Dathliadau Gŵyl Canol yr Hydref yn Techniquest
15 Hydref 2024
I anrhydeddu Gŵyl Ganol yr Hydref bu staff o Sefydliad Confucius Caerdydd yn cydweithio â Techniquest ym Mae Caerdydd i gynnig amrywiaeth o weithgareddau crefft Tsieineaidd draddodiadol.
Mae Gŵyl Ganol yr Hydref yn un o'r gwyliau pwysicaf mewn diwylliant Tsieineaidd ac mae'n gyfartal â’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Mae'r ŵyl yn coffáu ac yn dathlu diwedd cynhaeaf yr hydref ac mae hefyd yn cael ei alw yn Ŵyl y Lleuad. Dywedir mai canol mis Hydref yw pan fydd y lleuad ar ei llawnaf a disgleiriaf.
Ddydd Sadwrn 14 Medi, gwahoddwyd dros 450 o ymwelwyr Techniquest i gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft ac i ddysgu am yr hanes tu ôl i darddiad yr ŵyl. Gwyliwch ein ffilmbyr o'r dathliadau.
Ymhlith y gweithgareddau a gynigiwyd roedd; gwneud llusernau cwningen, ysgrifennu eich enw yn Tsieineaidd, torri addurniadau papur ar gyfer ffenestri, gwneud masgiau a phaentio gyda brwsys Tsieineaidd traddodiadol.
Fe wnaeth y ganolfan fwynhau awyrgylch parti drwy gydol y dydd a chafwyd ymweliad arbennig iawn gan panda cyfeillgar a oedd yn hynod boblogaidd gyda’r plant.
Bydd staff Sefydliad Catalysis Caerdydd nawr yn brysur yn cynllunio'r ŵyl fawr nesaf sef Y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd. Am wybodaeth ar gyfer digwyddiadau'r Sefydliad sydd ar ddod, edrychwch ar ein tudalen digwyddiadau neu dilynwch ni ar Facebook @CardiffConfuciusInstitute ac ar X @CUconfucius