Ewch i’r prif gynnwys

Sut y gall hysbysebu cynhwysol trwy gynrychioli anableddau hybu teyrngarwch i frandiau a chael effaith yn gymdeithasol

16 Hydref 2024

A woman in a wheelchair on a fashion runway

Dengys ymchwil newydd dan arweiniad Dr Zoe Lee yn Ysgol Busnes Caerdydd y gall brandiau ffasiwn foethus sy’n cofleidio gwir amrywiaeth wella delwedd y brand a dyfnhau cysylltiadau â’r cwsmer.

Er bod 15% o boblogaeth y byd yn byw gydag anableddau, mae nifer fawr o labeli ffasiwn foethus wedi bod yn araf i gynnwys modelau anabl yn eu hymgyrchoedd – gan fod ar eu colled o ran cynrychioli’r grŵp hwn sydd â chryn ddylanwad, ac o ran ei rym gwario.

Ond, wrth i amrywiaeth a chynhwysiant ddechrau denu mwy o sylw, mae labeli ffasiwn foethus fel Prada a Burberry yn gwneud cynnydd mawr, gan ymuno â mentrau megis The Valuable 500, sy'n hyrwyddo hawliau pobl anabl ym myd busnes.

Mae'r astudiaeth newydd hefyd yn dangos bod ymateb y defnyddwyr i gynrychiolaeth o anabledd mewn ffasiwn uchel yn fwy cymhleth na'r disgwyl. Er y gall hysbysebu mewn modd cynhwysol fod yn arwydd o gyfrifoldeb cymdeithasol, yn aml mae defnyddwyr yn cysylltu ffasiwn foethus ag ymdeimlad o berffeithrwydd a’u bod yn prynu rhywbeth arbennig. O ganlyniad, mae rhai defnyddwyr yn ystyried y cynrychiolaeth o anabledd yn achos o 'anwybyddu’r diwylliant woke' neu'n annilys.

Achos busnes dros hysbysebu mewn modd cynhwysol

Mae'r astudiaeth yn rhoi sylw i bwysigrwydd adrodd straeon yn ddilys wrth geisio goresgyn y posibilrwydd o gael adlach gan gwsmeriaid. Pan fydd brandiau’n ymgorffori cynrychiolaeth o anabledd mewn ffordd sy'n alinio â'u gwerthoedd craidd, mae canfyddiadau’r defnyddwyr yn newid yn gadarnhaol. Drwy adrodd straeon diddorol sy’n ennyn emosiynau’r defnyddwyr ac yn hybu hygrededd wrth hysbysebu, gall negeseuon helpu i normaleiddio anabledd a chryfhau’r teyrngarwch i frand.

“Mae'r ymchwil hon yn alinio ag ymroddiad Ysgol Busnes Caerdydd at hyrwyddo gwerth cyhoeddus drwy wthio’r ffiniau o ran amrywiaeth a chynhwysiant ym myd busnes. Pan gaiff hyn ei wneud yn y ffordd iawn, mae’n atgof pwerus y gall marchnata cynhwysol newid normau cymdeithasol a meithrin perthnasoedd cryfach a mwy dilys gyda defnyddwyr.”
Dr Zoe Lee Darllenydd (Athro Cyswllt) mewn Marchnata

Darllen y papur yn llawn.

Cyd-awduron: Dr Zoe Lee (Ysgol Busnes Caerdydd), Dr Sharifah Alwi (Prifysgol Cranfield) a Rossella Gambetti (Università Cattolica del Sacro Cuore, Milan, yr Eidal)

Rhannu’r stori hon