Ewch i’r prif gynnwys

Ar y brig ar gyfer Astudiaethau Celtaidd am y drydedd flwyddyn yn olynol

11 Hydref 2024

Tlws melyn wedi'i roi ar ben podiwm.

Mae Ysgol y Gymraeg yn y safle cyntaf unwaith eto yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ar gyfer Astudiaethau Celtaidd yn The Times Good University Guide 2025, a hynny am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Mae’r canlyniad yn ychwanegu at flwyddyn lwyddiannus i’r Ysgol sydd hefyd yn y safle cyntaf yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig ar gyfer Astudiaethau Celtaidd yn The Complete University Guide 2025.

Dywedodd Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg: “Mae'n brawf iawn gweld cydnabyddiaeth o'r gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud yma Ysgol y Gymraeg, o ran ein dysgu, ein hymchwil a'n cyfraniad ehangach. Hoffwn ddweud "diolch yn fawr" i'r myfyrwyr a'r staff am eu hymroddiad a'u brwdfrydedd dros bwnc y Gymraeg – mae'n faes academaidd sy'n gyffrous, yn newid o hyd, ac yn gwneud gwahaniaeth go iawn yma yng Nghymru a'r tu hwnt.”

Mae cylch mynediad 2025 bellach wedi agor. Gall darpar fyfyrwyr ymgeisio am raglenni gradd israddedig yn y Gymraeg neu’r Gymraeg a phwnc arall drwy UCAS ac am yr MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn uniongyrchol drwy’r Brifysgol.

Rhannu’r stori hon