Ewch i’r prif gynnwys

Mae RemakerSpace yn lansio hyfforddiant cynaliadwyedd i wella arloesedd busnesau

30 Medi 2024

Mae RemakerSpace, yn fenter arloesedd yr economi gylchol, wedi lansio rhaglen hyfforddi newydd i helpu busnesau i wella eu harferion cynaliadwyedd.

Mae'r gweithdai, sydd bellach ar gael i gofrestru arnyn nhw, wedi'u cynllunio i roi sgiliau i weithwyr proffesiynol ar draws y diwydiannau, megis peirianwyr, dylunwyr, arweinwyr busnes, entrepreneuriaid, ag eraill - i roi arferion cynaliadwy ar waith yn eu gweithrediadau.

Gan feithrin creadigrwydd ac arloesedd a chynnwys ystod eang o bynciau, megis egwyddorion yr economi gylchol, dylunio cynaliadwy, a thechnegau datrys problemau arloesol, mae'r cyrsiau hyn yn dechrau newid y ffordd y mae busnesau'n gweithredu.

Gan gael eu cyflwyno gan dîm amlddisgyblaethol o academyddion, ymarferwyr ac arbenigwyr technegol, bydd y sesiynau’n rhoi'r arbenigedd a'r sgiliau i'r rhai sy'n bresennol i ragori mewn argraffu 3D ac arferion gweithgynhyrchu cynaliadwy. Bydd cyfranogwyr hefyd yn cael mynediad at gyfleusterau o’r radd flaenaf RemakerSpace, sydd wedi'u lleoli yn adeilad sbarc|spark, Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd.

Dywedodd Rebecca Travers, Rheolwr Canolfan RemakerSpace: "Rydyn ni’n falch iawn o gynnig y rhaglenni hyfforddi hyn i sefydliadau sy’n ceisio cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd ac i hybu arloesedd yn eu timau. Ein nod yw galluogi busnesau i roi arferion cynaliadwy ar waith sydd nid yn unig o fudd i’r blaned, ond hefyd i fod ar y blaen yn gystadleuol.’’

Mae’r lansiad yma yn garreg filltir o bwys i RemakerSpace wrth hyrwyddo cynaliadwyedd ac arloesedd ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau.

Sefydlwyd RemakerSpace â chefnogaeth Cronfa Gyfalaf Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, a chyfraniad sylweddol gan Ysgol Busnes Caerdydd.

Rhagor o wybodaeth

  • Ewch i wefan RemakerSpace
  • Cysylltwch â Rebecca Travers i fynegi eich diddordeb
Picture of Rebecca Travers

Mrs Rebecca Travers

Rheolwr y Ganolfan, RemakerSpace

Telephone
+44 29208 79611
Email
TraversR@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon