Ewch i’r prif gynnwys

Cynnydd mewn gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru

22 Hydref 2024

merch yn chwarae pêl-droed

Mae gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd wedi cynyddu yng Nghymru, gan wrthdroi dirywiad a ddechreuodd yn 2017.

Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), sef gwaith ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru, yn cynnal un o’r arolygon mwyaf o ddisgyblion ysgol yn y DU. Bob dwy flynedd mae’n gofyn cwestiynau i ddisgyblion ysgol uwchradd ar ystod o bynciau gan gynnwys lles meddwl, defnyddio sylweddau a bywyd ysgol. Cafodd yr arolwg diweddaraf ei gwblhau gan bron i 130,000 o ddysgwyr ym mlynyddoedd saith i 11, mewn 200 o ysgolion uwchradd a gynhelir ledled Cymru.

Mae'r canlyniadau wedi'u cynnwys yn rhan o ddiweddariad i'r Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd, sef offeryn hawdd ei ddefnyddio sy'n galluogi defnyddwyr fel ysgolion, y llywodraeth ac awdurdodau lleol i edrych ar ffigurau o arolygon SHRN dros amser.

Yn ôl y canfyddiadau, roedd bron i chwarter y bechgyn (23%) yn bodloni canllaw cenedlaethol y Prif Swyddog Meddygol o o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd, sef cynnydd o 21% yn 2019 a 2021.  Ymhlith merched, roedd 14% yn bodloni’r canllawiau presennol, sydd, er yn isel, wedi gwella o 12% yn 2021.

Roedd yr arolwg hefyd wedi trin a thrafod profiadau pobl ifanc o fwlio.  Dywedodd bron i 38% o bobl ifanc eu bod wedi cael eu bwlio yn ystod y misoedd diwethaf, cynnydd o 6% ers 2021. Mae canlyniadau’r arolwg yn uwch nag erioed a gyda mwy na 40% o ferched yn cael eu bwlio o gymharu â dros 30% o fechgyn.

Dywedodd Lorna Bennett, Ymgynghorydd Gwella Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’n galonogol iawn gweld y cynnydd cyffredinol mewn gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc oedran ysgol uwchradd. Rydyn ni’n gwybod bod gan weithgarwch corfforol fanteision sylweddol i iechyd corfforol a meddyliol, felly mae’n wych gweld bod pobl ifanc yn gwrthdroi’r dirywiad rydyn ni wedi’i weld ers 2017.  Mae’r data’n dangos bod pobl ifanc yn fwy egnïol yn yr ysgol a’r tu allan iddi, sy’n braf gweld.”

Ychwanegodd: “Mae’n amlwg bod grŵp sylweddol o bobl ifanc yn gorfod delio â chael eu bwlio, ac rydyn ni’n gwybod y gall hyn gael effaith ar iechyd meddwl. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gydag ysgolion yng Nghymru i ymgorffori’r Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Lles Emosiynol a Meddyliol, sydd wedi’i gynllunio i helpu ysgolion i gefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc, gan gynnwys atal bwlio a mynd i’r afael ag ef”.

Astudiaeth achos

Gan ddefnyddio data SHRN, nododd Ysgol Uwchradd Willows yng Nghaerdydd gyfle i gynyddu gweithgarwch corfforol ymhlith eu myfyrwyr a gweithredu rhaglen barhaus o gyfoethogi bob pythefnos ar gyfer yr ysgol gyfan.  Drwy weithio gyda phartneriaid lleol, busnesau, a’r myfyrwyr, mae’r ysgol bellach yn cynnig mwy na 50 o wahanol weithgareddau ar draws ystod enfawr o feysydd ac mae wedi gweld cynnydd mewn presenoldeb yn yr ysgol, mwy o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a gwell sgiliau gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion.

Dywedodd Chris Norman, Pennaeth Ysgol Uwchradd Willows: “Drwy ddatblygu’r rhaglen gyfoethogi rydyn ni wedi rhoi cyfle i’n dysgwyr fod yn llai llonydd a byw bywyd mwy egnïol.  Mae’r ystod o weithgareddau rydyn ni’n eu cynnig wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw roi tro ar ystod o wahanol ffyrdd o wneud ymarfer corff ac ymgorffori gweithgarwch corfforol yn rhan o’u bywydau bob dydd, ac mae hyn wedi creu angerdd a diddordebau newydd yn ogystal â bod â manteision iechyd corfforol a meddyliol.”

Dywedodd Dr Kelly Morgan, dirprwy gyfarwyddwr SHRN yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n goruchwylio casglu data: “Mae SHRN bellach yn ei unfed flwyddyn ar ddeg ac yn cynnwys pob ysgol uwchradd yng Nghymru, gan ofyn cwestiynau ar ystod eang o feysydd sydd o bwys i bobl ifanc. Ein nod yw darparu data cadarn ac eang fel bod gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y sector iechyd ac addysg y cyfleoedd i ddatblygu atebion go iawn a fydd yn para’n hir. Rydyn ni’n ddiolchgar i bob ysgol a myfyriwr a gymerodd ran."

Dyma a ddywedodd Zoe Strawbridge, un o ddadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae gweithio ar y cyd â SHRN a Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfle gwych i ddatblygu dangosfwrdd rhyngweithiol, gan roi cipolwg manwl i ni ar wahaniaethau rhanbarthol mewn iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu’r offeryn hwn a rhannu’r canlyniadau ar bynciau pellach dros y flwyddyn i ddod.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer addysgu ac ymchwil o ansawdd uchel.