Ewch i’r prif gynnwys

Cymru a Wcráin yn cofio'r newyddiadurwr Gareth Jones 90 mlynedd ar ôl ei farwolaeth

1 Hydref 2024

Grŵp o bobl yn sefyll mewn darlithfa.
Cafodd Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones ei lansio eleni yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd. Ch-Dd: Iryna Skorbun, Elaine Moore, Stuart Robb, Catrin Pascoe, Martin Shipton and Tom Allbeson.

Mae cystadleuaeth ysgrifennu er cof am newyddiadurwr enwog o Gymru wedi cael ei lansio yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.

Roedd cyn-ohebydd y Western Mail, Gareth Vaughan Jones, yn allweddol wrth ddatgelu'r Holodomor – y Newyn Mawr - yn Wcráin yn ystod y 1930au.

Roedd Jones hefyd yn ymchwilydd ac awdur enwog a adroddodd ar densiynau yn Ewrop, yn ogystal â llwybr y Blaid Natsïaidd i boblogrwydd yn yr Almaen. Bu farw yn 1935 yn nwylo 'lladron' Tsieineaidd tybiedig ym Mongolia Fewnol.

Cafodd Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones ei lansio eleni yng nghynhadledd y Brifysgol, Against the Grain: Investigative journalism and links between Wales and Ukraine in an age of propaganda and disinformation.

Dywedodd cynrychiolydd ar ran Y Werin sy'n gweinyddu'r ysgoloriaeth, Dr Stuart Robb, a gyhoeddodd y wobr o flaen myfyrwyr a newyddiadurwyr o'r ddwy wlad: "Nod sefydlu Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones oedd cefnogi cenedlaethau'r dyfodol i ddod yn ddinasyddion byd-eang. Mae Y Werin yn ddiolchgar am gefnogaeth JOMEC a'r Western Mail am lansio cynllun 2024/25, yn enwedig o ystyried perthynas Gareth Jones â'r Western Mail a rôl y papur newydd wrth sefydlu'r cynllun ysgoloriaeth.

"Y gobaith yw y bydd eleni nid yn unig yn gyfle i gofio pwysigrwydd Gareth Jones a'r gwersi y gallwn ni eu dysgu o'i fywyd a mynd ar drywydd y gwirionedd bob amser, ond bydd hefyd yn ysbrydoli a rhoi cyfle i fyfyrwyr, graddedigion, newyddiadurwyr ymchwiliol y dyfodol a'r rhai a fydd â rolau arweiniol ym meysydd materion rhyngwladol yn y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd Lesya Hasydzhak, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Genedlaethol Hil-laddiad Holodomor, Wcráin: Heddiw, yn 10fed flwyddyn y rhyfel yn erbyn Wcráin, gyda Rwsia yn defnyddio propaganda yn ogystal â rocedi a newyn, mae grym y gwirionedd, adrodd gwrthrychol a meddwl gwyddonol dwfn yn werthfawr. Yn y cyd-destun hwn, mae rôl ymchwilwyr a newyddiadurwyr yn hanfodol.

"Mae'n werthfawr iawn bod rhaglen ysgoloriaeth yng Nghaerdydd, ym mhrifddinas Cymru, yng ngwlad enedigol y dyn dewr a gonest Gareth Jones, yn cael ei sefydlu yn ei enw ar gyfer y gweithwyr proffesiynol hyn. Mae ei enw yn symbol o urddas, o fuddugoliaeth y gwirionedd a moeseg broffesiynol. Po fwyaf o leisiau sy'n adrodd y ffeithiau ac yn agor llygaid y byd, po gryfaf y bydd y byd yn wyneb bygythiad cyfundrefnau totalitaraidd a misanthropig."

Caiff holl raddedigion prifysgolion Cymru, yn enwedig y rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth neu faterion rhyngwladol, ymgeisio am y wobr.

Bydd yr enillydd yn derbyn £2,500 i ariannu eu cynlluniau teithio i'w helpu i ysgrifennu stori nodwedd ar bwnc ‘Cymru a'r Byd’, a fydd yn cael ei chyhoeddi yn y Western Mail.

Dywedodd golygydd y Western Mail, Catrin Pascoe: "Does dim dwywaith bod gonestrwydd newyddiadurol Gareth Jones yn parhau i ysbrydoli ein gwaith yn y Western Mail bob dydd. Rydyn ni’n parhau i fod yn falch iawn o'i waddol 90 mlynedd yn ddiweddarach.

"Rydyn ni hefyd yn falch iawn o allu cefnogi'r ysgoloriaeth bwysig hon a helpu newyddiadurwyr ifanc uchelgeisiol o Gymru i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd - mae'n teimlo'n arbennig o amserol ac ingol o ystyried y rhyfel yn Wcráin a'r angen parhaol am adrodd ffeithiol. Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen eu herthyglau."

Cafodd y gynhadledd undydd ei chynnal gan yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ar y cyd â'r Ysgol Newyddiaduraeth yn Academi Genedlaethol Prifysgol Kyiv-Mohyla, a'i chefnogi gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr.

Dywedodd trefnydd y gynhadledd, Dr Tom Allbeson, uwch ddarlithydd yn hanes y cyfryngau: "Roedd academyddion ac ymarferwyr o bob rhan o Ewrop yn bresennol yn y gynhadledd neu ar-lein i drafod pwysigrwydd a heriau newyddiaduraeth ymchwiliol. Tynnodd y digwyddiad ysbrydoliaeth o'r heriau y mae newyddiadurwyr yn eu hwynebu yn adrodd ar y gwrthdaro rhwng Rwsia a Wcráin sy’n mynd rhagddo, yn ogystal â gwaddol hanesyddol y newyddiadurwr Cymreig a gafodd ei lofruddio, Gareth Jones.

"Fe wnaethon ni hefyd gofio'r gohebwyr a'r awduron niferus sydd wedi colli eu bywydau yn y gwrthdaro presennol, gan gynnwys Victoria Amelina, a gafodd ei lladd gan gyrch taflegrau o Rwsia ar gaffi yn Kramatorsk ym mis Mehefin 2023. Rydyn ni’n gobeithio bod y digwyddiad wedi cryfhau cysylltiadau diwylliannol drwy dynnu sylw at ymrwymiad i newyddiaduraeth rydyn ni’n ei rannu, yn ogystal â bod yn atgof o'r risgiau sy'n wynebu newyddiadurwyr."

I ddysgu rhagor am Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones a sut i wneud cais, ewch i: https://cardiffjournalism.co.uk/

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn ganolfan sydd ar flaen y gad ar gyfer addysgu ac ymchwil ym maes y cyfryngau.