Ewch i’r prif gynnwys

Diogelu ein treftadaeth adeiledig a’n casgliadau

1 Hydref 2024

3-D o adeilad.
Mae ymchwilwyr yn defnyddio dadansoddiad digidol 3-D o adeiladau hanesyddol i ddeall yn well sut y gellir eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Bydd adeiladau a chasgliadau o bwys hanesyddol yn cael eu diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, diolch i brosiect newydd gan Brifysgol Caerdydd.

Yn labordy PERFFORM, dan arweiniad academyddion yn yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ac Ysgol Pensaernïaeth Cymru, bydd y technegau gwyddonol diweddaraf yn cael eu defnyddio i ddeall sut y gall ffactorau amgylcheddol effeithio ar adeiladau hanesyddol a chasgliadau, gan gynnig arweiniad ar sut i’w diogelu.

Dyma un o 31 o brosiectau sydd wedi’u cyhoeddi gan Seilwaith Ymchwil ar gyfer y Gwyddorau Cadwraeth a Threftadaeth (RICHeS) – un o raglenni Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI). Bydd y prosiectau’n datgloi potensial casgliadau treftadaeth sy’n bodoli eisoes, gan roi mynediad i asedau diwylliannol heb eu cyffwrdd er mwyn diogelu a thyfu sector treftadaeth y DU gwerth £29 biliwn.

Bydd PERFFORM yn gartref i offer o’r radd flaenaf, a fydd yn galluogi’r defnyddwyr i edrych ar adeiladau hanesyddol a’r amodau amgylcheddol ynddyn nhw. Byddan nhw’n gallu modelu’r effaith amgylcheddol ar strwythurau ac arteffactau er mwyn sicrhau eu bod yn para am genedlaethau i ddod, yn ogystal ag ystyried addasrwydd mesurau effeithlonrwydd ynni.

Bydd arbenigwyr o’r Brifysgol hefyd yn gallu mynd ag offer symudol gyda nhw i safleoedd er mwyn rhoi syniad yn y fan a’r lle o gyflwr y safle a sut i’w ddiogelu.

Dywedodd cyfarwyddwr y prosiect, Dr Nicola Emmerson o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: “Bydd Cymru a’i threftadaeth yn elwa’n fawr o’r cyllid hwn. Mae diogelu arteffactau hanesyddol yn dibynnu ar eu hamgylchedd, ac mae newid yn yr hinsawdd yn gwneud y mater hwn yn un pwysicach fyth ac yn un mwyfwy cymhleth. Bydd PERFFORM yn cynnwys cyfleuster efelychu’r hinsawdd, sy’n tynnu ar arbenigedd helaeth y Brifysgol yn y maes hwn, a hynny er mwyn sicrhau bod gan sefydliadau’r wybodaeth sydd ei hangen i asesu’n gywir sut i wneud eu hadeiladau’n addas at y diben am flynyddoedd i ddod.”

Dywedodd y cyd-arweinydd, yr Athro Oriel Prizeman o Ysgol Pensaernïaeth Cymru: “Heb ddeall yn llawn sut mae adeiladau hanesyddol yn gweithio, mae’n bosibl achosi niwed annisgwyl iddyn nhw wrth eu hôl-osod. Gall arolygu’n gywir a modelu amgylcheddol fod yn ddrud ac allan o gyrraedd yn achos prosiectau llai megis eiddo domestig. Bydd ein pecyn cymorth digidol o’r radd flaenaf yn sicrhau mai nod llawer haws ei gyflawni yw dadansoddi a deall eu perfformiad amgylcheddol optimaidd.”

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Historic Environment Scotland, English Heritage a Historic England hefyd ymhlith y 100 partner o bob un o bedair gwlad y DU a thramor a fydd yn creu rhwydwaith gwirioneddol flaenllaw o arbenigwyr ym maes treftadaeth.

Gyda’i gilydd, byddan nhw’n sicrhau bod y DU yn cynnal ei henw da ledled y byd o fod yn archbŵer ym maes treftadaeth ddiwylliannol.

Mae rhaglen RICHeS yn cael ei hariannu gan fuddsoddiad gwerth £80 miliwn gan Gronfa Seilwaith UKRI a’i chyflawni gan AHRC.

Dywedodd Cadeirydd Gweithredol AHRC, yr Athro Christopher Smith: “Mae treftadaeth ddiwylliannol y DU yn gyfoethog ac yn unigryw. Mae’r DU hefyd yn arweinydd byd-eang ym maes gwyddor cadwraeth treftadaeth. Drwy fuddsoddi ym maes gwyddor treftadaeth, rydyn ni nid yn unig yn sicrhau dealltwriaeth newydd o’n hasedau diwylliannol ond hefyd yn rhoi hwb i economi treftadaeth sy’n arwain y byd, a fydd o fudd i bob un ohonon ni.”

Rhannu’r stori hon