Rhaglen fentora’n rhoi hwb i nifer y dysgwyr sy’n dewis astudio iaith ar lefel TGAU yng Nghymru
2 Hydref 2024
Mae menter sy’n ceisio annog astudio ieithoedd rhyngwladol ar lefel TGAU wedi sicrhau cynnydd o fwy na 40% yn nifer y dysgwyr a fentorwyd sy’n dewis astudio iaith megis Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg.
Mae’r rhaglen Mentora Ieithoedd Tramor Modern, sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Caerdydd a’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn helpu ysgolion i hyrwyddo amlieithrwydd a chynyddu nifer y dysgwyr sy’n dewis astudio ieithoedd rhyngwladol ar lefel TGAU.
Mae myfyrwyr prifysgol sy’n astudio iaith fodern, neu’r rhai sydd â diddordeb mewn ieithoedd, wedi bod yn fentoriaid i ddysgwyr ym mlynyddoedd 8 a 9, wrth iddyn nhw ystyried beth i’w astudio ar lefel TGAU. Mae’r rhaglen ar waith mewn 80% o ysgolion uwchradd yng Nghymru, ac mae holl brifysgolion Cymru’n cymryd rhan ynddi erbyn hyn.
Wrth ymweld ag Ysgol Gymunedol Tonyrefail, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, y cyfle i gwrdd â dysgwyr sydd bellach yn astudio iaith ar lefel TGAU yn dilyn cael eu mentora gan Sasha, myfyrwraig o Brifysgol Caerdydd.
Cafodd 12 o ddisgyblion eu mentora gan Sasha yn 2023, a dewisodd pump ohonyn nhw astudio Ffrangeg neu Sbaeneg ar lefel TGAU. Roedd Sasha yn ei hail flwyddyn o astudio ar gyfer gradd BA Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Dywedodd Lynne Neagle: “Rwy’n falch iawn o weld effaith y rhaglen fentora hon o ran ennyn diddordeb dysgwyr. Mae Cymru’n genedl sy’n edrych tuag allan, a gall ieithoedd rhyngwladol helpu i godi dyheadau ac ehangu gorwelion ein holl ddysgwyr.
“Mae yna lawer o heriau sy’n wynebu ieithoedd rhyngwladol ledled y DU, ond mae’n galonogol gweld y gwahaniaeth y mae’r rhaglen hon yn ei wneud yng Nghymru a’r cysylltiad cryfach â’n hysgolion a’n prifysgolion.”
Mae’r disgybl Ollie, a gafodd ei fentora ym mlwyddyn 9, yn ystyried ei brofiad: “Fe wnes i fwynhau'n fawr y profiad o gael fy mentora. Roeddwn i’n hoffi’r ffaith ein bod ni’n cael ein mentora gan fyfyriwr prifysgol. Roedd ein mentor o oed tebyg i ni. Oherwydd hynny, roedd y sesiynau’n ddymunol ac yn llai tebyg i wersi ysgol.
“Y rhan fwyaf diddorol o’r rhaglen oedd y rhan oedd yn canolbwyntio ar gerddoriaeth, a hynny oherwydd y patrymau ieithyddol gwahanol. Wedi’r profiad, fe wnes i ddechrau gwylio ffilmiau a sioeau teledu gydag is-deitlau yn Ffrangeg a chymryd sylw o’r geiriau roeddwn i’n eu hadnabod a ddim yn eu hadnabod. Byddwn i’n dweud bod y profiad wedi fy mherswadio i astudio Ffrangeg ar lefel TGAU. Hefyd, hoffwn i barhau i astudio Ffrangeg uwchlaw lefel TGAU, os yn bosib, gan fod Ffrangeg i mi’n iaith ddiddorol ac yn ddefnyddiol wrth i mi ddod yn ddwyieithog bob yn dipyn.”
Mae arolwg yn cael ei ddefnyddio i nodi’r disgyblion hynny sydd rhwng dau feddwl a ddylen nhw astudio iaith ryngwladol neu beidio. Mae’r arolwg hefyd yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth werthfawr am agweddau dysgwyr at bynciau ysgol, teithio’n rhyngwladol a gyrfaoedd. Yn 2023, roedd 115 o ysgolion uwchradd yng Nghymru’n ymwneud â’r rhaglen, gan arwain at fwy na 15,000 o ymatebion.
Mae’r arolwg wedi dangos bod dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ychydig yn fwy tebygol o ddewis astudio iaith ryngwladol ar lefel TGAU na’r rhai mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae merched ddwywaith yn fwy tebygol o ddewis astudio iaith ryngwladol ar lefel TGAU na bechgyn.
Mae ieithoedd rhyngwladol yn wynebu mwyfwy o heriau mewn ysgolion ledled y DU. Mae effaith wedi bod ar Almaeneg yn benodol, a gwelwyd gostyngiad o 28% yn nifer y dysgwyr yng Nghymru sy’n dewis astudio iaith ryngwladol ar lefel TGAU rhwng 2018 a 2023.
Mae llawer o’r heriau’n rhai rhyng-gysylltiedig, ond mae tîm ymchwil Prifysgol Caerdydd wedi dangos bod ieithoedd yn isel ar y rhestr o bynciau sy’n cael eu hystyried gan ddysgwyr. Mae’r rhaglen yn ceisio torri’r cylch hwn wrth i ddysgwyr ddewis eu pynciau, a hynny drwy ddangos sut y gall ieithoedd gael effaith go iawn ar eu dyfodol.
Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, sy’n arwain y rhaglen ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae ein rhaglen fentora’n ceisio rhoi cyfle i ddysgwyr weithio gyda mentoriaid yn y Brifysgol sydd o oed tebyg iddyn nhw ac sy’n gallu ysbrydoli cariad at ieithoedd.
“O safbwynt dysgu iaith, mae’r mentoriaid yn ymateb i awydd y dysgwyr i wybod am y byd o’u cwmpas. Mae ein mentoriaid yn gwneud gwaith gwych o ran dangos y budd personol a phroffesiynol y gallwch chi ei gael o ddysgu iaith a’r profiadau bywyd cyfoethog y gall dysgu iaith eu cynnig ym myd addysg a thu hwnt.”
Mae’r Cwricwlwm i Gymru’n cyflwyno ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd, gan feithrin cariad at ieithoedd o oed llawer cynharach. Bydd cyfres ddiwygiedig o gymwysterau ar gael am y tro cyntaf yn 2025 i helpu i godi safonau a dyheadau pob dysgwr.