Cyfrwng buddsoddi newydd gwerth £300 miliwn wedi’i lansio er mwyn ysgogi arloesedd a thwf ledled de Cymru a de a gorllewin Lloegr
17 Hydref 2024
Mae Prifysgol Caerdydd ar y cyd â’r pum prifysgol arall sy’n rhan o Bartneriaeth SETsquared a’r cwmni buddsoddi rhanbarthol blaenllaw, QantX, wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer cyfrwng buddsoddi newydd gwerth £300 miliwn sy’n canolbwyntio ar gwmnïau deillio.
Bydd y cyfrwng buddsoddi newydd hwn yn ysgogi newid sylweddol sydd ei fawr angen yn y cyfalaf amyneddgar cynnar, yr arbenigedd a’r cymorth sydd ar gael i gwmnïau deillio a chwmnïau newydd yn y rhanbarth sy’n gweithio yn y meysydd hynny sy’n cael effaith go iawn yn fyd-eang, megis cynaliadwyedd, ynni glân a gofal iechyd trawsnewidiol.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn rhan o Bartneriaeth SETsquared ers 2021, ac mae wedi cydweithio â’r bartneriaeth ers 2018 yn rhan o’r Rhaglen Uwchraddio sy’n cael ei hariannu gan Research England a CCAUC.
Gyda’i gilydd, mae gan y chwe phrifysgol sy’n rhan o Bartneriaeth SETsquared – Prifysgol Bryste, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Caerwysg, Prifysgol Southampton, a Phrifysgol Surrey – bortffolio ymchwil gwerth mwy na £600 miliwn, ac mae mwy na 230 o gwmnïau wedi deillio ohonyn nhw drwy gydweithio â gwahanol ecosystemau arloesedd ffyniannus yn rhanbarthol. Er gwaethaf y llwyddiant hwn, nid yw effaith bosibl ymchwil a datblygu i ysgogi twf a chynhyrchiant yn rhanbarthol yn cael ei sicrhau oherwydd anghydbwysedd sylweddol ledled y DU mewn cysylltiad â chyllid ecwiti. Mae cwmnïau newydd yn y rhanbarth yn codi, ar gyfartaledd, bum gwaith yn llai ar gamau cynnar nag y maent y tu mewn i’r Triongl Aur.
Fel y mae modelau llwyddiannus mewn rhannau eraill o’r DU yn ei ddangos, bydd y cyfrwng newydd hwn yn esgor ar gyfleoedd sylweddol i gyd-fuddsoddi, yn lleihau risgiau cynigion technoleg ddofn ar gam cynnar i’r gymuned o gyfalafwyr menter ac angel-fuddsoddwyr, ac yn cynyddu swm cyffredinol y cyfalaf sydd ar gael.
Mae QantX yn ymdrechu i sicrhau llwyddiant economaidd modern yn y rhanbarth drwy gynyddu nifer y cwmnïau deillio, diogelu eiddo deallusol a chreu effaith hirdymor. Mae ganddo hanes o gefnogi’r sylfaenwyr gwyddoniaeth a thechnoleg mwyaf uchelgeisiol – y mae Senisca, EnsiliTech, iFAST Diagnostics a Neuronostics yn eu plith – a meithrin cysylltiadau ym mhob rhan o ecosystemau arloesedd prifysgolion.
Mae Partneriaeth SETsquared yn cael ei chydnabod gan lawer yn un o bartneriaethau arloesi mwyaf llwyddiannus y DU. Cafodd ei henwi gan Financial Times a Sifted yn un o’r tri phrif hybiau dechrau busnes yn Ewrop. Mae'r bartneriaeth yn cyfrannu'r cynnydd technegol a’r profiad diamheuol sydd wedi deillio o gydweithio â mwy na 400 o fentrau bob blwyddyn ar dechnolegau allweddol megis deallusrwydd artiffisial, peirianneg, bioleg, lled-ddargludyddion a chwantwm, ac mae ei haelodau wedi sicrhau mwy na £5 miliwn mewn buddsoddiad ac wedi creu dros 15,000 o swyddi ers 2002.
Cafodd y fenter ei chyhoeddi gan Syr Richard Olver, Cadeirydd QantX, yn Neuadd Dinas Bryste ar 11 Hydref, a hynny’n rhan o’r Uwch-gynhadledd Buddsoddi Rhanbarthol a’r Gwyddorau Iechyd a Bywyd gyda’r Gweinidog Gwyddoniaeth yr Arglwydd Patrick Vallance a Darren Jones AS yn bresennol.
Dywedodd y Gweinidog Gwyddoniaeth, yr Arglwydd Patrick Vallance: “Mae’r DU yn gartref i arloeswyr gwych, a bydd y cyfrwng buddsoddi hwn sy’n dod â chwe phrifysgol ynghyd â chwmni buddsoddi yn y sector preifat, QantX, yn helpu i droi syniadau gwych yn gwmnïau ffyniannus sy’n creu swyddi crefftus a chynhyrchion newydd cyffrous.
“Wrth i ni baratoi ar gyfer yr Uwch-gynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol, a fydd yn cael ei chynnal yn y DU, mae’r Llywodraeth wedi datgan yn glir bod y DU yn agored ar gyfer busnes. Mae partneriaethau fel hyn, rhwng buddsoddwyr ac arloeswyr, yn hanfodol os ydyn ni am dyfu’r economi, cynyddu nifer y cyfleoedd ac, yn y pen draw, wella bywydau.”
Dywedodd yr Athro Roger Whitaker, Rhag Is-ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter Prifysgol Caerdydd: “Rydyn ni’n falch iawn o gael gwybod bod y cyfrwng buddsoddi newydd hwn wedi’i ddatblygu. Bydd yn chwarae rhan hollbwysig wrth i ni geisio masnacheiddio ein hymchwil a’n gwaith arloesol yn gyflymach, sicrhau bod syniadau arloesol yn cyrraedd y farchnad a llywio diwydiannau’r dyfodol.
Esboniodd Richard Haycock, Cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol QantX: “Er bod y DU yn bedwerydd yn fyd-eang am arloesi a gwneud ymchwil arloesol, rydyn ni’n aml wedi cael trafferth masnacheiddio’r datblygiadau arloesol hyn. Nod Partneriaeth SETsquared yw newid hyn yn ne Cymru ac yn ne a gorllewin Lloegr. Rydyn ni’n gweld cynnydd mewn cwmnïau deillio sy’n cael eu harwain gan entrepreneuriaid sefydlu gwych.
“Drwy gysylltu unigolion gweledigaethol â chyfalaf risg ac arbenigedd mewn meysydd trawsnewidiol megis y gwyddorau bywyd, cynaliadwyedd a thechnoleg ddofn, rydyn ni’n meithrin ecosystem arloesedd ffyniannus. Bydd y cydweithio hwn yn cyflymu twf economaidd, yn creu swyddi crefftus ac yn sicrhau adenillion i’n buddsoddwyr. Rydyn ni’n gwneud mwy na dim ond ariannu cwmnïau; rydyn ni’n grymuso entrepreneuriaid lleol i droi ein rhanbarth yn bwerdy arloesedd, gan sicrhau bod ffrwyth ein hymchwil flaenllaw yn ffynnu yma gartref.”