Mae practisau meddygon teulu yn ardaloedd cyfoethocaf Cymru yn cael mwy o gyllid nag ardaloedd difreintiedig
4 Hydref 2024
Mae dybryd angen adfer tegwch o ran cyllid practisau meddygon teulu yng Nghymru, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Mae astudiaeth newydd wedi canfod bod lefelau ariannu cyfredol gwasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol yn annheg gan fod gan bractisau yn rhai o ardaloedd tlotaf Cymru y galw mwyaf gan gleifion ond mae’r rhain yn derbyn llai o arian na phractisau yn yr ardaloedd mwyaf cefnog.
Yn yr astudiaeth gyntaf o’i bath a gyhoeddwyd heddiw yn BJGP Open, mae ymchwilwyr wedi canfod, yn achos pob cynnydd 10% yn nifer y cleifion mewn practis meddyg teulu yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, eu bod yn cael 1% yn llai o gyllid oherwydd polisïau ariannu cyfredol.
Dadansoddodd y tîm, a fu’n gweithio gydag ymchwilwyr gofal sylfaenol yn GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gogledd Iwerddon, ddata cyllido practisau meddygon teulu yng Nghymru rhwng 2014 a 2022. Ymchwilion nhw i degwch y dosbarthiad gan ddefnyddio canran y cleifion mewn practisau sy’n byw yn yr 20% o ardaloedd bach mwyaf difreintiedig yng Nghymru.
Er bod cyllid practisau wedi codi yn achos pob practis yn y cyfnod hwn o 8 mlynedd, canfu’r tîm i bractisau meddygon teulu yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru gael llawer llai o gyllid fesul claf na’r ardaloedd mwyaf cefnog.
Arweiniwyd yr astudiaeth gan Dr Jonny Currie, meddyg teulu wrth ei alwedigaeth yng Nghymru a Darlithydd Clinigol Anrhydeddus yn Is-adran Meddygaeth Poblogaeth Prifysgol Caerdydd. Dyma’r hyn a ddywedodd: “Gan mai ein practisau meddygon teulu yw’r lle cyntaf i’r rhan fwyaf o bobl ddod o hyd i wasanaethau iechyd, mae gofal sylfaenol yn hollbwysig o ran gwella iechyd y boblogaeth leol. Mae'r tanfuddsoddi hwn mewn meysydd lle mae'r angen ar ei ddwysaf yn debygol o gyfrannu at anghydraddoldeb iechyd sy’n bodoli eisoes ac mae angen rhagor o ddadansoddi a chymryd camau yn hyn o beth."
Ychwanegodd yr Athro Lewis, Athro Anrhydeddus yn Ysgol Feddygol Abertawe a Chyn-gyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol Gofal Iechyd Darbodus sy’n Seiliedig ar Werth GIG Cymru, a chyd-awdur yr astudiaeth: “Mae’r ymchwil hon yn dangos diffyg cyfatebiaeth rhwng cyllid i bractisau meddygon teulu yng Nghymru mewn ardaloedd mwy difreintiedig a’r ymchwil flaenorol a amlygodd anghenion iechyd uchel heb eu diwallu. Gallai buddsoddiad wedi’i dargedu mewn meysydd fel y rhain wella deilliannau cleifion, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb iechyd, cefnogi’r pwysau ehangach ar restrau aros y GIG a chryfhau’r economi, gan sicrhau bod y broses o ddiwygio cyllid o fudd i’r cleifion, y GIG a Llywodraeth Cymru.”
Cyhoeddwyd yr ymchwil, ‘Exploring the equity of distribution of general medical services funding allocations in Wales: a time-series analysis’, yn y British Journal of General Practice Open.