Ewch i’r prif gynnwys

Menywod a Chymru ar y trywydd iawn yng Nghwpan y Byd

7 Hydref 2024

Athro yn cystadlu dros Gymru yng Nghwpan Hoci Menywod Meistri’r Byd, De Affrica

Hwyrach bod chwaraeon i fenywod ar gynnydd, er hynny, mae’r argraff o gydraddoldeb rhwng chwaraeon i fenywod a chwaraeon i ddynion ymhell o’r gwir, boed hynny ar lefel lawr gwlad neu mewn twrnameintiau rhyngwladol uchel eu proffil.

Er bod arolwg i rieni yn y DU bod 26% o’u merched yn datgan mai ‘nid ar gyfer menywod’ yw chwaraeon, a bod 57% ohonyn nhw’n teimlo eu bod wedi'u heithrio o wneud chwaraeon/gweithgaredd corfforol (Women in Sport UK), mae hoci’r meistri yn helpu i ddangos ble y mae menywod – o bob oedran – yn perthyn.

Ar hyn o bryd ynd Nghymru mae 7 carfan’r hoci meistri i fenywod a 10 i ddynion – sef tua 340 o chwaraewyr sy’n aelod o dîm, a 2,000 o chwaraewyr meistri wedi’u cofrestru mewn grwpiau oedran.

Ac yntau’n gysylltiedig â Hoci Cymru, hoci’r meistri yw’r sector sy'n tyfu gyflymaf ym maes hoci yng Nghymru, lle mae ei chwaraewyr yn gosod esiampl bwysig i’r chwaraewyr iau.

Mae'r academydd toreithiog, yr Athro Dawn Knight, yn arwain ar brosiectau o bwys mewn ieithyddiaeth gymhwysol sydd ag effaith yn y byd go iawn, yn ogystal â chwarae'n rheolaidd i garfan menywod Clwb Hoci Caerdydd a Met

Cyn derbyn ei chap diweddaraf yn ei safle’n ymosodwr i ferched dros 40 oed yng Nghymru, dyma a ddywedodd yr Athro Knight: 'Anrhydedd a balchder mawr yw gallu cynrychioli Cymru yng Nghwpan Hoci Meistri’r Byd sydd ar ddod. Mae'r gystadleuaeth hon yn ymwneud â mwy na hoci yn unig – mae'n ymwneud â rhannu profiadau, creu a chynnal cymunedau, rhwydweithiau cymorth a chyfeillgarwch, yn ogystal ag ysbrydoli menywod o bob oedran i gymryd rhan mewn chwaraeon – boed hynny'n rhywbeth maen nhw wedi'i wneud o'r blaen, neu'n rhywbeth hollol newydd.'

Bydd 68 tîm dynion (4 o Gymru) a 32 tîm menywod (2 o Gymru) yn cymryd rhan yng Nghwpan Meistri’r Byd yn Ne Affrica. Mewn unrhyw gylch blynyddol o hoci’r meistri, Cwpan y Byd yw'r uchafbwynt. Cyn y twrnamaint eleni, llwyddodd yr Athro Knight a'i chyd-chwaraewyr i Gymru dros 40 oed gael canlyniad addawol yn nhwrnamaint y Pedair Gwlad yn chwarae yn erbyn deiliaid presennol Cwpan y Byd, sef Lloegr, gyda sgôr derfynol o 1-1.

Ac yntau’n ddygn ac wedi’i hunan-ariannu’n llwyr, bydd tîm Menywod Cymru dros 40 oed yn chwarae yn Cape Town rhwng 12 a 21 Hydref, a hynny yng nghwmni timoedd eraill o'r Ariannin, Awstralia, Chile, Lloegr, yr Almaen, Iwerddon, Seland Newydd, yr Alban, Singapore, De Affrica, Uruguay ac UDA.

Bydd holl gemau Cwpan Hoci Menywod Meistri’r Byd 2024 ar gael i’w gwylio’n fywdrwy ffrwd fyw.

Rhannu’r stori hon