Ewch i’r prif gynnwys

Rhedwyr Hanner Marathon Caerdydd #TeamCardiff yn codi dros £34mil

7 Hydref 2024

TeamCardiff at the 2024 Cardiff Half Marathon with the Vice Chancellor

Ddydd Sul 6 Hydref, gwnaeth dros 100 o gyn-fyfyrwyr, myfyrwyr a staff redeg Hanner Marathon Principality Caerdydd i godi arian dros ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd.

Rhedodd #TeamCardiff yr 13.1 milltir i godi arian dros niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl, ac ymchwil canser.

Hyd yn hyn, drwy Rodd Cymorth, mae'r tîm wedi codi £34,000, sy’n swm anhygoel a fydd yn helpu'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr canser a niwrowyddoniaeth. Bydd eu hymdrechion yn helpu i gyflymu darganfyddiadau a datblygu triniaethau ar gyfer ystod o ganserau, clefyd Alzheimer a Parkinson, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD), iselder, a sgitsoffrenia.

Roedd gan lawer o'n rhedwyr #TeamCardiff resymau personol dros redeg yr Hanner Marathon ac roedden nhw’n codi arian i ddathlu neu er cof anwyliaid.

Ar y diwrnod, daeth yr Is-Ganghellor yr Athro Wendy Larner i gwrdd â rhai o redwyr #TeamCardiff i ddymuno pob lwc iddyn nhw yn y ras.

Pleser oedd cefnogi rhedwyr #TeamCardiff sydd wedi gwneud gwaith mor wych i godi arian dros ymchwil Prifysgol Caerdydd. Peth hyfryd oedd gweld cynifer o grysau coch a hoffwn estyn llongyfarchiadau mawr iawn a diolch yn fawr iawn i bob un ohonyn nhw.
Yr Athro Wendy Larner Dywedodd Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd

Er gwaethaf y tywydd gwlyb braidd, cafodd y rhedwyr gefnogaeth miloedd o wylwyr a chawson nhw hwb ychwanegol yn ystod yr 8fed Filltir wrth orsaf curo dwylo #TeamCardiff. Daeth cefnogwyr, teulu, ffrindiau, Dylan y Ddraig, a Band Pres Prifysgol Caerdydd ynghyd i greu awyrgylch gwych a rhoi'r anogaeth angenrheidiol i'n rhedwyr i fynd i'r afael â'r 5 milltir olaf i'r llinell derfyn.

Gwyliwch: TeamCardiff Hanner Marathon Caerdydd 2024

Ar ôl y ras, cafodd y rhedwyr blinedig dyliniadau am ddim gan fyfyrwyr Ffisiotherapi o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Rydyn ni mor ddiolchgar i'n holl redwyr #TeamCardiff yn ogystal â'r gwirfoddolwyr am greu digwyddiad mor wych. Diolch.

Cefnogwch #TeamCardiff

Gallwch ddal i gefnogi ein rhedwyr #TeamCardiff drwy eu tudalennau JustGiving unigol neu drwy gyfrannu at y tîm cyfan.

Ymunwch â #TeamCardiff yn 2025

Os hoffech chi godi arian dros ymchwil Prifysgol Caerdydd, edrychwch ar ein hystod o ddigwyddiadau rhedeg gan gynnwys Hanner Marathon Caerfaddon a Pharis a Marathon Barcelona fis Mawrth nesaf. Gallwch chi hefyd fynegi eich diddordeb mewn cael un o’n lleoedd elusennol yn Hanner Marathon Caerdydd 2025.

Os hoffech chi ddysgu rhagor am godi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd, cysylltwch â Steph Cuyes, Swyddog Codi Arian Cymunedol drwy e-bostio donate@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon