Ewch i’r prif gynnwys

Mae podlediad The Power of Public Value yn dychwelyd gyda straeon ysbrydoledig am fusnes er daioni

1 Hydref 2024

The Power of Public Value

Mae podlediad Ysgol Busnes Caerdydd, The Power of Public Value yn ôl ar gyfer ei hail gyfres, gan drin a thrafod sut mae'r Ysgol yn sbarduno newid busnes ystyrlon sy'n mynd y tu hwnt i elw.

Cynhelir gan Yr Athro Peter Wells, Rhag Deon Gwerth Cyhoeddus yn Ysgol Busnes Caerdydd ac mae pob pennod yn tynnu sylw at daith unigryw gwestai wrth ddefnyddio busnes er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

O lunio polisïau Sero Net a datrys gwrth-hiliaeth i fynd i'r afael â'r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau a hyrwyddo'r Gymraeg, mae'r gyfres yn ymchwilio i sut mae gwerth cyhoeddus yn cael ei ymgorffori mewn ymchwil, addysgu ac ymgysylltu yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Mae The Power of Public Value yn helpu gwrandawyr i feddwl yn wahanol am sut gall busnes lunio ein cymdeithas a'n heconomi. Cewch chi glywed ein gwesteion yn dehongli, yn diffinio ac yn cynrychioli egwyddorion gwerth cyhoeddus yr ysgol, wedi'u harwain gan eu cymhellion personol, eu gwerthoedd a'u diddordebau ymchwil eu hunain.

"Mae'r fersiwn ddiweddaraf hon o The Power of Public Value yn rhoi cipolwg ar sut mae ein hethos wedi ysbrydoli ac annog staff a myfyrwyr fel ei gilydd, gan ddod ag ymchwil o'r radd flaenaf i'r ystafell ddosbarth ac wynebu rhai o'r heriau enfawr sy'n wynebu'r byd heddiw."
Yr Athro Peter Wells Professor of Business and Sustainability, Director of the Centre for Automotive Industry Research, Pro Dean Public Value

..."Yn y gyfres hon byddwch chi’n clywed gan fyfyriwr MBA o India, rhywun a enillodd OBE yn ddiweddar, hyrwyddwyr y Gymraeg, ffanatig bwyd lleol, ac economegydd yn cynnig ateb syml i gwestiwn syml."

Mae'r gyfres newydd yn dechrau ddydd Mawrth 1 Hydref, gyda phenodau yn cael eu rhyddhau'n wythnosol. Yn y bennod gyntaf, mae Dr Maryam Lotfi yn siarad â Peter am ei gwaith ar ddatgelu caethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi byd-eang. Mae'n rhannu ei phrofiadau o ymchwil maes ac ymgysylltu uniongyrchol â gweithwyr i fynd i'r afael â'r materion hyn.

Dyma glip o’r bennod 1af:

https://youtu.be/zrE3SNSI-ho

Cyfres 2 penodau a gwesteion

  • Pennod 1: Datgelu caethwasiaeth fodern mewn cadwyni cyflenwi byd-eang - Dr Maryam Lotfi
  • Pennod 2: Hyrwyddo'r Gymraeg a rhagolwg byd-eang - Yr Athro Eleri Rosier
  • Pennod 3: Nodweddion gwerth cyhoeddus gan fyfyriwr MBA o Gaerdydd - Jagatheep Kumar
  • Pennod 4: Llunio polisi ar gyfer dyfodol Sero Net - Dr Helen Tilley
  • Pennod 5: Cau'r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau - Dr Alison Parken
  • Pennod 6: Sbarduno newid gwrth-hiliaeth yng Nghymru - Yr Athro Emmanuel Ogbonna
  • Pennod 7: Cyfrifo difodiant a helpu busnesau i fynd i'r afael â bioamrywiaeth - yr Athro Jill Atkins
  • Pennod 8: Llunio dyfodol bwyd a diod Cymru - Dr Robert Bowen
  • Pennod 9: Economeg ar gyfer cymdeithas well - Dr Iain Long

Tanysgrifio a gwrando

Dilyn, gwneud sylwadau ac ymgysylltu â ni ar gyfryngau cymdeithasol

Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth

Picture of Peter Wells

Yr Athro Peter Wells

Athro Busnes a Chynaliadwyedd, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i'r Diwydiant Modurol, Pro Dean for Public Value

Telephone
+44 29208 75717
Email
WellsPE@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon