Ewch i’r prif gynnwys

Enwogion a gwleidyddion yw’r 'ddolen goll' rhag newid hinsawdd

4 Hydref 2024

Awyren a chymylau

Gallai enwogion a gwleidyddion sy'n arwain trwy esiampl fod yn 'ddolen goll' hanfodol o ran lliniaru newid yn yr hinsawdd, yn ôl ymchwil newydd.

Mae seicolegwyr o Brifysgol Caerdydd wedi darganfod mewnwelediadau newydd i rôl enwogion a gwleidyddion wrth ddylanwadu ar farn y cyhoedd ar ffyrdd carbon isel o fyw.

“Mae newid ymddygiad yn hanfodol ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gyflym. Hedfan lai, bwyta llai o gig, gyrru ceir trydan, gwella effeithlonrwydd ynni cartref, mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yw rhai o'r newidiadau mwyaf effeithiol y gallwn ni eu gwneud. Fodd bynnag, mae’r dewisiadau hyn wedi bod yn anodd i’w canfod yn y boblogaeth gyffredinol ac anaml y cânt eu hannog na’u modelu gan unigolion o statws uchel,” meddai Dr Steve Westlake o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd, a arweiniodd yr ymchwil.

Felly roedden ni eisiau deall effeithiau gwleidyddion ac enwogion yn gwneud eu dweud ar newid hinsawdd ac a allai hyn ddylanwadu ar y cyhoedd i fabwysiadu ymddygiadau carbon isel.
Steve Westlake

Dadansoddodd yr ymchwilwyr farn 1267 o bobl o bob rhan o’r DU ym mis Ebrill 2021, gan fesur ymatebion pobl i arweinwyr sy’n eiriol dros weithredu ar y newid yn yr hinsawdd, gan naill ai arwain drwy esiampl, neu beidio ag arwain drwy esiampl.

Profodd seicolegwyr Caerdydd ddamcaniaethau hygrededd ac arweinyddiaeth wedi’i hymgorffori i ddeall sut gallai statws enwogion a gwleidyddion annog ffyrdd o fyw carbon isel.

People shopping at farmers market

Canfuwyd bod arweiniad gweladwy trwy esiampl gan wleidyddion ac enwogion yn cynyddu parodrwydd aelodau o’r cyhoedd yn y DU i wneud y dewisiadau carbon isel effaith uchel hyn yn sylweddol.

Dywedodd Dr Westlake: “Canfuon ni fod arwain trwy esiampl yn gwella parodrwydd y cyhoedd i fabwysiadu ymddygiadau carbon isel. Nid yn unig hyn, ond mae arwain trwy esiampl yn cynyddu'n fawr y canfyddiad o hygrededd, dibynadwyedd, cymhwysedd, a ffafrioldeb arweinydd. Mae angen i arweinwyr fod yn gredadwy i arwain yn effeithiol, felly gallai hwn fod yn ganfyddiad pwysig.

“Fe wnaethon ni hefyd ddarganfod bod awydd cryf am arweinyddiaeth ymhlith y cyhoedd - mae pobl wir eisiau gweld arweinwyr yn gweithredu'n gyntaf. Mae ein canlyniadau'n dangos y gallai arweinyddiaeth ymgorfforedig drwy ymddygiad gweladwy ynghylch carbon isel fod yn 'ddolen goll' hollbwysig wrth fynd i'r afael ag argyfwng yr hinsawdd, oherwydd mae'n dangos bod arweinwyr o ddifrif amdano."

Mae’r canlyniadau’n dangos, os yw arweinwyr yn eiriol dros wahanol fathau o weithredu dros yr hinsawdd gan gynnwys newid ymddygiad, y byddan nhw’n fwy effeithiol os ydyn nhw’n ‘gwneud eu dweud’ drwy fabwysiadu cyfres o ymddygiadau carbon isel, a byddan nhw’n cael effaith negyddol ar gymhelliant y cyhoedd os na wnân nhw.
Steve Westlake

“Mae ein hastudiaeth yn dangos bod enwogion a gwleidyddion sy’n arwain trwy esiampl yn gwneud llawer mwy na lleihau eu hôl troed carbon eu hunain – maen nhw hefyd yn annog eraill i weithredu a gwella eu hygrededd.”

Mae’r ymchwil, Arwain trwy esiampl gan unigolion statws uchel: archwilio dolen goll hanfodol mewn lliniaru newid yn yr hinsawdd, yn ymddangos yn Humanities and Social Sciences Communications, a gyhoeddwyd gan Springer Nature. Cynhaliwyd yr astudiaeth gan Dr Steve Westlake a'r Athro Nick Pidgeon o Brifysgol Caerdydd, a Dr Christina Demski o Brifysgol Caerfaddon.

Rhannu’r stori hon