Ewch i’r prif gynnwys

Hyfforddiant Adnabod Emosiynau Caerdydd nawr ar gael yn Gymraeg

2 Hydref 2024

Social and Emotional
Gwneir asesiadau cymdeithasol ac emosiynol.

Er mwyn adnabod emosiynau mewn eraill mae angen i ni allu adnabod mynegiadau’r wyneb. Mae'r rhan fwyaf o blant yn dysgu hyn dros eu hunain, ond weithiau gall fod yn ddefnyddiol addysgu adnabyddiaeth wyneb o emosiwn yn benodol. Er mwyn gwella’r broses o fynegiadau’r wyneb o hapusrwydd, tristwch, ofn a dicter, mae Prifysgol Caerdydd wedi datblygu Hyfforddiant Adnabod Emosiynau Caerdydd (HAEC), sef rhaglen gyfrifiadurol i adnabod emosiwn. Ewch i wefan HAEC i gael rhagor o fanylion. Mae'r hyfforddiant ar gael mewn sawl iaith wahanol; Saesneg, Iseldireg, Almaeneg, Ffinneg, a nawr yn Gymraeg.

Yn ogystal â gwella gallu adnabod emosiwn, mae'r HAEC hefyd yn anelu i;

  • gwella'r gallu i ddeall pryd a pham mae rhai emosiynau penodol yn cael eu cyfleu
  • gwella'r gallu i ddeall gall pobl ddangos gwahanol emosiynau yn yr un sefyllfa
  • cynnig arweiniad ar yr ymateb priodol i rywun sy'n dangos emosiwn penodol

Rhannu’r stori hon