Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu perfformiad rhagorol

1 Hydref 2024

Professor Dimitris Potoglou, Jake Robbins, Charlotte Loder, and Professor Gillian Bristow (L-R)

Mae Jake Robbins a Charlotte Loder, sydd newydd gwblhau eu hastudiaethau Trafnidiaeth a Chynllunio (MSc) yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, wedi cael eu cydnabod am eu perfformiad academaidd rhagorol.

Cyflawnodd Jake a Charlotte y marc uchaf am yr elfen a addysgir yn y rhaglen meistr, gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen Dr Dimitris Potoglou yn canmol y ddau am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i faes cyffrous trafnidiaeth a chynllunio.

Cafodd Jake gopi o lyfr arobryn yr Athro Emeritws Huw Williams, Forecasting Urban Travel Past, Present and Future, yn rhodd. Ysgrifennodd y llyfr ar y cyd â’r Athro David Boyce o Brifysgol Illinois yn Chicago, ac enillodd Wobr Goffa William Alonso yn 2016 am Waith Arloesol mewn Gwyddoniaeth Ranbarthol.

Cafodd Charlotte gopi o’r Handbook of Travel Behaviour, y llyfr cyntaf y mae Dr Potoglou wedi’i olygu. Yn y llyfr, mae Dr Potoglou a Dr Justin Spinney yn dod ag ystod ryngwladol o academyddion uchel eu parch ynghyd i drin a thrafod dulliau dadansoddi ymchwil, ystyriaethau amgylcheddol, a ffactorau cymdeithasol.

Dywedodd yr Athro Emeritws Huw Williams: “Llongyfarchiadau i raddedigion 2023-24 am eich holl ymdrechion ar y cwrs. Rwy'n arbennig o falch y bydd fy llyfr 'Forecasting Urban Travel', a ysgrifennais i ar y cyd â David Boyce, yn cael ei gyflwyno i Jake Robbins! Da iawn!”

Dywedodd Dr Potoglou: “Hoffwn i longyfarch Jake a Charlotte am eu cyflawniadau a'u gwaith caled. Rwy'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw yn eu hymdrechion yn y dyfodol.

"Hoffwn i ddiolch i'r Athro Williams am ei haelioni'n rhoi copi o'i lyfr diffiniol uchel ei fri - cyfeirlyfr allweddol i bob ymchwilydd ac ymarferwr teithio - unwaith eto'n wobr. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’n fawr ei gefnogaeth barhaus i'r Ysgol, ein gwaith, ac i'n myfyrwyr eithriadol."

Rhannu’r stori hon