Beirniaid yn cael eu “syfrdanu” gan fyfyriwr Astudiaethau Pensaernïol yn rownd derfynol y gwobrau cenedlaethol
15 Hydref 2024
Mae myfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol yn rownd derfynol cystadleuaeth i fenywod a merched sy'n gobeithio am yrfa yn y diwydiant eiddo ac adeiladu.
Enillodd Sophie Page, myfyriwr israddedig yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru, Wobr Genedlaethol Myfyrwyr Women in Property 2024, mewn dathliad yn Claridge's, Llundain.
Llwyddodd Sophie, sydd ar fin dechrau trydedd flwyddyn ei gradd BSc mewn Astudiaethau Pensaernïol, i gystadlu â 12 o fyfyrwyr eraill yn rownd derfynol genedlaethol y Gwobrau, sydd wedi bod yn rhedeg ers 18 mlynedd.
Mae’n derbyn gwobr o £1,000 a thlws, yn ogystal ag aelodaeth o Women in Property – sefydliad cenedlaethol i fenywod sy’n gweithio yn y diwydiant eiddo ac adeiladu.
Wrth dderbyn ei gwobr, meddai: “Mae’r holl dalent sydd yma wedi fy syfrdanu, ac rwy’n teimlo’n hynod ddiolchgar am y cyfle i fod mewn grŵp mor rhyfeddol ar ôl cyrraedd y rownd derfynol eleni.
“Mae’r profiad cyfan wedi bod yn un gwerth chweil, ac wedi bod yn hynod ddiddorol mewn cymaint o ffyrdd.
“Rwy’n edrych ymlaen at barhau i fod yn rhan weithredol o’r sefydliad gwych hwn, sy’n parhau i roi llais i fenywod a’u grymuso yn y diwydiant.”
Mae rhaglen Gwobrau Cenedlaethol Myfyrwyr Women in Property yn rhedeg ar lefel ranbarthol bob blwyddyn, a gwahoddir prifysgolion i enwebu’r myfyrwyr benywaidd gorau yn eu hail flwyddyn (neu drydedd flwyddyn yn yr Alban) sy’n astudio ar gwrs gradd yn yr amgylchedd adeiledig.
Daeth Sophie ar y brig yn rownd derfynol Cymru ym mis Gorffennaf ar ôl creu argraff ar banel o feirniaid gyda’i gwaith cwrs, ei sgiliau personol, ei photensial proffesiynol, a’i dealltwriaeth o’r diwydiant.
Yn y Rownd Derfynol ar lefel Brydeinig, ymunodd ag enillwyr o ranbarthau eraill, ac fe wynebodd banel o feirniaid a heriodd y myfyrwyr ar faterion cyfredol yn y diwydiant.
Ychwanegodd tiwtor personol Sophie, Dr Edmund Green o Ysgol Pensaernïaeth Cymru: “Dydw i ddim yn gallu meddwl am rywun sy’n haeddu’r wobr bwysig hon yn fwy na Sophie. Llynedd, rhagorodd Sophie ym mhob rôl academaidd ac allgyrsiol y gwnaeth hi ymgymryd â nhw, ac mae hi’n gaffaeliad mawr i Ysgol Pensaernïaeth Cymru.”
Cafodd y beirniaid eu “syfrdanu gan sylwadau Sophie ar gynaliadwyedd,” wrth iddi bwysleisio’r egwyddor o ddefnyddio llai o adnoddau, a allai “hyd yn oed gynnwys addasu pa mor gyfforddus sy’n rhaid inni fod.”
Disgrifiodd y beirniaid sylwadau Sophie ynghylch gwneud cynaliadwyedd yn orfodol, gan nodi bod “Llywodraethau’n chwarae rhan fawr mewn creu newid trwy reoleiddio, nid drwy gymell yn unig.”
Ar bwnc amrywiaeth a chydraddoldeb, soniodd bod angen annog menywod i aros yn y diwydiant, a sut y dylid eu croesawu yn ôl i’r gweithle yn enwedig ar ôl cymryd absenoldeb rhiant. Yn gryno, roedd y beirniaid i gyd yn teimlo eu bod “wedi dysgu rhywbeth ar ôl y cyfweliad.”
Dywedodd un o’r panel, Jennifer Winyard, Cadeirydd Cenedlaethol Women in Property ac Uwch Reolwr Strategol Tir yn Barratt Homes: “Am ganlyniad gwych i Sophie. Roedd hi’n cystadlu yn erbyn grŵp talentog o fenywod anhygoel yng ngham olaf y broses naw mis hwn.
“Eleni, rwy’ wedi siarad cryn dipyn am ddatgloi potensial, cydnabod ein sgiliau a datblygu ein gallu, yn bennaf oll drwy raglen y Gwobrau Cenedlaethol Myfyrwyr. Rwy’ hapus tu hwnt dros bob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ac, yn arbennig, dros Sophie a’i pherfformiad rhagorol. Bydd y menywod hyn yn gaffaeliad i’n diwydiant. Diolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith caled a’u proffesiynoldeb.”
Mae dros 1,600 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn y rhaglen wobrwyo ers ei lansio, ac yn 2024, cafwyd grŵp dawnus ac amrywiol o gystadleuwyr, gyda 122 o fyfyrwyr yn cael eu henwebu gan eu darlithwyr, yn cynrychioli 55 o brifysgolion.
Eleni eto, mae Women in Property yn cynnig aelodaeth am ddim i bob un gymerodd ran, sy'n cynnwys y dewis i fanteisio ar gynllun mentora rhagorol y sefydliad.
Mae rhaglen 2025 ar y gweill, ac mae croeso i brifysgolion enwebu eu myfyrwyr benywaidd gorau ar gyfer rownd gyntaf y broses feirniadu.