Cynllunio ymlaen llaw – Myfyrwyr Meistr wedi sicrhau cyllid bwrsariaethau
26 Medi 2024
Mae dau fyfyriwr ôl-raddedig yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn dathlu ar ôl sicrhau bwrsariaethau nodedig i ariannu eu hastudiaethau.
Bydd Kieran Horspole a Thomas Callard yn astudio ar gyfer MSc mewn Trafnidiaeth a Chynllunio.
Cafodd Thomas Callard fwrsariaeth gan Gronfa Bwrsariaethau Brian Large, a sefydlwyd yn 1990 yn deyrnged i Brian Large, un o gyfarwyddwyr Grŵp MVA (ymgynghorwyr cynllunio trafnidiaeth).
Dyfernir y bwrsariaethau er mwyn parhau â gwaith Brian i gefnogi datblygiad proffesiynol a sgiliau'r rheini ar ddechrau eu gyrfaoedd ac i sicrhau y gall myfyrwyr cymwys gwblhau eu hastudiaethau ym maes trafnidiaeth a chynllunio.
Cafodd Kieran Horspole fwrsariaeth gan Gronfa Ffyrdd Rees Jeffreys i ddilyn ei astudiaethau ôl-raddedig.
Sefydlwyd Cronfa Ffyrdd Rees Jeffreys gan William Rees Jeffreys, arloeswr ym maes gwella teithio i ddefnyddwyr ffyrdd a ddatblygodd y system dosbarthu ffyrdd cenedlaethol, ym 1950. Ers ei farwolaeth ym 1954, mae gwaddol ei ystâd wedi rhoi cefnogaeth ariannol i addysg ac ymchwil ym maes trafnidiaeth.
Dywedodd Thomas: “Rwy’n falch iawn o gael Bwrsariaeth Brian Large, a fydd yn cefnogi fy astudiaethau trwy gydol y cwrs MSc Trafnidiaeth a Chynllunio. Mae’n gyfle gwych i mi baratoi ar gyfer gyrfa ym maes cynllunio trafnidiaeth, ac rwy’n hyderus y bydd y cymorth hwn yn cael effaith ddylanwadol ar fy ngyrfa yn y diwydiant trafnidiaeth.”
Dywedodd Kieran: “Yn ystod fy astudiaethau israddedig, datblygais i ddiddordeb yn sector trafnidiaeth maes cynllunio. Bydd Cronfa Ffyrdd Rees Jeffrey yn caniatáu imi ddilyn gyrfa yn yr hyn rwy’n wirioneddol angerddol amdano, sef rhoi systemau trafnidiaeth effeithiol ar waith mewn ardaloedd trefol. Rwy’n hynod ddiolchgar i gael y wobr hon a fydd yn caniatáu i mi symud ymlaen i’r sector trafnidiaeth y tu hwnt i’m hastudiaethau ôl-raddedig er mwyn cyfrannu at opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy effeithlon a dymunol yn y dyfodol ym mhob cwr o’r DU.
“Mae bwrsariaeth Cronfa Ffyrdd Rees Jeffrey wedi rhoi’r cyfle i mi ddilyn cwrs Trafnidiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd a rhoi hwb i’m dyfodol, gan gyfrannu at arloesedd ym maes cynllunio trafnidiaeth yn y dyfodol.”
Yr MSc Trafnidiaeth a Chynllunio yw un o raglenni ôl-raddedig pwysicaf yr ysgol. Mae ganddi hanes hir a llwyddiannus o helpu myfyrwyr sy’n cyrraedd yr Ysgol i sicrhau bwrsariaethau a chyllid i gyflawni eu dyheadau academaidd.
Dyma a ddywedodd Dr Dimitris Potoglou, Cyfarwyddwr y Rhaglen: “Llongyfarchiadau i Kieran a Thomas ar gael bwrsariaethau i astudio yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio. Mae hyn yn dyst i'w cyflawniadau academaidd a'u hangerdd dros drawsnewid dyfodol cynllunio trefol a thrafnidiaeth.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i’w croesawu i’n rhaglen, lle byddan nhw’n cael y cyfle i ennill gwybodaeth flaengar a mynd i’r afael â heriau byd-eang hollbwysig.”