Cyn-fyfyrwyr ysbrydoledig yn disgleirio yng Ngwobrau (tua) 30 2024
14 Hydref 2024
Mae tri o gyn-fyfyrwyr nodedig Ysgol Busnes Caerdydd wedi’u cyhoeddi fel enillwyr yng Ngwobrau Cyn-fyfyrwyr (tua) 30 2024.
Mae Gwobrau (tua) 30 Prifysgol Caerdydd yn dathlu llwyddiannau cyn-fyfyrwyr sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymuned, a'r cyfan cyn eu bod yn 30 oed. Wel, (tua) 30 oed.
Mae’r gwobrau’n cydnabod y rhai sy’n gwneud newid, yr arloeswyr, a’r rhai sy’n torri rheolau yn rhwydwaith cyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Cafodd digwyddiad eleni ei gynnal yn adeilad sbarc|spark y Brifysgol ar 10 Hydref dan ofal Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Wendy Larner.
Mae’r tri enillydd o Ysgol Busnes Caerdydd wedi’u cydnabod yn y categori entrepreneuriaeth am ddangos pŵer entrepreneuriaeth lwyddiannus ac effaith mynd â syniad o’r cam cysyniadol i’r cam olaf.
Dewch i gwrdd ag enillwyr ysbrydoledig ein hysgol
Konstantinos Kousouris (BSc 2021)
Mae Konstantinos yn entrepreneur dylanwadol o Wlad Groeg ac yn gyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Blink. Straen ariannol yw un o'r pryderon mwyaf ymhlith Gen Z, ac mae cwmni newydd technoleg ariannol Blink yn helpu oedolion ifanc i reoli eu harian a theimlo eu bod yn cymryd rheolaeth.
Enillodd Blink ei fuddsoddiad cyntaf gan Startupbootcamp, un o'r cronfeydd mwyaf yn Ewrop, ac ers hynny mae wedi ennill gwobr gan Fanc Cenedlaethol Gwlad Groeg yng nghystadleuaeth cychwyn busnes fwyaf y wlad.
Ar gyfer ei ddoniau entrepreneuraidd, mae Konstantinos wedi’i restru yn Forbes 30 dan 30 2024 Gwlad Groeg ac mae wedi cyrraedd Rownd Derfynol Byd-eang ar gyfer Gwobrau Alumni Study UK ym maes busnes ac arloesi.
Paul Stollery (BSc 2010)
Defnyddiodd Paul ei radd Rheoli Busnes yn fan cychwyn ar gyfer gyrfa yn entrepreneur di-dor. Fe yw cyd-sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Hard Numbers, asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus technoleg ag 20 o staff a throsiant o ychydig llai na £2 filiwn. Cafodd y busnes ei enwi’r asiantaeth cysylltiadau cyhoeddus newydd orau gan wobrau’r CIPR, PR Moment a’r UK Agency.
Cyn hynny, sefydlodd yr asiantaeth farchnata arobryn i bobl ifanc Hype Collective. Gadawodd y busnes hwn yn llwyddiannus yn 2023 gyda swm chwe ffigur. Mae hefyd yn fuddsoddwr ac yn aelod o fwrdd Magic Digits, cwmni gwasanaethau proffesiynol sydd â throsiant chwe ffigur.
Mae Paul, sy’n berson creadigol sydd wedi ennill gwobrau, wedi derbyn clod gan Ŵyl Creadigrwydd Cannes a chyrff cysylltiadau cyhoeddus gan gynnwys PRCA, CIPR, ac AMEC. Mae hefyd wedi gweithio gyda rhai o gwmnïau technoleg mwyaf y byd, gan gynnwys Adobe, Deliveroo, Microsoft, X a PlayStation.
Yn ei amser hamdden, mae Paul yn helpu’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid i ddatblygu eu syniadau busnes. Mae'n gyd-gyflwynydd Rebel Meetups, gofod ar gyfer sylfaenwyr, gweithwyr llawrydd, entrepreneuriaid, a phobl sy'n awyddus i fod yn entrepreneuriaid, ac mae wedi bod yn ddarlithydd gwadd yng Ngholeg Cyfathrebu Llundain.
Yong Zheng Low (MBA 2018)
Mae Yong yn uwch gynghorydd busnes “person rhifau” sy'n gweithio fel y Prif Swyddog Ariannol ar gontract allanol ar gyfer GCFO, cwmni ymgynghori sy'n cefnogi busnesau bach a chanolig ym Malaysia i dyfu a thrawsnewid.
Dechreuodd y fenter gyda'i bartneriaid busnes, ac mewn pum mlynedd maen nhw wedi sefydlu chwe changen yn Kuala Lumpur gyda chant o staff. Mae GCFO wedi ennill tair gwobr fusnes flynyddol hyd yma.
Trwy ymgynghori, mae'r cwmni'n darparu atebion trawsnewid ariannol a busnes i fusnesau bach a chanolig, gan wella eu fframwaith gweithredol a’u heffeithlonrwydd.
Mae ei dîm yn ymwneud â 61 o brosiectau codi arian gyda chyfanswm gwerth o RM 105 miliwn a gafodd ei godi mewn dim ond 36 mis. Ar hyn o bryd mae hefyd yn chwarae rhan weithredol mewn 23 o gwmnïau sydd â maint portffolio gwerth RM 400 miliwn, gyda dau brosiect angori yn ceisio cyllid cyhoeddus am y tro cyntaf.
Mae data yn sbarduno Yong, gan ganolbwyntio ar refeniw i gyflawni llwyddiant annibynnol. Ymddangosodd yn Brif Feirniad Cystadleuaeth Banc Syniadau JCIKLM 2023 ac roedd yn siaradwr yng nghyfres 2 o Rifyn BFM Caijin Medi 2023.