabl a’r rheiny sydd ddim.
Rhwng mis Hydref 2022 a mis Gorffennaf 2023, gwnaeth Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Lerpwl, a Thames Water gynnal astudiaeth ar raddfa fawr mewn pum dinas ym Mhrydain.
Fe gyflwynon nhw gais i dros 4000 o swyddi gwag, gan ddefnyddio ceisiadau ffugiedig, a nodwyd mewn ambell un o’r rhain mai defnyddwyr cadeiriau olwyn oedden nhw (sy’n awgrymu bod ganddyn nhw anabledd symudedd), ac mewn eraill, nodwyd i’r gwrthwyneb. Roedd y ceisiadau hyn yn targedu dau fath o swyddi - cyfrifwyr a chynorthwywyr cyfrifon ariannol - ac fe’u haseswyd nad ydyn nhw’n cael effaith uniongyrchol ar berfformiad y gweithiwr.
Dyma rai o ganfyddiadau allweddol yr astudiaeth
Gwahaniaethu yn y broses recriwtio
Canfuwyd y ceir cryn dipyn o wahaniaethu yn erbyn ymgeiswyr anabl, gydag ymgeiswyr anabl yn cael cyfradd galw’n ôl o 15% sy’n is o'i gymharu â’r ymgeiswyr hynny sydd ddim yn anabl. Roedd y gwahaniaethu’n fwy amlwg yn achos swyddi cynorthwywyr cyfrifon ariannol llai medrus, lle gwelwyd bwlch o 21%.
Amrywiaeth yng nghyd-destun galwedigaeth benodol
Ni chanfuwyd unrhyw wahaniaethu yn achos swyddi cyfrifyddion ardystiedig, sydd o bosib yn adlewyrchu'r galw mawr am ddarpar ymgeiswyr o fewn yr alwedigaeth hon yn ystod y cyfnod astudio.
Arwyddion o gynhyrchiant
Bu’r astudiaeth roi prawf ar a fyddai gwella cymwysterau’r ymgeisydd anabl (drwy well addysg, sgiliau neu eirdaon) yn gallu lleihau'r bwlch. Er syndod, ni wnaeth yr arwyddion hyn leihau’r achosion o wahaniaethu. Yn aml, roedden nhw’n ehangu'r bwlch drwy fod o fudd anghymesur i ymgeiswyr heb fod yn anabl, sy’n awgrymu mai gwahaniaethu ar sail chwaeth sy’n deillio o ragfarn, ac nid o bryderon ynghylch cynhyrchiant, sydd wrth wraidd hyn.
Roedd yr astudiaeth hefyd wedi mynd i wraidd yr amrywiaethau a welir yn y gwahaniaethu ar sail y math o swydd a nodweddion y cyflogwr:
Gwaith tîm a swyddi sy'n wynebu’r cwsmer
Mewn swyddi lle mae gwaith tîm neu ymgysylltu’n uniongyrchol â’r cwsmer ynghlwm wrthynt, gwelwyd achosion gwaeth o wahaniaethu, o bosib oherwydd y rhagwelir y bydd cyd-weithwyr neu gwsmeriaid yn rhagfarnllyd.
Polisïau cyfle cyfartal
Ni chanfuwyd gostyngiad sylweddol mewn achosion o wahaniaethu yng nghyd-destun cyflogwyr sy'n hysbysebu eu bod yn hyrwyddo 'cyfleoedd cyfartal' neu’r rhai sy'n ymwneud â’r Cynllun Achredu Hyderus o ran Anabledd y Llywodraeth, sy’n codi cwestiynau am effeithiolrwydd y mentrau hyn.
Gweithio o bell
Ar gyfer cyfleoedd i weithio swyddi o bell, ni welwyd bylchau llai o ran recriwtio ymgeiswyr anabl, sy’n codi cwestiynau am allu gwaith o bell i fynd i’r afael â gwahaniaethau cyflogaeth anabl.
Darllen y papur yn llawn: Productivity Signals and Disability- Related Hiring Discrimination: Evidence from a Field Experiment (iza.org)
Mae'r prosiect hwn wedi’i seilio ar waith casglu data a gefnogir gan Gyllid Ymchwil Prifysgol Caerdydd (Arloesi i Bawb) a chyllid Pump Priming gan Ysgol Reolaeth Prifysgol Lerpwl.