Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr yn ennill gwobr mewn gŵyl genedlaethol am berfformio monologau gwleidyddol

15 Hydref 2024

Owain Siôn
Owain Siôn

Mae myfyriwr o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi ennill medal yn nathliad diwylliannol mwyaf Cymru, am berfformio dwy fonolog wleidyddol o’r gorffennol a’r presennol.

Enillodd Owain Siôn, sy’n fyfyriwr Gwleidyddiaeth yn y flwyddyn gyntaf, Fedal fawreddog Richard Burton yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni a gynhaliwyd ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal mewn ardal wahanol o Gymru bob blwyddyn ac mae’n ddathliad o Gymreictod a phopeth Cymraeg. Mae’n dod â phobl ynghyd o bob rhan o’r wlad i arddangos celf, barddoniaeth, cerddoriaeth a diwylliant y genedl.

Mae Owain wedi bod yn cystadlu mewn Eisteddfodau ers blynyddoedd, ond eleni roedd yn gallu cystadlu yn y categori actio unigol, i rai dros 19 oed, lle mae cystadleuwyr yn cyflwyno dwy fonolog wrthgyferbyniol yn Gymraeg mewn rhaglen wyth munud o hyd. Dewisodd Owain fonolog Haman yr Agagiad o Ester gan Saunders Lewis a gyhoeddwyd yn 1960 a darn gan Davey o Killology Gary Owen o 2017.

Dywedodd Owain, gan gysylltu ei gamp â’i astudiaethau yn y brifysgol, “Mae unrhyw ddrama dda yn dweud rhywbeth wrthych chi am natur wleidyddol ei chyd-destun ehangach, neu’n wir am y dramodydd ei hunan. Mae monolog Haman yn llythrennol am wleidyddiaeth! Mae'n pregethu wrth was am natur pŵer a sut mae gwleidyddiaeth yn cael ei sbarduno gan ddynion sydd eisiau gweithredu fel Duw. Mae Davey yn Killology yn gymeriad yn ei arddegau cynnar sy’n byw mewn tlodi. Mae'n chwarae gêm gyfrifiadurol sy'n gwobrwyo chwaraewyr am ladd pobl. Mae’r ddwy ddrama’n dweud rhywbeth hollbwysig am y gymdeithas y cawson nhw eu hysgrifennu ynddyn nhw a dyna oedd yn apelio ata i.”

Enillodd Owain, sy’n hanu o Lanfairpwll, Ynys Môn, y wobr gyntaf o £500 yn y gystadleuaeth.

Llongyfarchiadau Owain, a phob lwc i chi gyda’ch astudiaethau a gyda chystadlaethau'r Eisteddfod yn y dyfodol!

Rhannu’r stori hon