Bythol ifanc yn 125 oed! Mae Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn dathlu pen-blwydd carreg filltir
17 Hydref 2024
Bydd y tymor newydd yn cychwyn gyda dathliadau i gydnabod 125 mlynedd o’r adran Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol!
Bydd y dathliadau'n dechrau yng nghanol mis Hydref pan fyddwn ni’n cynnal amrywiaeth o ddarlithoedd, arddangosfeydd a digwyddiadau i gydnabod sefydlu’r adran 125 mlynedd yn ôl ym 1899.
Sefydlwyd yr adran pan gafodd y Brifysgol rodd anhysbys o £300 i benodi darlithydd mewn gwleidyddiaeth. Y darlithydd hwnnw oedd Sydney Chapman. Cafodd ei urddo’n farchog a sefydlu gyrfa nodedig ym maes y gwasanaeth sifil ar ôl ei yrfa academaidd.
Ers hynny, er bod yr adran wedi cael ei hadnabod gan amrywiaeth o enwau gan gynnwys yr Adran Gwyddor Wleidyddol a Masnachol a'r Adran Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth, mae ein hymrwymiad i ddysgu ac i wneud gwaith ymchwil ym maes gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol wedi bod yn gyson. Mae ein staff rhyngwladol eu bri yn parhau i dyfu ac mae ein cwricwlwm a'n gwaith ymchwil yn ystyried materion cyfoes, digwyddiadau'r byd a diddordebau ac anghenion ein cymuned myfyrwyr.
Dywedodd yr Athro David Boucher, trefnydd y dathliadau ‘’Bydden ni wrth ein bodd i fyfyrwyr a staff o bob rhan o’r Brifysgol gael gwybod rhagor am hanes ein hadran wrth i ni ddathlu’r garreg filltir sylweddol hon! Byddwn ni’n cynnal arddangosfa i ddangos blynyddoedd cynnar bywyd myfyrwyr yn y brifysgol, ac yn cynnwys academyddion arloesol megis Carole Pateman, damcaniaethwr gwleidyddol a ffeminist, a J Barry Jones oedd yn gyfrifol am ddatblygu gwleidyddiaeth diriogaethol. Hoffwn i roi blas i chi o flynyddoedd cynnar y Brifysgol, a sefydliad yr Adran, a oedd hyd yn oed bryd hynny yn cynnwys y gyfraith a chysylltiadau rhyngwladol fel pwnc perthnasol a chysylltiedig”.
Y cyntaf yn y gyfres o ddigwyddiadau yw darlith gan yr Athro Sergey Radchenko, "Ydyn ni mewn rhyfel oer arall? Tebygrwydd hanesyddol a chyfyng-gyngor gwleidyddiaeth ryngwladol heddiw" bydd y digwyddiad hyn yn cael ei gynnal ar 17 Hydref. Yna, bydd yr arddangosfa ar hanes yr adran yn cael ei hagor ar 21 Tachwedd ac wedyn derbyniad yn ystafell gyffredin y darlithwyr yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, a darlith gan Dr Ayesha Omar, yn dwyn y teitl, ‘’Ymgysylltiad Rhyddfrydol Hanes Deallusol Pobl Ddu yn Ne Affrica.’’
Bydd rhagor o ddigwyddiadau i ddathlu dechrau’r adran yn cael eu cynnal yn 2025 a bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi maes o law.