Ewch i’r prif gynnwys

Y ddarlledwraig Babita Sharma yn trafod effaith twyllwybodaeth

17 Hydref 2024

Babita Sharma

Bydd y newyddiadurwraig a’r gynfyfyrwraig o Brifysgol Caerdydd, Babita Sharma (BA 1998), yn trin a thrafod effaith twyllwybodaeth a'r ymchwil ddiweddaraf sy'n cael ei chynnal i'w deall.

Mae Babita yn ddarlledwraig nodedig ac yn awdures lwyddiannus. Ar ben hynny, mae ganddi dros 15 mlynedd o brofiad yn y BBC. Bydd aelodau o’r Sefydliad Arloesi er Diogelwch, Troseddau a Chudd-wybodaeth Prifysgol Caerdydd (SCIII) yn ymuno â hi ar gyfer y drafodaeth ar 23 Hydref.

Bydd yr Athro Martin Innes, yr Athro Kate Daunt a'r cydymaith ymchwil Bella Orpen yn y digwyddiad hefyd, yn sôn am eu hymchwil academaidd ddiweddaraf.

Dywedodd Babita: ‘Camwybodaeth. Twyllwybodaeth. Newyddion Ffug. Heriau brys a sylweddol yw’r rhain yn ein hoes fodern. Drwy gydol fy ngyrfa ym maes newyddiaduraeth a darlledu, rwy wedi gweld dros fy hun yr effaith niweidiol y gall y rhain eu cael.

“Bydd y digwyddiad hwn gydag ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd yn rhoi’r cyfle i ni fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r pryderon yr ydym yn eu rhannu.”

Dywedodd yr Athro Martin Innes, cyd-gyfarwyddwr arweiniol SCIII: “Mae twyllwybodaeth yn wybodaeth sydd, wrth ei chyfathrebu, wedi'i chynllunio i gamarwain rhywun yn fwriadol am y ffeithiau. Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd y ffordd y mae'n effeithio ar yr hyder sydd gennym mewn sefydliadau yn ogystal ag i ba raddau yr ydym yn ymddiried yn ein gilydd. Mae'n newid trefn gymdeithasol realiti ac felly'n fygythiad difrifol i ddemocratiaeth. Mae etholiadau pwysig yn cael eu cynnal ledled y byd yn ogystal â gwrthdaro byd-eang. Mae’r ffyrdd y mae twyllwybodaeth yn dod yn rhan o’r system gymdeithasol yn effeithio ar y rhain ac yn eu newid.

“Rwy'n gobeithio y bydd y bobl sy'n dod i'r digwyddiad hwn gyda Babita Sharma yn gadael gyda dealltwriaeth lawer gwell o hyd a lled twyllwybodaeth, yn ogystal â'r gwaith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â’r mater”

Fe gyflwynodd Babita gyfres o bodlediadau yn ddiweddar o’r enw ‘Whose Truth?’. Mae’r rhain yn ystyried effaith twyllwybodaeth am COVID-19, casineb at fenywod, y newid yn yr hinsawdd a'r rhyfel yn Wcráin. Yn ystod ei gyrfa newyddiadurol, mae hi wedi rhoi sylw i ddigwyddiadau byd-eang o bwys megis pandemig COVID-19 ac etholiadau UDA yn 2020. Hefyd, fe enillodd y Wobr Cyflawni Asiaidd am ei gwaith ar Black Lives Matter.

Mae’r Athro Innes yn arbenigwr byd-eang ar ddeall twyllwybodaeth. Mae’n arwain rhaglen ymchwil ryngwladol o bwys i ddeall achosion a goblygiadau cyfathrebiadau digidol twyllodrus ac sy’n gwyrdroi ffeithiau.

Cynhelir y digwyddiad, ‘Ystyried Twyllwybodaeth - Pwy ddylen ni ymddiried ynddo?’ yng Nghanolfan Bywyd y Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd. I gadw eich lle yn rhad ac am ddim, cliciwch yma.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.