Ewch i’r prif gynnwys

Anrhydeddu ffisegydd am waith rhagorol ar declynnau a chyfleusterau seryddol chwyldroadol

15 Hydref 2024

A photograph of a woman with blonde hair wearing thick black-rimmed glasses.
Professor Carole Tucker has been selected as the recipient of the 2024 Institute of Physics’ James Joule Medal and Prize.

Ffisegydd o Brifysgol Caerdydd sydd wedi ennill Medal a Gwobr James Joule y Sefydliad Ffiseg (IOP) ar gyfer 2024.

Mae’r sefydliad wedi cydnabod yr Athro Carole Tucker o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth am ei gwaith rhagorol yn datblygu a darparu cydrannau optegol ar gyfer teclynnau seryddol a dyfeisiau eraill i’r gymuned wyddonol fyd-eang.

Mae’r Athro Tucker, sy’n aelod o’r Grŵp Offeryniaeth Seryddiaeth yng Nghanolfan Caerdydd ar gyfer Ymchwil a Thechnoleg Astroffiseg, wedi gwneud cyfraniadau allweddol i fireinio llawer o offerynnau isgoch pell ac is-filimetr blaenllaw, gan gynnwys y canlynol:

  • Teithiau gofod Herschel a Planck Asiantaeth Ofod Ewrop
  • Cylchdröwyr Rhagchwilio NASA i’r blaned Mawrth a’r Lleuad
  • arsyllfeydd ar y ddaear fel teclyn SCUBA-2 ar Delesgop James Clerk Maxwell (JCMT), Telesgop Cosmoleg Atacama (ACT), a Thelesgop Pegwn y De (SPT)
  • arbrofion balŵn fel BLAST a PIPER

Mae'r offer a'r cyfleusterau hyn wedi chwyldroi ein dealltwriaeth o'r Glec Fawr a chyfansoddiad a strwythur y Bydysawd, diolch i arsylwadau ar belydriad Cefndir Cosmig Microdonnau, a'r prosesau o ffurfio galaethau, sêr a chyfundrefnau planedol.

Cefais fy synnu o gael fy enwebu gan gydweithwyr ar gyfer Medal James Joule y Sefydliad Ffiseg, ac mae’n anrhydedd ei derbyn. Mae’r wobr yn golygu cryn dipyn imi, gan ei bod yn cynrychioli gwaith caled, sgiliau ac ymroddiad tîm bach ond arbennig o wyddonwyr a pheirianwyr – byddwn ni gyd yn ei rhannu ac yn dathlu gyda’n gilydd!

Yr Athro Carole Tucker Deputy Head of School and Director of Learning and Teaching

Ar hyn o bryd, mae’r tîm yn datblygu cyfleusterau newydd i’w defnyddio ar y ddaear, gan gynnwys Telesgop Is-filimetr Fred Young ac Arsyllfa Simons, a theithiau gofod sydd ar y gweill fel lloeren LiteBIRD dan arweiniad Japan, a thaith gysyniadol NASA gyda Chwiliedydd Isgoch Pell, PRIMA.

Ychwanegodd: “Daw’r wobr ar ôl 25 mlynedd o weithgarwch ymchwil i seryddiaeth isgoch bell ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyfraniad fy nhîm yw cynllunio ac adeiladu hidlwyr i ganiatáu’r tonfeddi signal y mae’r telesgop angen eu gweld, a’u rheoli. Ar yr un pryd, mae’r hidlwyr hefyd yn atal yr holl donfeddi golau diangen. Gallaf ddatgan gyda balchder mai ni sy’n arwain y byd yn y dechnoleg hon.”

Yn ogystal â theclynnau seryddol, mae'r dechnoleg a ddatblygwyd gan dîm yr Athro Tucker hefyd yn cael ei defnyddio i arsylwi'r Ddaear, ac mewn gwyddoniaeth a diwydiant THz yn ehangach diolch i gydweithio rhyngwladol a diwydiannol. Mae’r twf hwn mewn gweithgarwch masnachol wedi arwain at sefydlu cwmni deillio o Brifysgol Caerdydd, sef Celtic Terahertz Technology Ltd.

Dywedodd hi: “Pan fydd gwyddonwyr yn datblygu technoleg o’r radd flaenaf at ddibenion astudiaethau sylfaenol, caiff canlyniadau eu hymchwil eu defnyddio’n agosach at adref. Mae’n bleser arbennig gweld ein cynnyrch yn cyfrannu at gynnydd mewn meysydd y tu hwnt i seryddiaeth – er enghraifft, mewn sgrinio diogelwch, mewn diagnosteg plasma ymasiadol ac yn y genhedlaeth nesaf o loerennau meteorolegol.”

Edrychwch gyfweliad fideo gyda'r Athro Carole Tucker ar YouTube

Yr IOP yw’r corff proffesiynol a’r gymdeithas ddysgedig ym maes ffiseg, ac ef yw’r corff arweiniol ar gyfer ffisegwyr sy’n ymarfer yn y DU ac Iwerddon.

Mae gwobrau blynyddol y Sefydliad yn falch o allu adlewyrchu'r ystod eang o bobl, y lleoedd, y sefydliadau a’r llwyddiannau sy'n peri i ffiseg fod yn ddisgyblaeth mor gyffrous.

Mae gwobrau’r IOP yn cydnabod ffisegwyr ar bob cam o'u gyrfa; y rheini sydd newydd ddechrau neu ffisegwyr ar frig eu gyrfaoedd, yn ogystal â'r rheini sydd eisoes yn meddu ar yrfa ddisglair.

Maen nhw hefyd yn cydnabod ac yn dathlu cwmnïau sy'n llwyddiannus wrth gymhwyso ffiseg i fyd arloesi, yn ogystal â’r cyflogwyr hynny sy'n dangos eu hymrwymiad a'u cyfraniad at gynlluniau prentisiaethau gwyddonol a pheirianyddol.

Meddai’r Athro Syr Keith Burnett, Llywydd y Sefydliad Ffiseg: “Ar ran y Sefydliad Ffiseg, rwy’ am longyfarch pob un o enillwyr ein gwobrau eleni.”

Mae'r byd heddiw yn wynebu llawer o heriau y bydd ffiseg yn chwarae rhan gwbl sylfaenol yn mynd i’r afael â nhw, boed hynny wrth sicrhau dyfodol ein heconomi neu’r daith i gynhyrchu ynni cynaliadwy a sero net. Mae pob un o enillwyr ein gwobrau ar flaen y gad yn y gwaith hwnnw. Maen nhw wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol ar eu proffesiwn, boed yn ymchwilydd, yn athro, yn ddiwydiannwr, yn dechnegydd neu’n brentis. Rwy’n gobeithio eu bod yn hynod falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni; dylen nhw fod.

Yr Athro Syr Keith Burnett Llywydd y Sefydliad Ffiseg

“Mae cymaint o ffocws heddiw ar y cyfleoedd sy’n codi o yrfa mewn ffiseg a’r potensial sydd gan wyddoniaeth i drawsnewid ein cymdeithas a'n heconomi. Rwy'n gobeithio y bydd straeon  yr enillwyr yn helpu i ysbrydoli cenedlaethau o wyddonwyr yn y dyfodol.”

Rhannu’r stori hon

Dyma Ysgol gyfeillgar, y mae’n hawdd troi ati, gydag ymrwymiad cryf i ragoriaeth wrth addysgu ac ymchwil o’r radd flaenaf mewn ffiseg a seryddiaeth.