“Dirywiad aruthrol” yn niogelwch carchardai Cymru
16 Hydref 2024
Cynyddodd nifer yr ymosodiadau rhwng carcharorion a’i gilydd yng ngharchardai Cymru 80% y llynedd, yn ôl adroddiad gan Brifysgol Caerdydd.
Mae dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru hefyd yn datgelu i ymosodiadau ar staff godi 69% yn 2023 ac i achosion o hunan-niweidio gynyddu 53%.
Cafwyd y cynnydd mwyaf yn CEF y Parc, wrth i’r ymosodiadau ar staff gynyddu 109%, achosion o hunan-niweidio 113%, a chafwyd cynnydd o 190% yn nifer yr achosion o hunan-niweidio yr oedd angen eu trin yn yr ysbyty.
O blith y 13 marwolaeth a gofnodwyd ar draws ystad carchardai Cymru yn ystod chwe mis cyntaf eleni, cafwyd 12 o’r rhain yng Ngharchar y Parc. Credir bod o leiaf bedair o’r marwolaethau a gofnodwyd yng Ngharchar y Parc yn 2024 yn gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau, gan ychwanegu at bryderon cynyddol am y graddau y mae cyffuriau ar gael yn y carchar .
Mae data’r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd yn dangos bod cynnydd o 46% yn nifer y darganfyddiadau cyffuriau yng Ngharchar y Parc yn 2023/24, ynghyd â chynnydd o 185% yn nifer yr offer cyffuriau y daethpwyd o hyd iddyn nhw yn y carchar.
Mae’r dadansoddiad hefyd yn dangos i boblogaeth carcharorion Cymru gynyddu yn 2023 i’w lefel uchaf (5,034) ers i Ganolfan Llywodraethiant Cymru ddechrau casglu data wedi’i ddadgyfuno.
Unwaith eto, mae’r adroddiad hwn, sef y diweddaraf mewn cyfres o Ffeiliau Ffeithiau ym maes carchardai, yn dwyn ynghyd wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus am garchardai a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, yn ogystal â pheth wmbreth o ddata nas gwelwyd o’r blaen ac a ddaeth i law drwy Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae digartrefedd yn broblem gynyddol o hyd i garcharorion pan gânt eu rhyddhau. Ar ôl treblu eisoes yn y flwyddyn flaenorol, cynyddodd nifer y rheini a reolir gan wasanaethau prawf Cymru ac a oedd yn cysgu allan ar ôl cael eu rhyddhau o’r carchar 51% yn ystod 2023/24, sef 500 o bobl.
Ar gyfartaledd, cafodd pump o bobl yr wythnos eu rhyddhau o CEF Caerdydd a’u dosbarthu’n ddigartref yn 2023/24.
Mae carcharorion benywaidd o Gymru yn parhau i gael eu carcharu yn Lloegr. Cafodd bron i un o bob pump (18%) o’r holl fenywod a ddedfrydwyd i’r ddalfa ar unwaith mewn llysoedd yng Nghymru yn 2023 ddedfryd o fis neu lai.
Mae’r data hefyd yn dangos bod 54 o bobl Ddu o Gymru yn y carchar fesul pob 10,000 o boblogaeth Cymru yn 2023. Roedd y ffigwr hwn yn cymharu â dim ond 15 o bobl wyn fesul 10,000 o’r boblogaeth.
Mae'r adroddiad yn nodi na chafodd rhywfaint o wybodaeth y gofynnodd Dr Jones amdani ei rhyddhau gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae hyn yn cynnwys cais am ddata ynghylch nifer y menywod o Gymru a oedd yn feichiog neu a oedd wedi rhoi genedigaeth yn y carchar yn ystod 2023/24; gwrthodwyd y data gan y tybiwyd ei fod y tu allan i gylch gorchwyl Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Dyma a ddywedodd Dr Jones: “Mae cyfradd carcharu Cymru yn parhau i fod yn fwy na’r hyn a gofnodwyd mewn unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig, ac mae’r defnydd o remánd ac ail-alw yn cyfrannu’n sylweddol at y cynnydd yn nifer y carcharorion yng Nghymru. Ac er ei bod yn bosibl bod y cynllun rhyddhau’n gynnar presennol yn gwneud rhywbeth i leihau’r ffigurau hynny dros dro, ni fydd yn gwneud fawr ddim i liniaru’r cynnydd mewn digartrefedd.
“Mae’n ymddangos mai ychydig iawn o awydd sydd gan lywodraethau Cymru a’r DU i ddeall sut i fynd i’r afael â’r problemau hyn mewn unrhyw ffordd ddifrifol. Mae’r ffaith nad yw data Cymru’n unig ar gael o ran carcharu rhieni, marwolaethau yn y carchar yng Nghymru yn ogystal â nifer y genedigaethau a beichiogrwydd – hyd yn oed wrth ddefnyddio deddfwriaeth rhyddid gwybodaeth – ond yn amlygu’r broblem barhaus.”