Dewiniaeth, Blaidd-ddynion a Hud
2 Hydref 2024
Mae arbenigwyr o brifysgolion ym mhob cwr o Gymru yn arwain cwrs byr newydd y Gymdeithas Hanesyddol.
Mae haneswyr o’r dyniaethau, sy’n arbenigo yn ein dealltwriaeth hanesyddol o hud, llên gwerin, dewiniaeth a blaidd-ddynion yn y cyfnodau canoloesol a modern cynnar yn arwain cwrs newydd sy’n agored i unrhyw un ar-lein.
Gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau gwreiddiol gan gynnwys rhai wedi’u cymryd o Gasgliadau Arbennig ac Archifau'r Brifysgol ei hun, mae cwrs newydd sbon y Gymdeithas Hanesyddol yn trin a thrafod sut mae pobl ar wahanol adegau ac mewn gwahanol leoedd wedi dychmygu a deall dewiniaeth, a pham cafodd y rhai a oedd wedi’u cyhuddo o fod yn wrachod eu herlyn.
Ymhlith y rhai sy'n cyflwyno’r cwrs y mae arbenigwyr blaenllaw o'r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ac Ysgol y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes y Brifysgol.
Bydd Dr Jan Machielsen, Dr Lisa Tallis a Dr Juliette Wood o Brifysgol Caerdydd yn cyflwyno astudio hanes dewiniaeth yn Ewrop o’r 15fed ganrif hyd heddiw, ochr yn ochr â Dr Jonathan Durrant (Prifysgol De Cymru) a Dr Laura Kounine (Prifysgol Sussex).
Bydd Dr Jan Machielsen, Darllenydd mewn Hanes Modern Cynnar, yn addysgu modiwlau ar hanes y goruwchnaturiol yn ogystal â dewiniaeth a hela gwrachod yn Ewrop fodern gynnar. Mae Dr Machielsen wedi ymddangos ar lawer o bodlediadau, gan gynnwys Not Just the Tudors gan History Hits, ac mae ei llyfr diweddaraf The Basque Witch-Hunt: A Secret History yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref.
Bydd Dr Juliette Wood, sy’n arbenigo mewn llên gwerin Geltaidd a’r Canol Oesoedd,yn rhoi blas ar ei addysgu israddedig ar Morgên a Myrddin yn ogystal â phaganiaeth fodern yn ei sesiynau. Bydd hi hefyd yn rhannu cipolygon ar sut mae Morgên y Dylwythen Deg (Morgan le Fey) a Ceridwen, ill dau o Gymru, wedi’u datblygu ac ennill nodweddion sy’n gysylltiedig â hudolesau a gwrachod dros y blynyddoedd.
Bydd deunyddiau gwreiddiol gwerthfawr sy’n cael eu cadw yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau’r Brifysgol yn ychwanegu cipolwg unigryw, ochr yn ochr ag arbenigedd y Llyfrgellydd Cynorthwyol a’r Llyfrgellydd Pwnc (Cymraeg) Dr Lisa Tallis.
Mae’r casgliadau o safon fyd-eang yn cael eu defnyddio’n mewn amrywiaeth o ffyrdd ar gyfer addysgu ac ymchwil, ac maen nhw ar gael i bawb gan drefnu apwyntiad gyda staff arbenigol.
I nodi dechrau Prosiect Myrddin Cymru, bydd cynhadledd deuddydd Myrddin Cymru yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Ionawr 2025.
I gael rhagor o wybodaeth am Myrddin, gwrandewch ar un o’n prif siaradwyr Dr Wood yn siarad ar y gyfres radio In Our Time.
Mae’r cwrs ar-lein saith wythnos o hyd , Dewiniaeth, Blaidd-ddynion a Hud yn Hanes Ewrop yn costio £37 (neu’n rhad ac am ddim i aelodau’r Gymdeithas Hanesyddol).